portrait photo of lee walters

Penodi Lee Walters yn Brif Weithredwr Ffilm Cymru

Mae’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau Cymru wedi penodi Lee Walters i arwain y sefydliad yn ystod y cam nesaf yn ei stori.

Bydd Walters yn ymuno â’r asiantaeth o Media Cymru, ac mae ganddo gyfoeth o brofiad ac arbenigedd mewn rheoli cronfeydd, datblygu syniadau arloesol, a meithrin twf cynaliadwy ar gyfer y sector sgrîn. 

Pan oedd yn Uwch Reolwr Newid yn BBC Cymru Wales, roedd yn allweddol yn y gwaith o sefydlu’r pencadlys newydd yng nghanol Caerdydd. Yn 2020, ymunodd â Phrifysgol Caerdydd fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer Clwstwr, rhaglen arloesi uchelgeisiol gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a San Steffan a gefnogodd gwmnïau a gweithwyr llawrydd i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sgrîn. Mae’r cefndir hwn yn golygu ei fod mewn sefyllfa eithriadol o dda i roi cynlluniau trawsnewid ar waith ar gyfer Ffilm Cymru Wales.  

Mae Walters yn ymuno ar adeg gyffrous i’r sefydliad a’r sector ffilm y mae’n ei gefnogi. Mae Ffilm Cymru wedi ariannu ffilmiau nodwedd fel Chuck Chuck Baby (cyf. Janis Pugh) ac Unicorns (cyf. Sally El Hosaini a James Krishna Floyd) a gafodd eu dangos yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto y mis diwethaf, a bydd yr antur wedi’i animeiddio, Kensuke’s Kingdom (cyf. Neil Boyle a Kirk Hendry) yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn y DU yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain y BFI yr wythnos hon. 

Wrth gynnal Cyfarfod Rhanbarthol blynyddol Cine-Regio o gronfeydd ffilm Ewropeaidd yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, lansiodd Ffilm Cymru Wales Sinema Cymru, cydweithrediad newydd gydag S4C a Cymru Greadigol i ddatblygu ffilmiau nodwedd Cymraeg sydd â chwmpas rhyngwladol. Yn y cyfamser, mae tîm Sgiliau Ffilm Cymru wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin aml-bartner y DU yn ddiweddar i ehangu ei raglen hyfforddi gynhwysol i newydd-ddyfodiaid, sef Troed yn y Drws, i ragor o gymunedau ledled Cymru.

Mae Cynllun Strategol nesaf y sefydliad ar gyfer 2024-2030 yn tynnu sylw at chwe cholofn cynaliadwyedd: cydraddoldeb, creadigrwydd, sgiliau, gwyrdd, entrepreneuriaeth a lles. Bydd yn sicrhau sgript sylfaenol gadarn y gall Walters a Ffilm Cymru Wales ei defnyddio wrth ganolbwyntio ar roi cymorth i ffilmiau yng Nghymru ac ar gyfer Cymru yn y dyfodol.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i Ruth a’r Bwrdd am y cyfle i ymuno â Ffilm Cymru Wales wrth i ni barhau â’r gwaith o ddatblygu a chynnal diwydiant ffilm cryf yng Nghymru a hyrwyddo ein cenedl o storïwyr.” Dywed Walters.
 
"Mae hwn yn sicr yn gyfnod digynsail i fyd y ffilm ac mae'r diwydiant yn newid mor gyflym â’r dychymyg, ac er y bydd heriau o'n blaenau, bydd cyfleoedd di-rif i ni hefyd. 
 
“Rwy’n credu’n gryf bod straeon sydd wedi’u gwreiddio yn ein hiaith, ein diwylliant a’n cymunedau fwyfwy amrywiol yn cynnig potensial mawr i ni ddatblygu ein talent yng Nghymru, gyda’n llygaid ar lwyfan y byd.
 
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm, y sector sgrin ehangach a’n rhanddeiliaid allweddol wrth i ni groesawu’r heriau a manteisio ar y cyfleoedd ar gyfer ffilm yng Nghymru, nawr ac yn y blynyddoedd i ddod.”

portrait photo of lee walters

Wrth groesawu Walters i’r sefydliad, ychwanegodd yr Athro Ruth McElroy, Cadeirydd Ffilm Cymru Wales: “Rwy’n falch iawn o groesawu Lee i’w rôl arwain newydd fel Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales. Rydyn ni’n gwybod bod hon yn wlad fach sydd â thalent enfawr ac mae Lee yn canolbwyntio’n llwyr ar gefnogi’r dalent honno a sicrhau ei bod yn ffynnu. Mae’r Bwrdd wedi ymrwymo i’w gefnogi i gyflawni ein huchelgais ar gyfer twf teg, cynaliadwy a chynhwysol yn y sector. Rydyn ni’n awyddus i ymgysylltu â’n prif bartneriaid, ein cyllidwyr a’n rhanddeiliaid wrth i ni fireinio ein Strategaeth a datblygu ein cynllun gweithredu ar gyfer 2024.”

Gadawodd y Prif Weithredwr a sefydlodd Ffilm Cymru Wales, Pauline Burt, y sefydliad ym mis Medi, a chamodd y cynhyrchydd Uzma Hasan i rôl Prif Weithredwr Dros Dro nes bydd Walters yn ymgymryd â’r rôl yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.

portrait photo of ruth mcelroy