photo of a cinema audience at the iris prize festival

Gwyliau ffilm a sinemâu cymunedol cymru yn ffynnu gyda chyllid Ffilm Cymru Wales

Mae Ffilm Cymru Wales yn cefnogi saith o wyliau ffilm a sinemâu cymunedol sy'n darparu profiadau sinematig cyffrous i gynulleidfaoedd ledled Cymru.

Trwy eu Cronfa Arddangos Ffilmiau, gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol, mae Ffilm Cymru Wales yn darparu £170,000 y flwyddyn i gynorthwyo sinemâu annibynnol a gwyliau ffilm i ddiddanu ac ysbrydoli pobl ledled y wlad drwy ddarparu mwy o ddewis o ffilmiau. Fel rhan o ymrwymiad y sefydliad i arloesedd, cynhwysiant a chynaliadwyedd, mae'r gronfa'n annog arddangoswyr i ddatblygu eu gwaith mewn sector sy'n esblygu, gan gysylltu eu cymunedau lleol drwy gyfrwng sinema. 

Dywedodd Nicola Munday, Rheolwr Cynulleidfa Ffilm Cymru Wales, “Mae gwytnwch ac angerdd arddangoswyr ffilm yng Nghymru wastad wedi creu argraff arnaf i. Mae eu hymroddiad i ffilmiau creadigol a diwylliannol yn aruthrol, yn enwedig mewn cyfnod heriol, lle mae'r wlad dan faich argyfwng costau byw. Ond mae ymrwymiad cryf i gynulleidfaoedd i’w weld yn glir drwy’r dyfarniadau hyn. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r sefydliadau hyn ac ymgeiswyr y dyfodol sy'n gweithio tuag at ein hail gylch.”

Yn y cyntaf o ddau gylch ariannu yn 2023, mae Ffilm Cymru Wales wedi dyfarnu dros £63,500 hyd yma ac mae nawr yn croesawu ceisiadau ar gyfer y dyddiad cau terfynol ar 2 Tachwedd 2023. 

Mae'r sefydliadau y dyfarnwyd cyllid iddyn nhw hyd yma yn cynnwys:

Gŵyl Arswyd Ryngwladol Abertoir
Gan ysbrydoli Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth rhwng 14 a 19 Tachwedd, mae Abertoir yn cyflwyno'r goreuon yn genre arswyd y byd i Gymru. Bydd yr ŵyl yn cynnwys dangos ffilmiau nodwedd a ffilmiau byrion, sesiynau holi ac ateb, perfformiadau byw, gwesteion arbennig a chwis tafarn. Bydd y cynulleidfaoedd yn mwynhau amrywiaeth o ffilmiau brawychus sy'n gynrychiolaeth real o ddiwylliannau a phrofiadau gwahanol, ac mae gan yr ŵyl ffocws arbennig ar hygyrchedd i bawb, gan gynnwys fersiwn rithwir yn ddiweddarach yn y mis. 

Gŵyl Animeiddio Caerdydd
Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn cynnig ystod eang o ffilmiau byrion a ffilmiau nodwedd animeiddiedig cyffrous, sesiynau holi ac ateb arbennig, a gweithgareddau dysgu cymdeithasol, i gynulleidfaoedd yng Nghaerdydd, yn ogystal â rhaglen deithiol sy'n dathlu gwaith animeiddio o Gymru mewn sinemâu annibynnol ledled y wlad. Eleni, bydd cyllid Ffilm Cymru Wales yn cefnogi’r Ŵyl i ddatblygu partneriaethau a phrosiectau sy'n canolbwyntio ar les a chynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd yr ŵyl yn gweithio gydag animeiddwyr a chynulleidfaoedd niwroamrywiol, ac yn cyrraedd cymunedau gwledig a ffoaduriaid.

Sinema Gymunedol i Bawb
Gan dyfu o gynllun sinema symudol Ffilm Cymru Wales, Ffilm yn Afan, mae'r sinema gymunedol yn Neuadd Gymunedol y Glowyr, Gwynfi, a Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan yn rhoi cyfle i deuluoedd lleol gael profiadau sinema gwych heb orfod poeni am gostau beichus a thrafferthion trafnidiaeth. Mae plant yn cael mynediad am ddim yn eu dangosiadau misol, ac mae rhagor yn cael ei drefnu ar gyfer gwyliau ysgol. Mae'r sefydliad hefyd yn darparu gwasanaeth bws i gwsmeriaid o amgylch yr ardal. 

Ffilm Llanfyllin
Mae'r sinema gymunedol hon yng ngogledd Cymru yn cael ei rhedeg gan Gyswllt Celf, sy'n darparu dangosiadau ffilm misol i gynulleidfaoedd hŷn yn eu tafarn leol. Bydd eu cyllid newydd gan Ffilm Cymru Wales yn eu helpu i dreialu dangosiadau hamddenol i oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol, a chynnal sesiynau holi ac ateb a gweithdai i gynyddu rhyngweithio a chyflwyno pobl ifanc i sinema annibynnol leol. 

Gŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris 
Mae Gŵyl Ffilm Gwobr Iris Caerdydd yn rhannu ffilmiau byrion a ffilmiau nodwedd LHDTC+ i feithrin cynwysoldeb, hybu storïwyr y dyfodol, ac ysgogi empathi trwy bŵer sinema. Gyda chyllid gan Ffilm Cymru Wales, agorodd yr ŵyl eleni ym mis Hydref drwy ddathlu ffilmiau byrion gan wneuthurwyr ffilmiau o Gymru. Roedd yn cyflwyno cyfres o gynnwys gwreiddiol, gan gynnwys podlediadau, fideos a bwletinau dyddiol, ac roedd yn gwbl hygyrch gyda chapsiynau a dehongliad BSL.

Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu
Mae Kotatsu yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, a Pontio Bangor yr hydref hwn gan gyflwyno detholiad newydd o ffilmiau nodwedd a ffilmiau byrion wedi'u hanimeiddio o Japan. Gan gynnig arlwy i gynulleidfaoedd hen ac ifanc, mae'r ŵyl hefyd yn cynnwys gweithdai animeiddio, marchnad a raffl, sy'n golygu mai dyma'r lle gorau i ddathlu diwylliant Japan yng Nghymru. 

Gŵyl Ffilm Ryngwladol a Rhaglen Ffilmiau Wicked Wales
Cyflwynodd Wicked Wales ei 8fed gŵyl ffilm ieuenctid ryngwladol flynyddol yn y Rhyl eleni, gan arddangos gwaith pobl ifanc o bob cwr o'r byd. Ar ôl dod o hyd i gartref newydd mewn canolfan gymunedol leol, bydd Wicked Wales yn parhau i gynnal dangosiadau rheolaidd i bobl ifanc drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â darparu gweithdai creu ffilmiau i ddatblygu sgiliau, hyder a rhwydweithiau drwy stiwdios rhithwir Wicked Wales.

Yn ogystal â'r cyllid, bydd Ffilm Cymru Wales yn cynnig gweithdai cymorth busnes i bob sinema a gŵyl ffilm sy’n ymgeisio, gan gynnwys arweiniad proffesiynol gan arbenigwyr yn y diwydiant.

Photo: Iris Prize

Y dyddiad cau nesaf i gyflwyno cais i Gronfa Arddangos Ffilmiau Ffilm Cymru Wales yw 2 Tachwedd 2023.