a photo of two people on an  outdoor film set with a piece of lighting equipment

Swyddi Ar Gael: Tîm Prosiect Troed yn y Drws

Byddwn yn cynnig cyfweliad awtomatig i bob ymgeisydd sy’n bodloni Meini Prawf Sylfaenol y rôl ac sy’n ystyried eu hunain yn Bobl o’r Mwyafrif Byd-eang, yn Ddu, Asiaidd neu o Leiafrif Ethnig, neu’n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl neu’n niwroamrywiol. 

I ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy’n F/fyddar, trwm eu clyw, Anabl, niwroamwyriol, a phobl sydd wedi colli’u golwg, mae cymorth ar gael gyda’ch cais. Cysylltwch â siobhan@ffilmcymruwales.com i drafod. 

logos: disability confident employer, living wage employer, anti-racism

Mae Ffilm Cymru yn recriwtio tîm i redeg eu prosiect hyfforddiant cynhwysol newydd i newydd ddyfodiaid, Troed yn y Drws, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.

Mae’r prosiect hwn yn estyniad o’n gweithgarwch Troed yn y Drws presennol. Mae’n gweithio gyda chonsortiwm mawr o bartneriaid cymunedol a’r sector sgrin i hybu ymwybyddiaeth o sgiliau sgrin a gweithgarwch hyfforddiant yn ardal Casnewydd a gwaredu rhwystrau economaidd-gymdeithasol i yrfa ym myd y sgrin.

Cewch wybod mwy am y pedair swydd isod.

newport county council logo

Rheolwr Prosiect

Mae Ffilm Cymru yn edrych am reolwr prosiect profiadol i oruchwylio a rheoli pob elfen o’r prosiect hwn gyda’r nod o sicrhau cyflawni’r gweithgarwch prosiect yn llwyddiannus ar brosiect Ffilm Cymru sy’n seiliedig yng Nghasnewydd ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Adnewyddu Gymunedol y DU. Y Rheolwr Prosiect fydd y prif bwynt cyswllt yn nhîm y prosiect, Ffilm Cymru a thîm Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yng Nghasnewydd, i sicrhau y caiff y prosiect ei gyflawni ar amser ac yn unol â’r gyllideb. Darparu diweddariadau rheolaidd a sicrhau bod tîm y prosiect, Uwch Dîm Rheoli Ffilm Cymru Wales a Chronfa Adnewyddu Gymunedol y DU yn deall cynllun cyflawni’r prosiect a’r cyflawniad yn erbyn y targedau a gytunwyd. Bydd yn cydweithio’n agos â’r Rheolwr Partneriaeth i reoli tîm bach a sicrhau y gall y partneriaid gyflawni yn erbyn yr amcanion. Mae’r Rheolwr Prosiect yn gyfrifol am oruchwylio cyflawniad targedau a chontractau a gytunwyd â phartneriaid y prosiect er mwyn casglu adborth o gychwyn y rhaglen a thrwy gydol y gwaith cyflawni er mwyn bwydo i mewn i adroddiadau i Gronfa Adfywio Cymunedol y DU. 

Adran: Datblygu, Cynhyrchu a Sgiliau 
Swydd: Rheolwr Prosiect, Amser Llawn, Cyfnod Penodol (posibilrwydd o rannu swydd) 
Yn adrodd i: Pennaeth Sgiliau a Hyfforddiant / Pennaeth Cynhyrchu 
Lleoliad: Cymru. Sylfaen y Prosiect: Sir Casnewydd, gyda mynediad i swyddfa Ffilm Cymru yng Nghaerdydd. Cyfuniad o weithio o bell ac wyneb yn wyneb yw’r disgwyl. 
Dyddiadau’r cyfweliadau: 14eg, 15fed a’r 16eg Rhagfyr (cadarnhewch ar eich ffurflen gais os na allwch ddod i unrhyw un o’r dyddiadau hyn) a byddant yn cael eu cynnal ar-lein 
Cyfnod: Ionawr 2022 – 30ain Mehefin 2022 
Cyflog: £40,000 y flwyddyn pro rata a chyfnod penodol hyd 30ain Mehefin 2022, ynghyd â phensiwn a 28 diwrnod o wyliau yn ogystal a Gwyliau Cyhoeddus.  
Sut i wneud cais: Anfonwch CV a llythyr eglurhaol i footinthedoor@ffilmcymruwales.com yn amlinellu pryd rydych ar gael a’ch profiad a’ch sgiliau yn erbyn yr hyn sydd wedi’i amlinellu yn y fanyleb hon oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat gwahanol i’r cais i gynorthwyo mynediad. 
Dyddiad cau: Dydd Iau 9fed Rhagfyr am hanner dydd. 

