a still from short documentary forest coal pit featuring two men sitting in a farmhouse kitchen. One has a young sheep on his lap. Text over the top reads Beacons 1-to-1 sessions. Sesiynau un-i-un.

Sesiynau Un-i-Un Beacons, Mai-Mehefin 2022

19th May 2022, 1:00

Mae Ffilm Cymru a BFI NETWORK Wales yn cynnal sesiynau un-i-un ar gyfer awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr newydd a rhai sy'n datblygu ac sy'n chwilio am arweiniad wedi'i deilwra ar wneud cais i gronfa ffilm fer Beacons.

Rydym ni’n arbennig o awyddus i siarad â'r rhai sy'n dod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, sy'n symud drosodd i wneud ffilmiau o gyfrwng creadigol gwahanol (e.e. theatr, teledu, delwedd symudol), a/neu sy'n profi rhwystrau wrth wneud cais am gyllid.

Mae pob sesiwn yn 20 munud ac yn cael ei chynnal dros y ffôn neu dros alwad fideo. Bydd mwy o ddyddiadau'n cael eu hychwanegu yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Sylwch na allwn gynnig adborth creadigol ar gynigion. 

Mae lleoedd yn gyfyngedig a byddwn yn blaenoriaethu'r rhai nad ydynt wedi cael sgwrs gyda thîm Ffilm Cymru o'r blaen.

Cynhelir y sesiynau un-i-un ddydd Iau 19 Mai, dydd Gwener 20 Mai a dydd Iau 9 Mehefin.

Cadwch eich slot yma: