poster for cardiff animation festival 2022

Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn cyhoeddi ei rhaglen lawn ar gyfer Ebrill 2022 Tocynnau ar werth nawr!

Mae digwyddiadau’n cynnwys dosbarthiadau meistr gyda His Dark Materials y BBC a HBO, Aardman Animations, City of Ghosts, Netflix, It’s Pony, Nickelodeon ac enwebai Oscar® Joanna Quinn – ynghyd â karaoke animeiddiedig!

Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF) yn cyhoeddi’r rhaglen lawn ar gyfer dychwelyd i Gaerdydd ar 7–10 Ebrill 2022. Am y tro cyntaf, bydd CAF ar-lein ac yn bersonol, gyda digwyddiadau ar-lein yn cael eu cynnal rhwng 7 a 24 Ebrill.

Eleni, mae rhedwyr yr ŵyl wedi cynnwys dros 60 o ddigwyddiadau yn y rhaglen bersonol a 30 ar-lein, gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dangosiadau ffilmiau byr, gweithdai, paneli diwydiant, dosbarthiadau meistr, cyfleoedd rhwydweithio, partïon a mwy. Ymhlith y gwesteion amlwg mae Joanna Quinn a enwebwyd am Oscar®, y tîm animeiddio y tu ôl i'r rhaglen nodwedd arloesol Flee, ac Elizabeth Ito, creawdwr City of Ghosts, Netflix.

Bydd Penaethiaid Creature Effects o’r BBC a chyfres HBO His Dark Materials yn bresennol i gynnal dosbarth meistr pypedwaith yn datgelu cyfrinachau o’r sioe deledu lwyddiannus, y mae ei thrydedd tymor wedi’i amserlennu i’w rhyddhau eleni. Mae dosbarthiadau meistr eraill yn cynnwys cip y tu ôl i’r llenni ar gyfer It’s Pony, Nickelodeon; ymchwilio i fywyd animeiddiwr Aardman gyda Carmen Bromfield Mason; golwg (neu wrando) ar yr hyn sy'n rhan o asio sain ag animeiddiad gyda Skillbard; ac archwiliad o yrfa sydd wedi ennill gwobrau lu gyda’r arwr animeiddio Joanna Quinn yn animeiddio’n fyw ar lwyfan.

Bydd CAF yn dod â’r ffilm nodwedd Flee a enwebwyd am Oscar® i sgrin fawr Caerdydd, gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r Cyfarwyddwr Celf Jess Nicholls a’r Cyfarwyddwr Animeiddio Kenneth Ladekjær. Bydd yr ŵyl yn dangos dwy nodwedd Japaneaidd: y comedi gerddorol indie arloesol On-Gaku, a pherfformiad cyntaf Cymru o Summer Ghost, gyda sesiynau holi ac ateb gyda chyfarwyddwyr y ddwy ffilm. Bydd yr addasiad fideo o berfformiad cerddorol animeiddiedig Jessica Ashman Dawta hefyd yn cael ei ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda Jessica ei hun.

Bydd y Z i A o Studio Ghibli yn llawn mewnwelediadau, tameidiau blasus mân, damcaniaethau a mwy, wedi'u cyflwyno gan westeion podlediad Ghibliotheque. Bydd yr ŵyl hefyd yn croesawu Scripts Out Loud, tîm o actorion llais proffesiynol a fydd yn perfformio sgript animeiddio newydd yn fyw ar y llwyfan, yn ogystal â chynnig rhaglenni un i un i awduron newydd. Gall awduron hefyd glywed gan y tîm y tu ôl i Circle Square, Milkshake! a fydd yn cynnal dosbarth meistr ar ysgrifennu ar gyfer animeiddio plant.

