annes elwy in gwledd

IFC Midnight yn sicrhau hawliau Gogledd America ar y ffilm arswyd ddialgar Gymraeg, Gwledd

Heddiw cyhoeddodd IFC Midnight eu bod am sicrhau hawliau Gogledd America ar y ffilm arswyd ddialgar oruwchnaturiol Gymraeg, Gwledd. Dyma’r tro cyntaf i Lee Haven Jones gyfarwyddo ffilm nodwedd; mae eisoes wedi ennill gwobr BAFTA fel cyfarwyddwr teledu. Bydd IFC Midnight yn rhyddhau’r ffilm yn ystod hydref 2021.

Cyfarwyddwyd Gwledd gan Jones ac fe’i hysgrifennwyd a’i chynhyrchwyd gan Roger Williams. Yn serennu ynddi mae Annes Elwy, Nia Roberts, a Julian Lewis Jones ynghŷd â Sion Alun Davies, Steffan Cennydd, Rhodri Meilir, a Lisa Palfrey. Cynhyrchwyd Gwledd drwy gynllun Cinematic Ffilm Cymru Wales, ac fe’i hariannwyd gan S4C, Ffilm Cymru Wales, BFI (gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol) a Fields Park. Cynhyrchwyd y ffilm â chydweithrediad Melville Media Limited gyda chefnogaeth Great Point Media.

Mae Gwledd wedi ei gwreiddio yn chwedlau mytholegol grymus Cymru, ac yn y ffilm mae teulu cyfoethog yn ymgynnull un noson yn eu cartref moethus yng nghanol y mynyddoedd am bryd o fwyd. Mae gŵr busnes a ffermwr lleol wedi eu gwahodd yno er mwyn dod i drefniant busnes i dyllu’r tiroedd cyfagos. Pan ddaw merch ifanc ddieithr i weini arnynt, mae credoau a gwerthoedd y teulu’n cael eu herio wrth i’w phresenoldeb tawel, ond aflonydd, ddechrau chwalu eu bywydau - yn araf, yn gwbl fwriadol, a gyda’r canlyniadau mwyaf dychrynllyd. Mae Gwledd yn fyfyrdod dwys ar hanes a thraddodiad, trachwant a chyfrifoldeb, hunaniaeth a gwahaniaeth. Mae yma chwedl foes gyfoes sy'n cwestiynnu pwy ddylai etifeddu'r ddaear o ddifrif, gydag ymdeimlad cynyddol arswydus yn treiddio drwyddi, sy’n arwain at ddiweddglo gwaedlyd, dychrynllyd.

Saethpwyd Gwledd yn yr iaith Gymraeg, a fe’i dangoswyd am y tro cyntaf, dan law Midnight, yng Ngŵyl Ffilm SXSW 2021.  Bu i waith gweledol manwl Jones a pherfformiad iasol Annes Elwy yn y prif ran ddenu sylw beirniaid yr UDA a’r beirniaid rhyngwladol fel ei gilydd. Mewn adolygiad yn Screen International, bu i Nikki Baughan ganmol y perfformiad hwn fel un “hudolus”, gan ychwanegu, “Mae Annes Elwy yn syfrdanol o gynnil…mewn rhan sydd ag ychydig iawn o eiriau mae Elwy yn plymio i ddyfnderoedd annisgwyl Cadi gyda dwyster tawel”. Wrth adolygu ar gyfer Variety, dywedodd Jessica Kiang, “Mae rheolaeth oeraidd gwaith ffilmio Jones, a danlinellir gan y sain unigryw a sgôr atmosfferig, gyfareddol Samuel Sim, yn hoelio ein sylw’n llwyr a’n cadw’n gwingo ar y bachyn,” gan ychwanegu, “mae’r gwaith cyfarwyddo mor hyderus a’r crefftwaith mor berffaith mae Gwledd, er mai nifer fychan o gynhwysion sydd ynddi, yn ein llenwi cystal â phryd tri chwrs”

Meddai Arianna Bocco, Llywydd IFC Films, “Mae’n anodd ysgwyd y teimlad o ofn a phryder mae rhywun yn ei gael wrth wylio Gwledd, chwedl arswydus, wyrdroedig sydd yn eich cadw ar flaen eich sedd tan y diwedd dychrynllyd, sy’n gwbl deilwng o Guignol. ‘Rydym mor gyffrous o gael gweithio gyda Lee ar ei ffilm nodwedd gyntaf, ac yn edrych ymlaen yn arw at rannu Gwledd gyda chynulleidfaoedd ym mhob man sydd wrth eu bodd â ffilmiau arswyd.”

Ychwanegodd Roger Williams, yr awdur a’r cynhyrchydd, “‘Rwyf wrth fy modd y bydd IFC Midnight yn gweini Gwledd yn yr UDA a Canada. ‘Rwy’n siŵr y bydd cynulleidfaoedd ledled Gogledd America yn cael eu diddanu a’u harswydo gan ein ffilm Gymraeg unigryw, fydd, diolch i IFC Midnight, yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosib.”

Cafodd y ddêl am y ffilm ei negodi a’i chadarnhau gan Lywydd IFC Films, Arianna Bocco, a’r Cyfarwyddwr Caffaliadau, Aijah Keith, gyda Bankside Films yn cynrychioli’r gwneuthurwyr ffilm.