two people working on a film set in a forest. One operates a camera while one holds a clapperboard in front of it.

Peilota llwybr at sero net ar gyfer y diwydiannau ffilm a theledu safon uwch

Mae Bargen Newydd y Sgrin: Cynllun Trawsnewid Cymru yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â gwastraff a defnydd o ynni.

Heddiw, amlinellodd BAFTA albert yr argymhellion allweddol yn adroddiad Bargen Newydd y Sgrin: Cynllun Trawsnewid Cymru, sy’n gosod llwybr at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer y diwydiannau ffilm a theledu safon uwch ochr yn ochr â’i ail Uwchgynhadledd Gynhyrchu flynyddol, sy’n cael ei chynnal
heddiw yng Nghaerdydd.

Mae’r adroddiad nodedig hwn yn trafod y newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud i drafnidiaeth, defnydd o ynni, gwastraff a diwylliant er mwyn cyrraedd targedau sero net, gan osod y gweithredoedd hyn mewn amserlen glir.

Cafodd y gyfres o argymhellion allweddol i dimau cynhyrchu, comisiynwyr, darlledwyr a chyrff ariannu ei datblygu a’i chynhyrchu gan Arup, gan weithio gyda BAFTA albert ac wedi’u cefnogi gan y BFI drwy ei Gronfa Ymchwil ac Ystadegau y Loteri Genedlaethol.

Mae’r argymhellion yn cynnwys:

  • Symud at ynni adnewyddadwy ar gyfer cynyrchiadau ar leoliad, drwy ddisodli generaduron diesel gyda phŵer batri neu olew llysiau wedi’i drin â dŵr (HVO) yn y tymor byr; diweddaru gofodau stwdio i ddefnyddio llai o ynni a chynhyrchu eu hynni eu hunain lle bo’n bosib drwy ynni gwynt neu solar;
  • Ailwampio opsiynau trafnidiaeth yn llwyr i gael gwared â thanwydd ffosil, gan flaenoriaethu ffynonellau ynni adnewyddadwy fel ceir trydan a defnyddio dulliau cynhyrchu rhithwir lle bo’n bosib;
  • Creu ymagwedd gylchol tuag at ddeunyddiau ac asedau a ddefnyddir wrth gynhyrchu, gan sefydlu systemau rhentu ac ailddefnyddio ar gyfer deunyddiau set, gwisgoedd a chit; gan sicrhau bod bwyd a ddarperir ar y set yn ffafrio opsiynau wedi’u cynhyrchu’n lleol a charbon isel;
  • Hybu’r hyfforddiant a’r wybodaeth sydd ar gael i dimau cynhyrchu am gynaliadwyedd y dulliau cynhyrchu presennol; gan weithio gyda chyflenwyr y diwydiant sgrin i leihau eu hôl troed carbon a’u gwastraff;
  • Newid y diwylliant yn y diwydiant i greu safon gynaliadwyedd newydd ar gyfer cynyrchiadau, gan sefydlu cyllidebau carbon a manteisio ar bŵer creadigol crewyr cynnwys a doniau ar y sgrin.

Yn dilyn adroddiad cyntaf Bargen Newydd y Sgrin yn 2020, a gynhyrchwyd gan Arup, BAFTA albert a’r BFI, dewiswyd Cymru fel ardal beilot oherwydd ei chlwstwr diwydiant creadigol sy’n tyfu’n gyflym a’i thargedau cynaliadwyedd uchelgeisiol.

Gan weithio gyda sefydliadau sgrin yng Nghymru – Cymru Greadigol, Ffilm Cymru Wales a Clwstwr – cynhaliodd Arup ddadansoddiad manwl o’r data sydd ar gael, polisïau perthnasol a deddfwriaeth, gan gyfuno hyn gyda chyfweliadau â rhanddeiliaid y diwydiant ffilm a theledu safon uchel, i lunio eu hargymhellion. Bydd y mewnwelediadau o’r prosiect peilot ar gael i ardaloedd eraill yng ngwledydd Prydain.

