photo of a person sitting on an outdoor film set, with grass and camera equipment around them

Profiad Gwaith Creadigol Troed Yn Y Drws

Fel rhan o Sgiliau i Abertawe, mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe, mae Ffilm Cymru wedi partneru â sefydliadau creadigol ar draws Dinas Abertawe i gynnig lleoliadau profiad gwaith 5 diwrnod â thâl.

  • Ydych chi'n byw yn Abertawe?
  • Ydych chi'n 18+ ar hyn o bryd a ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant amser llawn?
  • Fyddech chi’n dwlu ar roi cynnig ar yrfa yn lleol yn y diwydiannau creadigol? 
  • Hoffech chi gael eich Troed yn y Drws drwy brofiad gwaith â thâl yn y sector creadigol lleol a derbyn cymorth o amgylch hynny? 
  • Ydych chi'n awyddus i ddysgu sgiliau newydd, magu hyder a gweithio ar friff byw ar gyfer sefydliad creadigol?

Mae gennym gyfleoedd ar gael i ddatblygu eich sgiliau mewn:

Ai dyma’r cyfle i chi?

  • Does dim angen unrhyw brofiad penodol arnoch ar gyfer y rôl hon, ond mae angen diddordeb a brwdfrydedd arnoch i ddysgu yn y swydd mewn rôl greadigol.
  • Efallai bod gennych chi sgiliau trosglwyddadwy yn y meysydd hyn eisoes. Rhowch wybod i ni pa sgiliau sydd gennych chi yn eich cais!

Pam gwneud cais?

  • Mae lleoliadau profiad gwaith yn gyfle i wylio gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau.
  • Cewch y cyfle i gwblhau 'brîff byw', tasg a fydd yn cael ei gosod gan y cwmni, y gallwch wedyn ei defnyddio fel enghraifft yn eich portffolio neu wrth geisio am swyddi yn y dyfodol. 
  • Mae hefyd yn ffordd wych i roi cynnig ar ychydig o waith i weld ai dyma’r llwybr i chi! 
  • Mae’n ffordd wych i gysylltu â sefydliadau lleol, ac ehangu eich rhwydweithiau a’ch sgiliau.
  • Byddwch yn derbyn cymorth unigol a dilynol wedi i’ch lleoliad gwaith ddod i ben.
  • Bydd y profiad gwaith yn cael ei dalu ar gyfraddau Cyflog Byw Gwirioneddol.

Gwybodaeth Bwysig - Cais 

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gwybod beth sydd o ddiddordeb pennaf i chi. Gallwch ddewis mwy nag un os nad ydych yn siŵr a gallwch gysylltu â ni os oes angen cymorth arnoch i lunio eich cais. Noder y byddwn yn paru ymgeiswyr â chyflogwyr ar sail eu diddordebau a'u sgiliau. Ni allwn warantu y bydd pawb yn cael lle, neu le gyda'u sefydliadau cynnal. 

Yr Amserlen

Dydd Gwener 9 Chwefror: Dyddiad cau cyflwyno ceisiadau.

w/c 12 Chwefror: Sesiynau unigol ar-lein i’r Cyfranogwyr – cewch ddolen Zoom i gael sgwrs â Ffilm Cymru.

Dydd Llun 18 Mawrth: Diwrnod Cwrdd a Chyfarch yn Theatr y Grand, Abertawe.

Os byddwn yn eich paru â lleoliad profiad gwaith, cewch eich gwahodd i ddiwrnod croesawu. Cewch y cyfle i gwrdd â'r garfan o bobl eraill a fydd ar brofiad gwaith, yn ogystal â'r cyflogwyr y byddwch yn gweithio gyda nhw, cyn i'ch lleoliad profiad gwaith ddechrau. 

Dydd Mawrth 19 Mawrth - Dydd Gwener 22 Mawrth: Lleoliadau’n dechrau yn y sefydliadau cynnal

Dydd Gwener 22 Mawrth: Sesiwn dal i fyny a chyfeirio gyda rheolwr Lleoliadau Diwydiant a’r sefydliadau cynnal. 

Siaradwch â Ni

Os hoffech siarad am y cyfle hwn gydag aelod o dîm Sgiliau Ffilm Cymru, neu os hoffech rywfaint o gymorth i wneud cais, anfonwch e-bost i skills@ffilmcymruwales.com ac fe wnaiff rhywun gysylltu’n ôl â chi.

Os byddai'n well gennych chi anfon fideo yn ateb y cwestiynau yn lle hynny, anfonwch y fideo i skills@ffilmcymruwales.com gan ddefnyddio’r pennawd: FIDEO PROFIAD GWAITH TROED YN Y DRWS ABERTAWE.

Hygyrchedd

Mae Troed yn y Drws i bawb. I wneud yn siŵr ein bod yn gwaredu unrhyw rwystrau, byddwn bob amser yn gofyn i chi sut y gallwn addasu ein ffyrdd o weithio neu gyfathrebu i fod yn fwy addas i chi. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud y gorau o'r cyfle hwn. Gall ymgeiswyr hefyd dderbyn cymorth ar gyfer teithio, llety, gofal plant, a chostau eraill, a fydd yn eich helpu i allu manteisio ar y cyfle.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw anghenion neu ofynion hygyrchedd o ran gwneud cais neu ddod i’r digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'ch cais anfonwch e-bost i skills@ffilmcymruwales.com

Credwn mewn sector sy’n gweithio i bawb ac rydym yn angerddol am ehangu mynediad i'r sector sgrin.

Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl, yn niwroamrywiol, a phobl sydd wedi colli eu golwg, mae cymorth ar gael i gyflwyno cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn gwneud cais, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, neu gytuno ar fformatau gwahanol ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddec sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi. 

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn elfen ganolog o agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar draws y DU i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Mae'r prosiect hon yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

nest of SPF Swansea logos