still from dream horse featuring toni collette holding a trophy and celebrating during a street party parade

Cronfa cynhyrchu ffilmiau Cymru Greadigol i’w chyflawni gan Ffilm Cymru Wales

O’r 29ain Gorffennaf 2022, bydd cyllid cynhyrchu Cymru Greadigol ar gyfer ffilmiau yn cael ei gyflawni drwy Ffilm Cymru Wales. Caiff hyn ei wneud drwy gydweithrediad newydd ar gyfer ffilmiau nodwedd annibynnol gyda thalent o Gymru yn ganolog iddynt.

Bydd Ffilm Cymru Wales yn gweinyddu’r gronfa newydd o £1miliwn y flwyddyn am gyfnod o ddwy flynedd i gychwyn. Bydd hyn yn cael ei gyfuno ag arian y Loteri Genedlaethol sydd wedi’i ddirprwyo iddynt gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gall cynhyrchwyr bellach gael mynediad at hyd at £600,000 fesul prosiect drwy un broses ymgeisio, yn ddibynnol ar asesiad o’r buddion i Gymru, gan gynnwys talent o Gymru, gwariant yng Nghymru, hyfforddiant a buddion strategol.  

Bydd o leiaf £12miliwn yn cael ei gynhyrchu ar gyfer economi Cymru ar draws dwy flynedd gychwynnol y trefniant rhwng Cymru Greadigol a Ffilm Cymru, gan ddarparu hwb yn dilyn y pandemig i’r gymuned o weithwyr creadigol, cast, criw, gwasanaethau a chyfleusterau yng Nghymru sydd ar flaen y gad yn fyd-eang. O ran rheolaeth Ffilm Cymru, bydd ffocws yn parhau ar ffilmiau sy’n cael eu harwain gan awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr sy’n enedigol o Gymru neu sy’n seiliedig yma.

Ers 16 mlynedd, bu Ffilm Cymru’n cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau o Gymru sy’n dod i’r amlwg a rhai sydd wedi ennill eu plwy, gan gynhyrchu dros 80 o ffilmiau nodwedd gweithredu byw, animeiddiedig a dogfen. Mae’r rhain yn cynnwys Gwledd / The Feast gan Lee Haven Jones, Censor gan Prano Bailey-Bond, Save the Cinema gan Sara Sugarman, I Am Not a Witch gan Rungano Nyoni, ffilm ddogfen Hijra sydd ar y gweill gan Ila Mehrotra a ffilm nodwedd animeiddiedig Kensuke’s Kingdom.

Mae’r bartneriaeth newydd hon rhwng Ffilm Cymru a Chymru Greadigol yn adeiladu ar sylfaen o gydweithio creadigol ac economaidd sydd eisoes wedi arwain at gydariannu storïau wedi’u hadrodd yng Nghymru fel Dream Horse gan Euros Lyn a’r ddrama The Almond and the Seahorse sydd ar y gweill gan Mad as Birds Films, a ysgrifennwyd gan Kaite O'Reilly a’i chyd-gyfarwyddo gan Celyn Jones.

Drwy’r gronfa, bydd Ffilm Cymru a Chymru Greadigol yn parhau i feithrin y gronfa o dalent sydd yn y wlad, gan annog pobl o bob cefndir i ddatblygu eu sgiliau trosglwyddadwy yn yrfaoedd creadigol. Bydd yn ofynnol gan Ffilm Cymru i gynhyrchwyr gymryd hyfforddeion ar bob cynhyrchiad a gaiff ei gefnogi, a bydd yn eu cynorthwyo i wneud hynny. Daw’r hyfforddeion hyn o gyfuniad o ddarparwyr hyfforddiant trydydd parti a rhaglenni hyfforddiant Ffilm Cymru. Bydd cyfleoedd cynhwysol ar gael ar bob lefel, o newydd-ddyfodiaid a phrentisiaethau i ddatblygiad proffesiynol parhaus a chyfleoedd i gysgodi’r rhai sy’n creu ffilmiau. 

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: "Ers ei sefydlu, mae Cymru Greadigol wedi bod yn adolygu ei dull o wella a chynyddu ei chefnogaeth i gynhyrchiadau teledu a ffilm, ac mae cyllid newydd ar gyfer cynyrchiadau teledu a gemau hefyd ar gael nawr. Mae'r pecyn buddsoddi newydd a gwell hwn ar gyfer ffilm yw’r cam diweddaraf mewn cyfres o well fuddsoddiadau ar gyfer y sector.

"Bydd y dull newydd hwn o gynhyrchu ffilm yn rhoi hwb i’r diwydiant cynhyrchu ffilmiau yng Nghymru, gan ysgogi twf yn nifer ac amrywiaeth y cynyrchiadau a wneir yng Nghymru, tra hefyd yn sicrhau'r effaith economaidd fwyaf posibl ar yr economi leol, yn gwella cyfleoedd cyflogaeth, yn cefnogi datblygiad gweithlu medrus ymhellach, ac yn dangos ymhellach ragoriaeth Cymru ar y sgrin drwy ein talent o'r radd flaenaf,  criwiau, cyfleusterau a lleoliadau unigryw.

"Mae'r bartneriaeth unigryw hon rhwng Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales, yn dilyn y Memoranda Cyd-ddealltwriaeth diweddar gyda'r BBC ac S4C, yn enghraifft arall o sut mae ein dull partneriaeth yn sbarduno twf a datblygiad talent o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru."

Croesawodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Ffilm Cymru, y datblygiad diweddaraf hwn gan ddweud, “Ar ôl gweithio ers amser hir gyda gwneuthurwyr ffilmiau annibynnol o Gymru i helpu i wireddu eu prosiectau o ffilmiau nodwedd, rydym wrth ein bodd i fod yn cydweithio â Chymru Greadigol ar ein hamcanion cyffredin. Bydd y gronfa gynhyrchu yn parhau i ganolbwyntio ar dalent o Gymru, yn ogystal â gwneud y broses ariannu’n symlach a theilwra’r ddarpariaeth at anghenion cynhyrchwyr a’r sector yn ehangach.”

Dywedodd Catryn Ramasut, Rheolwr Gyfarwyddwr ieie productions a Chadeirydd Bwrdd Anweithredol Cymru Greadigol: "Mae cefnogi ac ehangu'r diwydiant ffilm a gwneud y broses yn fwy effeithlon a hygyrch yn flaenoriaeth i Cymru Greadigol. Mae gweithio gyda Ffilm Cymru Wales a'u tîm profiadol a gwybodus yn newyddion gwych i wneuthurwyr ffilmiau yng Nghymru, a bydd yn helpu i ddod â sinema Cymru i'r byd."

Bydd y gronfa’n agor i geisiadau ar 29ain Gorffennaf.