Gweinyddwr Prosiect

Mae Ffilm Cymru yn edrych am weinyddwr profiadol a threfnus sy’n dangos menter ac sy’n rhoi sylw mawr i fanylion. Bydd y rôl yn darparu cymorth gweinyddol i hwyluso ein prosiect Troed yn y Drws, gyda chymorth Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, i redeg yn llyfn ac effeithlon. Mae’r Gweinyddwr Prosiect yn rôl bwysig yn nhîm y prosiect, a bydd yn gweithio gyda’r Cydlynydd Prosiect, y Rheolwr Prosiect a’r Rheolwr Partneriaeth i sicrhau bod y prosiect yn cael ei weinyddu’n effeithiol. 

Adran: Datblygu, Cynhyrchu a Sgiliau 
Swydd: Gweinyddwr Prosiect, Amser Llawn, Cyfnod Penodol (posibilrwydd o rannu swydd)
Yn adrodd i: Rheolwr Prosiect 
Lleoliad: Cymru. Sylfaen y Prosiect: Sir Casnewydd, gyda mynediad i swyddfa Ffilm Cymru yng Nghaerdydd. Cyfuniad o weithio o bell ac wyneb yn wyneb yw’r disgwyl. 
Dyddiadau’r cyfweliadau: 14eg, 15fed a’r 16eg Rhagfyr (cadarnhewch ar eich ffurflen gais os na allwch ddod i unrhyw un o’r dyddiadau hyn) a byddant yn cael eu cynnal ar-lein
Cyfnod: Ionawr 2022 – 30ain Mehefin 2022 
Cyflog: £25,000 y flwyddyn pro rata a chyfnod penodol hyd 30ain Mehefin 2022, ynghyd â phensiwn a 28 diwrnod o wyliau yn ogystal a Gwyliau Cyhoeddus. 
Sut i wneud cais: Anfonwch CV a llythyr eglurhaol i footinthedoor@ffilmcymruwales.com yn amlinellu pryd rydych ar gael a’ch profiad a’ch sgiliau yn erbyn yr hyn sydd wedi’i amlinellu yn y fanyleb hon oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat gwahanol i’r cais i gynorthwyo mynediad. 
Dyddiad cau: Dydd Iau 9fed Rhagfyr am hanner dydd.

Cydlynydd Prosiect

Mae Ffilm Cymru yn edrych am Gydlynydd Prosiect i gydlynu gweithgarwch gyda’n tîm ymroddedig. Y nod fydd sicrhau bod gweithgarwch gwaith prosiect Ffilm Cymru ar brosiect Cronfa Adfer Cymunedol y DU yng Nghasnewydd yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus. Bydd y Cydlynydd Prosiect yn cynorthwyo’r tîm ac yn gweithio’n atebol i’r Rheolwr Prosiect, gan sicrhau bod y prosiect yn rhedeg ar amser ac yn unol â’r gyllideb.  

