short film sales and distribution

Gwerthu a Dosbarthu Ffilmiau Byrion

30th March 2023, 2:00

Mae Ffilm Cymru Wales & RHWYDWAITH BFI Cymru mewn partneriaeth â Doc Society a BFI NETWORK South West, yn eich gwahodd i ymuno gyda ni ar gyfer y sesiwn ar-lein yma sy’n edrych ar agweddau gwerthu a dosbarthu ffilmiau byrion.  

bfi network wales logo

Os ydych chi wedi gwneud ffilm fer, neu yn y broses o wneud un, dyma gyfle i chi ddarganfod sut orau mae bachu ar y cyfle i werthu a dosbarthu eich ffilm, a sut i gynllunio o flaen llaw yn ystod y camau datblygu cynnar.

Bydd y sesiwn yn para am 90 munud gydag egwyl yn y canol, a bydd cyfle i ofyn cwestiynnau. Rydym yn falch iawn o gael cwmni ein siaradwyr Lorenza Tuan o Shorts TV a Ben Vandendaele o Radiator IP Sales, fydd yn rhoi cipolwg i ni ar eu dull o weithio, ac yn edrych ar yr hyn y gall asiant gwerthu / dosbarthwr ei wneud ar gyfer ffilm. Bydd hyn yn cynnwys astudiaethau achos o ffilmiau byrion llwyddiannus, sy’n dangos ei bod yn bosibl adeiladu pont rhwng datblygu ffilm fer a ffilm nodwedd, yn ogystal â chael golwg ar bob cam o’r broses honno.

Lorenza Tuan

Gyda chefndir mewn Anthropoleg a Chynhyrchu Ffilm, mae gan Lorenza Tuan 9 mlynedd o brofiad yn y diwydiant clyweledol, lle mae hi wedi cynhyrchu, caffael, rhaglennu a churadu ffilmiau, hysbysebion, sioeau byw a chynnwys golygyddol ar gyfer sianeli teledu rhyngwladol a llwyfannau digidol. Wedi'i lleoli yn Llundain, mae hi ar hyn o bryd yn gweithio fel Gweithredwr Caffael ar gyfer Shorts TV, gan gaffael ffilmiau byrion o bob genre a chategori, gan gynnwys Ffilmiau Byrion yr Oscars.

Shorts International yw'r sianel deledu HD 24/7 gyntaf i ddangos ffilmiau byrion yn unig, ac mae ganddi’r record hiraf yn y diwydiant, ac yn berchen ar y catalog mwyaf o ffilmiau byrion byd-eang poblogaidd o ansawdd uchel.

Mae STV yn dosbarthu ledled y byd i dros 130 miliwn o gartrefi drwy 2 brif sianel deledu (ShortsTV a TV Cortos), 2 sianel FAST (Shorts a Cortos) ac SVOD ar Sianeli Amazon Prime, sy'n cwmpasu 92 o wledydd.

Am 18 mlynedd yn olynol mae STV wedi bod yn dosbarthu’r Ffilmiau Byr a Enwebwyd am Wobr yn yr Oscars, gan ddod â’r gwaith gorau i’r sgrîn fawr, a meithrin eu perthynas hir â sefydliadau rhyngwladol allweddol sy’n cyflwyno gwobrau yn y byd ffilm (yr Oscars, BAFTAs), gwyliau ffilm (Sundance, Cannes) ac ysgolion ffilm (AFI, USC, NFTS).

Shorts TV.

Ben Vandendaele

Mae Ben Vandendaele yn gynhyrchydd, yn asiant gwerthu ac yn ddosbarthwr amryddawn. Mae wedi'i leoli ym Mrwsel lle bu'n astudio golygu ffilm yn Ysgol Gelfyddydau Rits. Ef yw sylfaenydd y cwmni cynhyrchu Bekke Films (sy’n cefnogi sinema sy’n pryfocio ac awduron sydd ag uchelgais arbennig), yn ogystal â Radiator IP Sales lle mae wedi cynrychioli, dosbarthu a gwerthu dros 100 o ffilmiau byr a sawl ffilm nodwedd hyd yma. Mae'r ffilmiau wedi'u dewis ar gyfer nifer o wyliau ffilm rhyngwladol, gan gynnwys y Berlinale, Clermont-Ferrand, Sundance, SXSW, Locarno, Fenis, Sarajevo ym mysg eraill.

Mae Ben wedi cymryd rhan mewn sawl gweithdy rhyngwladol, gan gynnwys Berlinale Talents, Zurich Masterclass ac mae’n aelod o bwyllgor rhag-ddewisiad LIM. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â’r European Short Pitch, Torino Short Film Market, Dokufest, Animarkt ac iF Istanbul. Cafodd ei wneud yn aelod o'r Academi Ffilm Ewropeaidd yn ddiweddar.

Radiator IP Sales.

Os oes gennych gwestiwn neu os oes gennych unrhyw angen o ran mynediad, cysylltwch â Tracy Spottiswoode ar tracy@ffilmcymruwales.com   neu ffoniwch 07902 492109 i drafod yn gyfrinachol.