two teenagers standing on an old chest of drawers in a field. Text over the top reads Will you be the 5th winner from Australia?

Mae Gwobr Iris - 'Oscars' byd ffilmiau byrion LHDTQ+ - yn barod i dderbyn eich ffilmiau

Cyhoeddodd trefnwyr gŵyl ffilmiau byrion LHDTQ+ fwyaf y byd ei bod yn barod i dderbyn ffilmiau ar gyfer 17eg rhifyn o Ŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris, sydd i'w chynnal yng Nghaerdydd, Dydd Mawrth 10 Hydref i ddydd Sul 15 Hydref 2023. 

Mae Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn chwilio am ffilmiau byrion a ffilmiau nodwedd anhygoel ac mae ganddi 14 o wobrau i'w dosbarthu gan gynnwys Gwobr Iris gwerth £30,000 a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop. 

Yn nes at adref, bydd enillydd Gwobr Iris Gorau Ym Mhrydain a gefnogir gan Film4 a Pinewood Studios yn derbyn pecyn o wasanaethau a noddir gan Pinewood Studios ac mae pob un o'r ffilmiau a enwebwyd yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer BAFTA a gellir eu cynnwys yn awtomatig gan y gwneuthurwyr ffilmiau. Bydd yr holl ffilmiau ar restr fer Gorau Ym Mhrydain 2023 yn cael eu darlledu ar Film4 ac yn cael eu ffrydio ar eu gwasanaeth ffrydio ar-lein, All4, fel rhan o gefnogaeth barhaus Film4 i'r Ŵyl. 

Mae'r ŵyl hefyd wedi cadarnhau categori newydd ar gyfer eleni, Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau y Tu Hwnt i'r Deuaidd, a gefnogir gan Out & Proud.  Dywedodd William Rutter, Out & Proud: "Yn 2022, roedd Out & Proud yn falch iawn o noddi Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris am y tro cyntaf. Eleni rydym wedi ymestyn ein cefnogaeth hyd yn oed ymhellach drwy noddi hyd yn oed mwy o wobrau ac felly, yn 2023, edrychwn ymlaen yn frwdfrydig at gefnogi perfformwyr a gwneuthurwyr ffilm LHDTQ+ ledled y byd.  

"Trwy ein nawdd ein nod yw helpu adnabod a gwobrwyo'r ymdrechion rhyfeddol sydd wedi mynd mewn i gynhyrchu ffilmiau nid yn unig a wnaed gan y gymuned LHDTQ+ ond hefyd adrodd straeon LHDTQ+. Mae'r App Out & Proud yn ganllaw a chyfeirlyfr cymorth amser go iawn i'r gymuned LHDTQ+ ac i ni sy'n gweithio ochr yn ochr ag Iris nid yw’n unig yn ymddangos yn bartneriaeth naturiol ond yn un berffaith hefyd."

Bydd Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn cyflwyno 14 o wobrau yn y categorïau canlynol:    

  • Gwobr Iris – y wobr am ffilmiau byrion LHDTQ+ fwyaf y byd a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop 
  • Gwobr Iris Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain a noddir gan Film4 a Pinewood Studios   
  • Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau mewn Rôl Fenywaidd a noddir gan Out & Proud    
  • Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau mewn Rôl Wrywaidd a noddir gan Out & Proud  
  • Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau y Tu Hwnt i'r Deuaidd a noddir gan Out & Proud     
  • Gwobr Iris y Ffilm Nodwedd Orau, a noddir gan Bad Wolf  
  • Perfformiad Gorau mewn Rôl Fenywaidd mewn ffilm nodwedd, a noddir gan DIVA Magazine  
  • Perfformiad Gorau mewn Rôl Wrywaidd mewn ffilm nodwedd, a noddir gan Attitude Magazine  
  • Perfformiad Gorau y Tu Hwnt i'r Deuaidd mewn ffilm nodwedd, a noddir gan Peccadillo Pictures
  • Gwobr y Rheithgor Ieuenctid a noddir gan Brifysgol Caerdydd
  • Gwobr Gymunedol a noddir gan Mark Williams er cof am Rose  Taylor   
  • Gwobr Addysg a noddir gan Mark Williams er cof am Rose Taylor
  • Gwobr Ffilm Fer Micro a noddir gan Mark Williams er cof am Rose Taylor
  • Gwobr Cynulleidfa’r Co-op Gwobr Iris 

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: "Dyma amser cyffrous o'r flwyddyn i mi'n bersonol, a'r tîm ehangach Iris, pan fyddwn yn gwneud yr alwad am gyflwyniadau, yn ystod un o fisoedd tywyllaf a mwyaf diflas y flwyddyn yn aml.  

"Bob blwyddyn rydym yn adeiladu ar lwyddiant y flwyddyn flaenorol, ac eleni rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn dyfarnu gwobr newydd am y Perfformiad Prydeinig Gorau y Tu Hwnt i'r Deuaidd. Mae'r wobr hon yn ymuno â'r ddwy wobr berfformio newydd a gyflwynwyd y llynedd, diolch i nawdd Out & Proud. Bydd cael gwobr berfformio arall, gobeithio, yn annog mwy o actorion i ymuno â llu cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, ac awduron sy'n mynychu'r ŵyl bob mis Hydref."