Cystadleuaeth Cyllid Gwyrddu’r Sgrin
Mae Cronfa Gwyrddu’r Sgrin yn ariannu’r gwaith o ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau, gan wella cynaliadwyedd amgylcheddol y diwydiant sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae ein rhaglen Cymru Werdd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol a chwmnïau’r sector sgrin yng Nghymru i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Fel rhan o hyn, rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Media Cymru i gyflwyno ein cronfa datblygu Gwyrddu’r Sgrin, sy’n cael ei rheoli gan Innovate UK, sef rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).
Ar sail ymchwil Screen New Deal albert BAFTA a BFI, mae’n rhaid i brosiectau ymchwil a datblygu leihau’r effaith negyddol y mae’r sector sgrin yn ei chael ar yr amgylchedd drwy’r prif feysydd effaith canlynol:
- ynni a thanwydd
- cludiant
- economi gylchol a gwastraff
- cipio a lledaenu data, arbenigedd, dealltwriaeth dechnegol, cynllunio cynyrchiadau, ac adrodd ar draws y gadwyn gyflenwi
Pwy sy’n gallu gwneud cais?
- Busnesau cofrestredig yn y DU, cwmnïau buddiannau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw
- Rhaid i ymgeiswyr fod ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd neu’n cydweithio ag o leiaf un sefydliad ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
Anogir cydweithio ar draws y sectorau canlynol:
- y cyfryngau - cynhyrchu ffilm a theledu - a'r sectorau creadigol ehangach
- y byd academaidd
- technoleg
- ynni a thanwydd
- cludiant
- gwasanaethau economi gylchol a rheoli gwastraff
- gweithgynhyrchu a deunyddiau
Am beth alla i wneud cais?
Gall ymgeiswyr wneud cais am grantiau cyllido gwerth rhwng £75,000 a £250,000. Mae cyfanswm o £600,000 o gyllid ar gael.
Rhaid i brosiectau wneud y canlynol:
- Canolbwyntio ar y sector cyfryngau
- Dangos manteision amgylcheddol sylweddol i ddiwydiant y cyfryngau, yn enwedig lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Cynnal o leiaf 75% o waith y prosiect ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
Mae’r meini prawf cymhwysedd llawn ar gyfer ymgeiswyr a phrosiectau ar gael yma.
Sut ydw i’n gwneud cais?
- Darllenwch y canllawiau ar gyfer gwneud cais am gystadleuaeth ar y Gwasanaeth Cyllid Arloesedd.
- Llenwch y ffurflen gais ar-lein, sydd wedi’i rhannu’n bedair adran:
- Manylion y prosiect.
- Cwestiynau am y cais.
- Cyllid.
- Hygyrchedd a chynhwysiant.
Cysylltu
- Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch cymhwysedd a sut i wneud cais, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyllid Arloesedd.
- Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch cwmpas eich syniadau, cysylltwch â greeningthescreen@ffilmcymruwales.com
- Gall darpar ymgeiswyr drefnu slot un-i-un am 20 munud yn Tramshed Tech ddydd Mawrth 26 neu ddydd Iau 28 Medi.
Media Cymru
Mae Media Cymru yn fenter gydweithredol sydd â 23 o bartneriaid, ac mae’n anelu i droi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau gan ganolbwyntio ar dwf economaidd gwyrdd a theg. Eu gweledigaeth yw helpu Cymru i fod yn arweinydd ym maes cynhyrchu cyfryngau amgylcheddol cynaliadwy (gwyrdd).
Mae Media Cymru (2022 - 2026) yn cael ei ariannu gan Gronfa flaenllaw Strength in Places gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Cymru Greadigol, a phartneriaid diwydiant a phrifysgolion.
Cronfa Strength in Places
Dan arweiniad Ymchwil ac Arloesedd y DU, mae Cronfa Strength in Places yn gynllun ariannu cystadleuol sy'n defnyddio dull seiliedig ar leoedd o ariannu ymchwil ac arloesedd, er mwyn cefnogi twf economaidd lleol sylweddol.