Adran: Datblygu, Cynhyrchu a Sgiliau 
Swydd: Cydlynydd Prosiect, Amser Llawn, Cyfnod Penodol (posibilrwydd o rannu swydd)
Yn adrodd i: Rheolwr Prosiect
Lleoliad: Cymru. Sylfaen y Prosiect: Sir Casnewydd, gyda mynediad i swyddfa Ffilm Cymru yng Nghaerdydd. Cyfuniad o weithio o bell ac wyneb yn wyneb yw’r disgwyl. 
Dyddiadau’r cyfweliadau: 14eg, 15fed a’r 16eg Rhagfyr (cadarnhewch ar eich ffurflen gais os na allwch ddod i unrhyw un o’r dyddiadau hyn) a byddant yn cael eu cynnal ar-lein
Cyfnod: Ionawr 2022 – 30ain Mehefin 2022 
Cyflog: £30,000 y flwyddyn pro rata a chyfnod penodol hyd 30ain Mehefin 2022, ynghyd â phensiwn a 28 diwrnod o wyliau yn ogystal a Gwyliau Cyhoeddus.
Sut i wneud cais: Anfonwch CV a llythyr eglurhaol i footinthedoor@ffilmcymruwales.com yn amlinellu pryd rydych ar gael a’ch profiad a’ch sgiliau yn erbyn yr hyn sydd wedi’i amlinellu yn y fanyleb hon oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat gwahanol i’r cais i gynorthwyo mynediad. 
Dyddiad cau: Dydd Iau 9fed Rhagfyr am hanner dydd.

Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol

Mae Ffilm Cymru yn edrych am weithiwr proffesiynol sydd wedi gweithio’n helaeth gyda sefydliadau cymunedol ac unigolion yng Nghasnewydd i ddatblygu a chynnal yr holl weithgareddau cymunedol ar brosiect Troed yn y Drws. Nod y rôl hon yw sicrhau bod gweithgarwch prosiect Ffilm Cymru ar brosiect Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yng Nghasnewydd yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus. Bydd y Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol yn gweithio yn rhan o dîm y prosiect ac yn atebol i’r Arweinydd Partneriaeth, gan sicrhau bod grwpiau cymunedol ac unigolion yng Nghasnewydd yn elwa o weithgarwch y prosiect. Bydd yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner, sefydliadau trydydd sector a grwpiau llawr gwlad i ddatblygu partneriaethau a sbarduno a hyrwyddo cyfleoedd yn y Diwydiannau Creadigol drwy ein partneriaid yn y diwydiant sgrin a thu hwnt. Bydd hefyd yn cynorthwyo ein partneriaid yn y diwydiant sgrin a’n cymunedau i weithio’n gydlynol a rhannu arferion gorau er mwyn creu partneriaethau cynaliadwy. 

Adran: Datblygu, Cynhyrchu a Sgiliau 
Swydd: Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol, Amser Llawn, Cyfnod Penodol (posibilrwydd o rannu swydd)
Yn adrodd i: Arweinydd Partneriaeth 
Lleoliad: Cymru. Sylfaen y Prosiect: Sir Casnewydd, gyda mynediad i swyddfa Ffilm Cymru yng Nghaerdydd. Cyfuniad o weithio o bell ac wyneb yn wyneb yw’r disgwyl. 
Dyddiadau’r cyfweliadau: 14eg, 15fed a’r 16eg Rhagfyr (cadarnhewch ar eich ffurflen gais os na allwch ddod i unrhyw un o’r dyddiadau hyn) a byddant yn cael eu cynnal ar-lein
Cyfnod: Ionawr 2022 – 30ain Mehefin 2022 
Cyflog: £35,000 y flwyddyn pro rata a chyfnod penodol hyd 30ain Mehefin 2022, ynghyd â phensiwn a 28 diwrnod o wyliau yn ogystal a Gwyliau Cyhoeddus.
Sut i wneud cais: Anfonwch CV a llythyr eglurhaol i footinthedoor@ffilmcymruwales.com yn amlinellu pryd rydych ar gael a’ch profiad a’ch sgiliau yn erbyn yr hyn sydd wedi’i amlinellu yn y fanyleb hon oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat gwahanol i’r cais i gynorthwyo mynediad. 
Dyddiad cau: Dydd Iau 9fed Rhagfyr am hanner dydd.

Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn un o raglenni Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Ei nod yw cynorthwyo pobl a chymunedau mwyaf eu hangen yn y DU i beilota rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, yn gymuned ac mewn lleoedd, ac mewn busnesau lleol, ac yn cynorthwyo pobl i mewn i waith. 

uk government logo