poster for cardiff animation festival 2022

Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn cyhoeddi'r Detholiad Swyddogol ac mae'r Tocynnau Cynnar ar werth nawr

Mae'r ŵyl ryngwladol yn dychwelyd yn bersonol 7–10 Ebrill 2022 ac ar-lein 7–24 Ebrill.

Caerdydd, Cymru – Dydd Mawrth 15fed Chwefror 2022 – Fis Ebrill eleni, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF) yn ôl am ei thrydedd flwyddyn, a heddiw mae wedi cyhoeddi ei detholiad swyddogol o 102 o ffilmiau byr wedi'u hanimeiddio fydd yn cystadlu â’i gilydd.

Eleni, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn mynd yn hybrid, gyda digwyddiadau ar-lein yn cael eu cynnal trwy gydol mis Ebrill, a digwyddiadau personol yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd rhwng 7 a 10 Ebrill.

Bydd rhaglen orlawn o ddangosiadau, dosbarthiadau meistr, Holi ac Ateb, digwyddiadau rhwydweithio a phartïon yn cael eu cyhoeddi ddechrau mis Mawrth, ond yn allweddol yn eu plith mae dangosiadau ffilmiau byr sy’n arddangos peth o’r gwaith gorau sydd wedi’i animeiddio a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Gyda 102 o ffilmiau byr o 22 o wledydd – dros hanner ohonynt wedi’u cyfarwyddo gan fenywod – mae’r detholiad yn cynnwys amrywiaeth o leisiau unigryw ac amrywiaeth eang o storïau.

Mae gan bob un o’r saith dangosiad ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n oedolion deitlau hybrid sy’n adlewyrchu thema 2022 yr ŵyl.

  • Mae Gyda’n Gilydd/Ar wahân yn archwilio brwydrau a llawenydd perthnasoedd, gan gynnwys popeth o frwydro i oroesi yn y dyfodol ôl-apocalyptaidd yn Reduction (Réka Anna Szakály), i fyfyrio ar yr amser a dreuliwyd gydag anwyliaid yn A Bite of Bone (Honami Yano).
  • Mae Natur/Ddynol yn gofyn y cwestiwn: Beth sy'n ein gwneud ni'n ddynol? Ydyn ni'n wirioneddol wahanol i bopeth arall ar y blaned? Archwilir y cysyniad o ddynoliaeth trwy ffilmiau o'r serene The Principle of Sunrise (Ye Song) i berfformiad cyntaf y DU o Soft Tissue gan Cliona Noonan.
  • Mae Sain/Gweld yn bleser i'r clustiau yn ogystal â'r llygaid. Daw cerddoriaeth ac animeiddiadau ynghyd i ddarparu profiad amlsynhwyraidd, gan gynnwys ffilmiau fel yr haniaethol 04111311 (Flora Martyr) a'r annwyl Polar Bear Bears Boredom (Koji Yamamura).
  • Mae Hiraeth am/Adre yn ddetholiad llawn hiraeth. Mae’n gyfle i fwynhau atgofion melys o blentyndod yn Forever A Kid (Frederieke Mooij) ac obsesiynau ecsentrig teulu yn Affairs of the Art (Joanna Quinn).
  • Mae Sinema/Tawel yn dangos bod ffilm wych yn mynd y tu hwnt i rwystrau iaith. Nid oes gan y ffilmiau yn y detholiad hwn ddeialog, ond mae pob un yn dweud llawer. Ymollyngwch i atgofion haf breuddwydiol yn Chado (Dominica Harrison) a hwyliwch i ffwrdd gyda thrasicomedi llong fordaith swreal Arka (Natko Stipanicev).
  • Mae Bywyd/Go iawn yn arddangosiad o raglenni dogfen animeiddiedig. O storïau am Derfysgoedd Hong Kong yn Prince Edward (Hoching Kwok) i bortread hunangofiannol o fyw gydag awtistiaeth yn Strange (Cameron Carr), mae'r detholiad hwn yn llawn storïau teimladwy a storïau ysbrydoledig.
  • Mae Ar ôl/iddi Nosi yn ddangosiad hwyr y nos o ddeunydd byr gydag ychydig o gic. O bryfed cop rheibus yn Arachnarche (Emma Jordan), i ailadrodd erchyll hanes dyn yn Cuties (Theo W Scott), nid yw’r detholiad hwn ar gyfer oedolion yn unig yn addas ar gyfer y rhai sy’n cael eu cynhyrfu’n hawdd…

Bydd rhaglen Teulu Gŵyl Animeiddio Caerdydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau i blant. Mae’r dangosiad Animeddiad Byr Teuluol ar gyfer plant oed ysgol gynradd yn cynnwys antur gyda rhai ffrindiau blewog yn A Cat Called Jam (Lorraine Lordan) a thaith gyffrous i’r ysgol yn Tobi and the Turbobus (Verena Fels). Cyhoeddir digwyddiadau pellach i blant a theuluoedd ddechrau mis Mawrth.

Meddai Lauren Orme, Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Caerdydd: “Ar ôl gorfod gohirio CAF 2020 ar yr unfed awr ar ddeg, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gwrs carlam o ran cynnal digwyddiadau ar-lein. Eleni, rydym yn cyfuno ein profiad o redeg digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb â’n rhifyn hybrid cyntaf erioed. Rydym mor gyffrous i ddychwelyd i’r Chapter ac mewn lleoliadau o amgylch Caerdydd gydag amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau personol, yn ogystal â sicrhau bod llawer o’r ŵyl ar gael ar-lein, gan roi cyfle i’n cynulleidfaoedd gael mynediad i’r ŵyl sut bynnag y dymunant. Ni allwn aros i weld pawb yn bersonol ac yn y blwch sgwrsio ar-lein!”

Mae pasys yr ŵyl ar werth nawr, gyda nifer cyfyngedig o Docynnau Cynnar ar gael am brisiau gostyngol. Bydd tocynnau ar gyfer digwyddiadau unigol ar werth yn dilyn cyhoeddiad y rhaglen lawn ddechrau mis Mawrth.