photo of stairway in Wellington House, featuring a large W2 sculpture dotted with lightbulbs hanging from the ceiling

Swyddfa a chyfeiriad newydd Ffilm Cymru Wales

Rydym wedi symud i swyddfa newydd yn W2, Caerdydd.

Rydym yn falch o rannu bod yr adeilad yn cael ei bweru 100% gan ynni adnewyddadwy a chynaliadwy, gan ein helpu i gyrraedd ein nodau yng nghynllun Cymru Werdd.

Diolch yn fawr iawn i elusen digartrefedd a thlodi Boomerang am addasu ein dodrefn i bobl yn eu cymunedau lleol. Darllenwch am eu gwaith gwych fan yma. 

A diolch i ReCreate am gymryd pethau eraill ar gyfer eu storfa sgrap wych a’u gweithdai creadigrwydd cymunedol. Cewch wybod mwy amdanyn nhw fan yma.

Ein cyfeiriad newydd ar gyfer gohebiaeth bost yw:

Ffilm Cymru Wales
W2
Tŷ Wellington
Stryd Wellington
Caerdydd
CF11 9BE