still from for those in peril featuring a man standing on a dinghy in the ocean

Swydd Wag Cynhyrchydd Cysgodol: 'Mission'

Mae'r ffilm nodwedd Mission, wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Paul Wright, enillydd gwobr BAFTA, yn cael ei ffilmio yn Glasgow gyda chymorth Ffilm Cymru, BBC Film a Screen Scotland. Maen nhw’n chwilio am Ôl-gynhyrchydd Cysgodol i ymuno â'r tîm. 

Bydd y rôl hon yn cysgodi’r cynhyrchwyr Lowri Roberts (Rapt) ac Alex Thiele (65 Wilding Films) ynghyd â Kate Byers a Linn Waite (Early Day Films). 

Mae'r cynhyrchiad wedi'i leoli yn Glasgow, ac mae’r ffilmio’n digwydd yn Glasgow a’r cyffiniau. Bydd yr ôl-gynhyrchu yn digwydd yn Glasgow a Llundain ynghyd â pheth gwaith o bell. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â’r tîm cynhyrchu am ½ diwrnod o baratoi o bell (Ebrill/Mai), 5 diwrnod o ffilmio yn Glasgow (Mai) a 4½ diwrnod yn y cyfnod ôl-gynhyrchu rhwng Gorffennaf 2024 a Chwefror 2025, rhai wyneb yn wyneb a rhai o bell. Gall dyddiadau ac amseroedd penodol fod yn hyblyg.

Dyma gyfle i'r cysgodwr ddysgu am bwysigrwydd ôl-gynhyrchu trwy gydol y broses o greu ffilmiau. Fe fyddan nhw’n dod i ddeall mwy am weithio gyda thai ôl-gynhyrchu o'r cyfnod paratoi i'r cyflwyno, fe fyddan nhw’n cael eu gwahodd i adolygu toriadau o'r ffilm a rhoi nodiadau, yn ogystal â threulio amser ar y set.

Ffi: £130 y dydd
Treuliau: Costau teithio, llety a chynhaliaeth wedi’u talu (o fewn rheswm) ynghyd â’r per diem.
Hyd: 10 diwrnod

Dyddiadau

Paratoi: w/c 29 Ebrill neu w/c 6 Mai
Ffilmio: w/c 20 Mai neu w/c 27 Mai
Ôl-gynhyrchu: diwrnodau amrywiol rhwng Gorffennaf 2024 a Chwefror 2024

Dyddiau/Oriau Gwaith

Paratoi: Galwad(au) ar-lein, naill ai un prynhawn neu alwadau amrywiol wedi’u gwasgaru dros ychydig ddyddiau.
Ffilmio: Diwrnodau 10 awr, yr amser yn dibynnu ar ofynion yr amserlen. Mae rhai nosweithiau a nosweithiau hwyr yn debygol.
Ôl-gynhyrchu: Galwadau amrywiol wedi’i gwasgaru dros ychydig fisoedd. Rhai dyddiau llawn yn graddio a chymysgu ac yn y swyddfa.

Dylai’r ymgeiswyr fod yn Gymry neu'n preswylio yng Nghymru. Dylai fod ganddyn nhw gredydau cynhyrchu blaenorol ar ffilmiau byr neu ddrama deledu wedi'i sgriptio. 

Dylai ceisiadau gynnwys CV a Llythyr Eglurhaol mewn fformat ysgrifenedig neu fideo. 

Deadline: 9am 26th April 2024.
Applications to: lowri@rapt.world