still from gwledd featuring annes elwy wearing a white shirt kneeling in a dark forest

Sinema Cymru - Cyhoeddi cronfa newydd i hybu ffilmiau Cymraeg

Mae cronfa i gefnogi ffilmiau nodwedd Cymraeg sydd â'r potensial i fod ar y sgrin fawr yn rhyngwladol, bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.

Bydd Sinema Cymru, sy'n gydweithrediad rhwng S4C a Cymru Greadigol, yn cael ei darparu gan Ffilm Cymru, a'i nod yw datblygu o leiaf tair ffilm nodwedd y flwyddyn, gyda'r bwriad y bydd un o'r ffilmiau hynny'n cael ei datblygu ar gyfer cyllid cynhyrchu.

Mae’r gronfa £180k, sy'n cael ei hariannu gan Cymru Greadigol a rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, bellach ar agor ar gyfer ceisiadau gan wneuthurwyr ffilm profiadol o Gymru. Mae hyd at £30,000 y prosiect ar gael yng ngham datblygu'r gronfa.

Nod Sinema Cymru yw rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map drwy roi sbardun i ffilmiau Cymraeg annibynnol sy'n feiddgar, yn anghonfensiynol, ac sydd â'r potensial i gael eu rhyddhau mewn sinemâu yn rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn arbennig o awyddus i hyrwyddo lleisiau sy'n cael eu tangynrychioli wrth bortreadu'r Gymraeg, a gwthio ffiniau'r hyn a ddisgwylir gan ffilmiau Cymraeg.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Sinema Cymru bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. 

"Mae'r gronfa yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu ffilmiau Cymraeg mwy annibynnol, sy'n hanfodol mewn cyfnod pan fo'r sector dan bwysau cynyddol, gan gynnwys gan rai o'r gwasanaethau ffrydio mawr. Rydym am i'r gronfa ysbrydoli creadigrwydd, hyrwyddo lleisiau sy'n cael eu tangynrychioli, a helpu i hyrwyddo Cymru a'r Gymraeg i'r byd. Edrychwn ymlaen at weld y syniadau amrywiol fydd yn deillio o'r rownd ariannu hon."

Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell: "Mae sinema yn iaith fyd-eang sy'n cael ei rhannu ar draws y byd. Mae hwn yn gyfle gwych i ni hyrwyddo a dathlu ffilmiau Cymraeg. Bydd Sinema Cymru yn cefnogi ffilm Iaith Gymraeg annibynnol, gan ddatblygu syniadau a thalent, gan gryfhau'r sector ffilmiau Cymraeg a'i blatfform."

Dywedodd Pennaeth Sgriptio S4C, Gwenllian Gravelle: "Mae sinema yn brofiad emosiynol a difyr, sydd yn mynd y tu hwnt i rwystrau ieithyddol a daearyddol.

"Yn S4C, ein nod yw datblygu a chryfhau'r diwydiant yng Nghymru drwy greu ffilm Gymraeg bob blwyddyn; adeiladu catalog cadarn o ffilmiau i'w mwynhau heddiw a chan genedlaethau'r dyfodol.

"Ein nod yw rhoi profiad sinematig o straeon Cymreig i'r gynulleidfa, wedi eu creu gan leisiau unigryw a chreadigol ein gwlad. Straeon pwerus sydd â theimlad lleol ond sydd ag apêl fyd-eang hefyd."

Meddai Gwenfair Hawkins, Swyddog Gweithredol Datblygu a Chynhyrchu'r Gymraeg  yn Ffilm Cymru: "Er y bydd holl gronfeydd ffilm Ffilm Cymru yn parhau i fod ar gael i brosiectau yn yr Iaith Gymraeg, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag S4C a Cymru Greadigol i gynnig arian wedi'i dargedu i'r rhai sydd am weithio yn yr iaith Gymraeg. Mae ffilmiau annibynnol fel Gwledd, Y Llyfrgell a'r Ymadawiad (a ariennir ar y cyd gan Ffilm Cymru ac S4C) yn chwarae rhan bwysig wrth feithrin a hyrwyddo talent o amrywiaeth o gefndiroedd. Gyda chynhyrchiad ffilm brodorol y DU yn dirywio ar draws y bwrdd, ni fu buddsoddiad parhaus darlledwyr cyhoeddus a'r Llywodraeth i leisiau cinematig Cymraeg erioed yn bwysicach."