a ffilm cymru and bfi network event at chapter arts centre

Swydd: Cydlynydd Hyfforddiant & Digwyddiadau BFI NETWORK Wales

Mae Ffilm Cymru yn chwilio am Gydlynydd Hyfforddiant & Digwyddiadau Rhwydweithio i gefnogi’r gwaith o ddarparu cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio, dosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi, fel rhan o gynnig RHWYDWAITH BFI Cymru ar gyfer awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.

bfi network wales logo

Math o gytundeb: Cytundeb llawrydd 
Lleoliad: Gweithio o bell, yn swyddfa Ffilm Cymru Wales yng Nghaerdydd, mewn lleoliadau amrywiol lle fydd y digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal
Yn adrodd i: Rheolwr RHWYDWAITH BFI Cymru
Dyddiad dechrau: Gynted â phosib yn Awst 2021
Tymor: 8 mis o Awst 2021 – Mawrth 2022 (oriau hyblyg rhan-amser, disgwylir  cyfartaledd o 2 ddiwrnod yr wythnos, ac weithiau bydd angen gweithio gyda’r nos ac yn ystod rhai penwythnosau)
Ffi: £10,000 (gan gynnwys TAW, os yn berthnasol). Telir fesul cam yn unol â chwblhau’r cerrig milltir a gytunwyd arnynt yn foddhaol
Cynhwysiant: ‘Rydym wedi ymrwymo i ehangu cynhrychiolaeth a phrofiad byw yn ein sefydliad. Byddwn yn cynnig cyfweliad awtomatig i bob ymgeisydd sy'n cwrdd â'n meini prawf hanfodol ac sy'n nodi eu bod yn dod o hil neu ethnigrwydd nad yw’n cael ei gynrychioli’n ddigonol, neu sy’n fyddar, niwroamrywiol, neu'n byw gydag  anabledd.
Dyddiad Cau: 12:00pm (Ganol dydd) ar ddydd Gwener 23ain Gorffennaf 2021

I wneud cais, gallwch anfon e-bost atom ynghyd â’ch CV a llythyr o 750 gair neu lai, sy'n egluro pam ‘rydych am weithio gyda Ffilm Cymru a sut mae'ch profiad yn cyd-fynd â'r swyddogaeth fel yr hysbysebwyd uchod.

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a gallwn drefnu opsiynau ymgeisio amgen. Er enghraifft, gallwn roi cyfeiriad i chi er mwyn i chi bostio eich cais atom fel copi caled, gallwn dderbyn llythyrau fideo, neu gallwn drefnu i chi archebu slot o awr i drawsgrifio'ch llythyr dros y ffôn.

Dylid cyfeirio'ch cais at Reolwr RHWYDWAITH BFI Cymru, Jude Lister d / o: Sion Eirug, fydd hefyd yn mynd i'r afael ag unrhyw gwestiwn sydd gennych ynglŷn â gwneud cais. Gyrrwch e-bost at sion@ffilmcymruwales.com