a photo of two people standing outside learning how to make a film with a camera

Swydd: Cydlynydd Cynulleidfa ac Addysg

Ffilm Cymru yw’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilm yng Nghymru. Gweithiwn ar draws y sector o’r sgript i’r sgrin, gan gynnwys cefnogi addysg ffilm, sgiliau a hyfforddiant.

Y Rôl

Seiliedig: Caerdydd (gweithio gartref ar hyn o bryd), gyda rhywfaint o weithio ledled Cymru
Cyfnod: Cyfnod llawn, gan gychwyn cyn gynted â phosibl. Agored i gynigion ar gyfer gweithio hyblyg.
Cyfnod penodol: Un flwyddyn i gychwyn gyda phosibilrwydd i ymestyn
Cyflog: £22,000-£24,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar brofiad, ynghyd â phensiwn a 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn ynghyd â Gwyliau Banc 
Yn adrodd i: Rheolwr Cynulleidfa ac Addysg

Mae hon yn rôl brysur ac eithriadol foddhaus, yn gweithio yn yr adran cynulleidfa ac addysg. Byddwch yn gweithio mewn cyswllt uniongyrchol ag arddangoswyr ffilmiau annibynnol (sinemâu, gwyliau ffilm a digwyddiadau cymunedol untro) ac ymarferwyr addysg. Bydd eich tasgau’n cynnwys:

  • Ymateb i ymholiadau, gan gynnig cyngor a gwybodaeth;
  • Datblygu perthynas gefnogol a gwybodus ag arddangoswyr ac ymarferwyr addysg ffilm ledled Cymru ac amryw sefydliadau partner;
  • Adolygu ac asesu ceisiadau yn erbyn canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi;
  • Drafftio llythyron cynnig a chytundebau ariannu drwy lenwi cytundebau templed;
  • Cyfrannu at ein proses o werthuso ac adrodd;
  • Cynnal ein cyfryngau cymdeithasol – @ffilmeducation – a thrafod gyda’n Rheolwr Cyfathrebu i ddarparu gwybodaeth ar gyfer datganiadau i’r wasg a sicrhau bod rhestrau postio cywir yn cael eu cynnal;
  • Cyfrannu at ein strategaethau i sicrhau ein bod yn parhau i ehangu cynrychiolaeth ymysg y rhai a ariannwn a’r rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch a ariennir;
  • Hwyluso sesiynau rhwydweithio a gwybodaeth rheolaidd ar-lein i arddangoswyr ac ymarferwyr addysg ffilm (gan ddefnyddio Zoom neu Teams);
  • Darparu cymorth ar draws ein prosesau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i amserlennu cyfarfodydd gyda darpar ymgeiswyr, rheoli ceisiadau, ffeilio, amserlennu paneli asesu, cadw cofnodion, cydgrynhoi adborth ar geisiadau a rheoli data yn gyffredinol;
  • Paratoi ceisiadau am daliadau a thrafod gyda’r adran gyllid;
  • Paratoi arolygon y sector a chydgrynhoi adborth y sector.

Mynediad a Chynrychiolaeth

Rydym wedi ymrwymo i ehangu cynrychiolaeth a phrofiad bywyd go iawn yn ein sefydliad. Cynigwn gyfweliad awtomatig i bob ymgeisydd sy’n bodloni ein meini prawf sylfaenol ac sy’n ystyried eu hunain yn Bobl o’r Mwyafrif Byd-eang, yn Ddu, Asiaidd neu o Leiafrif Ethnig, neu’n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl neu’n niwroamrywiol.

Gallwn ddarparu gwybodaeth a cheisiadau mynediad mewn fformatau gwahanol ac rydym yn eich annog i gysylltu â Sion Eirug – sion@ffilmcymruwales.com – i drafod sut gallwn gefnogi eich anghenion mynediad.

three logos: disability confident employer, living wage employer and anti-racism.

Sut i Wneud Cais

Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 12 hanner dydd ar ddydd Llun 31ain Ionawr 2022.

Caiff cyfweliadau eu cynnal ar-lein yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 31ain Ionawr 2022.

Gallwch gyflwyno cais drwy anfon CV drwy e-bost ynghyd â llythyr eglurhaol yn dweud pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd a sut rydych yn bodloni’r meini prawf sydd wedi’u rhestru fan yma a phryd y gallech ddechrau gweithio gyda ni. 

Os oes gennych ofynion mynediad, gallwn gytuno gyda chi ar fformatau ymgeisio gwahanol, fel cyflwyno cais byr wedi’i ffilmio. Cysylltwch â sion@ffilmcymruwales.com i drafod.

Anfonwch eich cais drwy e-bost i sion@ffilmcymruwales.com