Gan ymuno â Clwstwr a Gwobrau Ymchwil mewn Ffilm AHRC, bydd CAF yn cynnal diwrnod llawn digwyddiadau wedi’u neilltuo i’r argyfwng hinsawdd a sut y gall y diwydiant animeiddio helpu i frwydro yn ei erbyn. Bydd hyn yn cynnwys gweithdy sy'n archwilio lleoliadau gwaith creadigol arloesol fel rhan o brosiect Cymru Werdd CAF a ariennir gan Clwstwr a Ffilm Cymru. Bydd CAF hefyd yn taflu goleuni ar dalent animeiddio niwro-ddargyfeiriol, trwy ddangosiadau, Holi ac Ateb gyda gwneuthurwyr ffilm niwro-ddargyfeiriol, a gweithdy yn archwilio'r rhwystrau sy'n wynebu talent niwro-ddargyfeiriol o fewn y diwydiant animeiddio.

I'r rhai sy'n mynychu yn bersonol, bydd llawer o gyfleoedd eraill i gwrdd â phobl, datblygu sgiliau, a chael hwyl. Bydd digwyddiadau cymdeithasol yn cynnwys sesiynau Pen/Pals CAF (gyda choffi/diodydd am ddim yn cael eu darparu; anogir sgwrsio a dwdlo), darlunio bywyd cŵn, disgo fideo cerddoriaeth animeiddiedig, a pharti carioci animeiddiedig 360º yn Cultvr Lab.

Ar noson agoriadol yr ŵyl, bydd Nosweithiau Animeiddio cymdeithasol misol Caerdydd yn meddiannu Depot, warws enfawr yng nghanol Caerdydd, am noson o ffilmiau byr, bwyd stryd a hwyl. A phob bore, bydd mynychwyr CAF yn gallu ymuno â gwneuthurwyr ffilm o'r 102 o ffilmiau byr mewn cystadleuaeth ar gyfer Holi ac Ateb, coffi a croissants.

Bydd noson olaf yr ŵyl bersonol yn dod â seremoni fawreddog Gwobrau CAF, wedi’i dilyn yn agos gan y parti noson cloi, sy’n gyfle i ffarwelio â'r ŵyl mewn steil.

Yn ogystal â'r rhaglen bersonol helaeth, mae nifer o ddigwyddiadau ar-lein unigryw hefyd wedi'u hamserlennu, gan gynnwys sesiwn holi ac ateb gydag Elizabeth Ito, crëwr City of Ghosts, Netflix; paneli diwydiant, Holi ac Ateb gyda gwneuthurwyr ffilm rhyngwladol, cydweithrediadau â Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Cape Town (CTIAF), a gweithdy dylunio cymeriadau ar gyfer pob oed. Yn ogystal, bydd mynychwyr ar-lein yn gallu dal i fyny ar ddigwyddiadau personol y gallent fod wedi'u methu.

Meddai Lauren Orme, cyfarwyddwr yr ŵyl, “Rydw i mor falch o’r rhaglen CAF22. Rydyn ni wedi sicrhau ei fod yn orlawn o ddigwyddiadau personol ac ar-lein ac rydym yn gyffrous iawn yn ei gylch. Alla i ddim aros i rannu’r ffilmiau rhyfeddol, clywed gan ein gwesteion anhygoel a phartïa gyda phawb mewn carioci animeiddiedig!”

Dywed Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon; “Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi’r digwyddiad hwn ac unwaith eto weld digwyddiadau diwylliannol yn dychwelyd ac mae gallu croesawu cynulleidfaoedd wyneb yn wyneb yn rhywbeth yr ydym wedi edrych ymlaen ato ers amser maith. Mae gan yr ŵyl raglen gyffrous ac amrywiol o ffilmiau, gan gynnwys rhai premieres Cymreig ac mae’n gyfle gwirioneddol i arddangos talent ac arbenigedd lleol a rhyngwladol.”

Mae tocynnau’r ŵyl, sy’n rhoi mynediad i’r holl ddigwyddiadau personol sydd angen tocynnau ar eu cyfer yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, ar werth nawr am £80 (£55 consesiwn). Mae tocynnau ar-lein, sy'n caniatáu mynediad i bob digwyddiad ar-lein, hefyd ar werth am £20. Bydd tocynnau ar gyfer digwyddiadau unigol ar werth o heddiw ymlaen, dydd Iau 10 Mawrth.