Mae’r adroddiad yn awgrymu pwy allai oruchwylio’r argymhellion hyn, gan gynnwys rheolwyr stwdio, arweinwyr y diwydiant, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisi. Bydd albert nawr yn cydweithio’n agos gyda rhanddeiliaid i gyflwyno’r Cynllun Trawsnewid a monitro cynnydd.

Meddai April Sotomayer, BAFTA albert: “Mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein byd mewn ffyrdd uniongyrchol a pharhaus, ac mae gan y diwydiannau ffilm a theledu safon uchel ran allweddol i’w chwarae wrth ddangos ffyrdd o fynd i’r afael â hyn. Mae hwn yn llwybr nodedig at ddyfodol cynaliadwy ym maes cynhyrchu, gan fapio ymagwedd ymarferol at leihau gwastraff a’r ôl-troed carbon. Mae’n gam cyffrous iawn i’r gymuned gynhyrchu yng Nghymru gael peilota Bargen Newydd y Sgrin, ac rydyn ni’n ymroddedig i weithio gyda rhanddeiliaid ar lawr gwlad i gefnogi crewyr rhaglenni yn y broses o fabwysiadu’r argymhellion hyn. Nawr mae angen i bob un ohonon ni gydweithio, ar gyflymder, i annog, gweithredu ac ariannu cynnydd go iawn, y bydd modd ei ddefnyddio fel glasbrint ar gyfer gweddill gwledydd Prydain.”

Meddai Harriet Finney, Dirprwy Brif Weithredwr y BFI a Chyfarwyddwr Gweithredol Materion Corfforaethol a’r Diwydiant: “Yn y ras yn erbyn amser i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae Bargen Newydd y Sgrin: Cynllun Trawsnewid Cymru yn cyflwyno camau ymarferol ym maes cynhyrchu ffilm a theledu safon uchel, y mae angen eu cymryd er mwyn lleihau ein hôl-troed carbon a chyrraedd sero net erbyn 2050. Wrth gynnal y prosiect uchelgeisiol yma, ochr yn ochr â’n partneriaid Arup, BAFTA albert a’r sefydliadau yng Nghymru sy’n cymryd rhan, rydyn ni’n falch o rannu’r canfyddiadau hyn yn eang er mwyn i’r diwydiant ledled gwledydd Prydain elwa arnyn nhw. Mae’r BFI yn cefnogi’r syniad y dylai penderfyniadau gael eu gwneud ar bob lefel o gynhyrchu er mwyn gweithio’n fwy cynaliadwy, gan fod o fudd i’r amgylchedd, y gymuned, a dyfodol y diwydiant.”

Meddai Florence Mansfield, Uwch Ymgynghorydd Newid Hinsawdd Arup: “Gan gynrychioli carreg filltir enfawr i’r diwydiant sgrin, mae adroddiad Bargen Newydd y Sgrin: Cynllun Trawsnewid Cymru yn darparu arweiniad cynaliadwyedd diriaethol a gweithredadwy ar gyfer pawb sy’n rhan o gynhyrchu ffilm a theledu. Gan gyflymu a galluogi effaith gadarnhaol ar draws y diwydiant, mae’r adroddiad yn amlinellu sut gellir cyflawni newid uchelgeisiol drwy ymagwedd gyfannol tuag at leihau carbon, cylcholdeb a chefnogi’r holl randdeiliaid i ddod yn fwy gwybodus ac wedi’u grymuso i wneud penderfyniadau cynaliadwy. Roedd yn fraint enfawr cael parhau â’n gwaith gyda BAFTA albert, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi’r gweithredoedd a amlinellwyd wrth iddyn nhw ddwyn ffrwyth.”

Meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristaeth: “Mae’r diwydiant sgrin yng Nghymru yn hynod werthfawr i’n heconomi. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae sawl cynhyrchiad proffil uchel wedi cael eu ffilmio yng Nghymru ac wedi defnyddio ein lleoliadau a’n cyfleusterau stiwdio o safon fyd eang, gan ddod â chyfleoedd ar gyfer ein gweithlu dawnus gyda nhw, yn ogystal â chynnig lleoliadau dan hyfforddiant. Mae manteision a photensial y diwydiant yn enfawr i Gymru, ond yn unol â’n hymrwymiad i adeiladu Cymru fwy gwyrdd, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar sicrhau ein bod ni i gyd yn cydweithio i leihau’r effaith ar ein hamgylchedd, a nodi ffyrdd y gall y diwydiant sgrin lwyddo gyda chynaliadwyedd yn ganolog iddynt.

“Ro’n i’n bles taw Cymru oedd y wlad a gafodd ei dewis ar gyfer y prosiect yma. Fel rhan o ganfyddiadau’r adroddiad yma a’r argymhellion dilynol, bydd cyllid Llywodraeth Cymru, a ddosberthir drwy Cymru Greadigol, yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol i fentrau cynaliadwyedd, ac yn eu plith mae annog ein cyfleusterau stiwdio i gymryd rhan yn Safon Stiwdio Gynaliadwy BAFTA albert eleni. Drwy wneud hynny, bydd y mewnwelediadau ar sail data a ddarperir gan y Safon yn taflu goleuni ar gynnydd stiwdios yn y gwaith o leihau eu hôl-troed carbon, a byddan nhw’n dod yn rhan o ymgyrch ledled y diwydiant i siapio dyfodol mwy gwyrdd i’r byd ffilm a theledu.”

Meddai Greg Mothersdale, Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu ac Arweinydd Cynaliadwyedd Amgylcheddol Media Cymru: “Rydyn ni’n croesawu canfyddiadau allweddol yr adroddiad cynhwysfawr yma, y mae cwmnïau ledled Cymru wedi cyfrannu ato fel rhan o gynllun peilot Bargen Newydd y Sgrin: Cynllun Trawsnewid. Rydyn ni’n edrych ymlaen i annog a churadu atebion arloesol gan sector y cyfryngau drwy weithgarwch Media Cymru, er mwyn sicrhau dyfodol amgylcheddol gynaliadwy yn y rhan yma o’r byd a thu hwnt.”

Mae’r argymhellion o adroddiad Bargen Newydd y Sgrin: Cynllun Trawsnewid Cymru eisoes yn ffurfio rhan o’r gweithgarwch sy’n digwydd yng Nghymru. Cyn i’r alwad gau yn gynharach y mis hwn, roedd cronfa Gwyrddu’r Sgrin gan Media Cymru a Ffilm Cymru Wales yn galluogi sefydliadau i ymchwilio ac i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau a fydd yn gwneud y diwydiant sgrin yn fwy gwyrdd ym Mhrifddinas ranbarth Caerdydd. Roedd modd i sefydliadau wneud cais am swm rhwng £75,000 a £250,000 i gyflawni newid cadarnhaol ar draws y sector, gydag atebion hirdymor i heriau’r diwydiant wrth geisio cyrraedd sero net, a bydd y prosiectau’n dechrau ym mis Ebrill 2024.

Cynhelir ail Uwchgynhadledd Gynhyrchu flynyddol albert heddiw, 21 Tachwedd, yn Techniquest, Caerdydd. Mae’r digwyddiad yn dod ag arweinwyr o’r diwydiant, arbenigwyr cynhyrchu, cyflenwyr y diwydiant a llunwyr polisi yng Nghymru at ei gilydd i ystyried yr heriau cynaliadwyedd sy’n wynebu’r diwydiant, ac i edrych ar ffyrdd ymarferol o’u goresgyn er mwyn diogelu’r diwydiannau sgrin a’r blaned ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhaglen lawn a’r manylion ar gyfer gweld ffrwd o’r digwyddiad ar
gael yma.