a photo of person sitting down outside and holding a large camera. In the background are mountains.

Swydd: Pennaeth Sgiliau a Hyfforddiant

Ffilm Cymru yw’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer byd ffilm yng Nghymru. Gweithiwn ar draws y sector o’r sgript i’r sgrin, yn ogystal â chefnogi addysg, sgiliau a hyfforddiant ym maes ffilm.

Rydym yn edrych am ymgeisydd a fydd yn gyrru ein gweithgarwch sgiliau a hyfforddiant yn ei flaen, ar bwynt pwysig yn nhwf ein cwmni a’r sector creadigol. 

Gan weithio’n gyfrifol i’r Pennaeth Cynhyrchu, byddwch yn datblygu a gweithredu ein strategaeth Sgiliau a Hyfforddiant. Byddwch yn bwydo i mewn i’n darpariaeth hyfforddiant i awduron, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, ac entrepreneuriaid creadigol, sy’n cael ei rheoli oddi mewn i’r tîm talent, ond dyma fydd eich prif flaenoriaethau:

  • Datblygu ac adrodd ar ein rhaglen hyfforddiant i rai sy’n dyheu i fod yn rhan o’r criw ac sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol (Troed yn y Drws) gan gynnwys rheoli gweithgarwch sy’n cael ei ariannu gan bartneriaethau Media Cymru, Festival 22, a Chronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig; 
  • Eirioli dros sector sgrin cynaliadwy, sy’n gynhwysol o ran dyluniad ac sy’n cydnabod anghenion penodol Cymru;
  • Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol, llywodraethol a’r diwydiant i asesu anghenion a chyfleoedd sgiliau yn barhaus; cyflawni prosiectau a chyd-ddylunio atebion i heriau’r sector; 
  • Nodi cyfleoedd i greu incwm i gefnogi ein strategaeth sgiliau, gan ddefnyddio ysgrifenwyr ceisiadau llawrydd os yw’n briodol;
  • Datblygu a gyrru systemau olrhain hyfforddeion a mesurau effaith ar gyfer ein gwaith ar sgiliau;
  • Cydweithio ar draws y tîm – gan gynnwys cydweithio’n agos â’r tîm addysg i sicrhau bod cyfeiriadau clir at lwybrau cynnydd.

Rydym wedi ymrwymo i ehangu cynrychiolaeth a phrofiad bywyd go iawn yn ein sefydliad. Cynigwn gyfweliad awtomatig i bob ymgeisydd sy’n bodloni ein meini prawf sylfaenol ac sy’n ystyried eu hunain yn Bobl o’r Mwyafrif Byd-eang, yn Ddu, Asiaidd neu o Leiafrif Ethnig, neu’n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl neu’n niwroamrywiol. 

Gallwn hefyd dderbyn ceisiadau a darparu gwybodaeth mewn fformatau gwahanol, ac fe’ch anogwn i gysylltu â Siobhan Brennan neu Hayley Lau i drafod. 

Math o gontract: Amser llawn, am un flwyddyn i gychwyn gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn i fod yn gontract aml-flwyddyn. Croesawn gynigion i rannu swydd.
Lleoliad: Cymru. Mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd ond mae hyblygrwydd i weithio o bell.
Yn adrodd i: Pennaeth Cynhyrchu.  
Dyddiad cychwyn: Rhowch wybod pryd y gallwch gychwyn yn 2022.
Cyflog: £35,000 - £42,000 (yn dibynnu ar brofiad), ynghyd â phensiwn a 28 diwrnod o wyliau yn ychwanegol at Wyliau Cyhoeddus. 

Sut i Wneud Cais

Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 12 hanner dydd ar ddydd Llun 6ed Rhagfyr 2021.

Caiff y cyfweliadau eu cynnal ar-lein ar 16 a 17 Rhagfyr 2021.

Gallwch gyflwyno cais drwy anfon CV drwy e-bost ynghyd â llythyr eglurhaol yn dweud pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd a sut rydych yn bodloni’r meini prawf sydd wedi’u rhestru fan yma, oni bai ein bod wedi cytuno ar ddull gwahanol er mwyn cefnogi eich mynediad.

E-bostiwch eich cais i sion@ffilmcymruwales.com 

Swyddi eraill: Yn eich cais, nodwch os hoffech hefyd gael eich ystyried ar gyfer swyddi sgiliau a hyfforddiant eraill a allai godi yn Ffilm Cymru o bryd i’w gilydd, gan roi cydsyniad i ni barhau i gadw eich manylion, am ddwy flynedd, at y diben hwnnw.

I drafod eich cais yn Saesneg, cysylltwch â Hayley.
Hayley Lau, Cynorthwyydd Gweinyddol: hayley@ffilmcymruwales.com

I drafod eich cais yn Gymraeg, cysylltwch â:
Siobhan Brennan, Swyddog Gweithredol Sgiliau: siobhan@ffilmcymruwales.com

 

we are a living wage employer
disability confident employer
we stand in solidarity to say NO to racism and commit to a #ZeroRacismWale. Do you?