a camera recording a person performing in front of a greenscreen

Ffrwd Arloesedd Media Cymru yn darparu £10,000 i grewyr yng Nghymru

Gall gweithwyr llawrydd creadigol a busnesau bach a chanolig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a ledled Cymru, sydd â syniad am gynnyrch, gwasanaethau neu brofiadau newydd yn y sector cyfryngau wneud cais am hyd at £10,000 o gyllid sbarduno, diolch i lansiad Ffrwd Arloesedd Media Cymru. 

Mae ceisiadau ar gyfer cylch ariannu cyntaf Cronfa Sbarduno Media Cymru yn agor ar 23 Ionawr, gan gynnig cyfle digynsail i grewyr sicrhau cyllid arloesi i wneud gwaith ymchwil a datblygu syniadau.

Mae Media Cymru, a lansiwyd yn 2022, yn bodoli i helpu i ddatblygu busnesau ac unigolion yn y sector gyda chyfres o rowndiau ariannu, hyfforddiant, ymchwil, a chyfleoedd dros bum mlynedd. Y nod yw troi sector cyfryngau Caerdydd a’r brifddinas-ranbarth gyfagos yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau gyda ffocws ar dwf economaidd gwyrdd a theg. 

Drwy Ffrwd Arloesedd Media Cymru, bydd cefnogaeth ariannol yn rhoi cyfle i bobl greadigol Cymru ddatblygu syniadau cynnar iawn yn brosiectau sydd wedi’u dilysu’n llawn. Dros gyfnod o dri i bum mis, bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael eu cefnogi gan arbenigwyr o Gonsortiwm Media Cymru - PDR a Sefydliad Alacrity.         

Ar ôl i brosiectau a ariennir drwy gyllid sbarduno gael eu cwblhau’n llwyddiannus, efallai y bydd ymgeiswyr hefyd yn gymwys i wneud cais am gymorth pellach drwy Gronfa Ddatblygu Media Cymru, sydd i’w lansio ym mis Gorffennaf 2023.

Meddai Lee Walters, Uwch Gynhyrchydd a Rheolwr Ariannu, Media Cymru: “Mae’r rownd ariannu gyntaf yma o gronfa Arian Sbarduno Media Cymru yn gyfle gwirioneddol i bobl greadigol archwilio syniadau cynnar iawn drwy gyfnod o ymchwil a datblygu wedi’i gefnogi.”

“Rydyn ni’n gwybod bod Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn llawn i’r ymylon o grewyr sydd â syniadau gwych, ac allwn ni ddim aros i’w clywed, i helpu i’w troi’n realiti, ac i gydweithio i gyflymu arloesedd yn y sector cyfryngau yn y rhan yma o’r byd."

Mae Media Cymru yn awyddus i gael ceisiadau gan grewyr sy’n gweithredu mewn ystod o ddisgyblaethau a diwydiannau, gyda diddordeb arbennig mewn syniadau’n ymwneud â chynhyrchu rhithwir, fformatau a ffyrdd newydd o greu cynnwys, gemau, adrodd straeon trochol, cynhyrchu dwyieithog, a dulliau newydd o ddarparu newyddion.

Mae Media Cymru yn Gonsortiwm o 23 partner ac mae prosiectau’r sefydliadau hynny sy’n aelodau yn cynnwys gwneud y diwydiant sgrin yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol, mynd i’r afael â diffygion yn ymwneud ag amrywiaeth mewn ffilm a theledu, a chanolbwyntio ar anghenion sgiliau yn y dyfodol a chynyddu effeithlonrwydd gyda thechnolegau newydd. 

Mae Cymru Greadigol, sef asiantaeth datblygu economaidd yn Llywodraeth Cymru sy’n hyrwyddo twf diwydiannau creadigol Cymru, yn aelod o Gonsortiwm Media Cymru.

Meddai Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon: “Rydyn ni’n gwybod bod Cymru yn gartref i grewyr a chynhyrchwyr sy’n gwneud cyfraniad enfawr i’n heconomi a’n proffil rhyngwladol. Yn unol â’n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gefnogi rhagor o waith ymchwil a datblygu yn y sector creadigol, mae Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol yn cefnogi Media Cymru i sicrhau bod mentrau fel y gronfa sbarduno yma’n galluogi rhagor o ddoniau Cymru i ddatblygu dulliau arloesol newydd. 

“Mae'r gronfa sbarduno yma’n fwy na dim ond man cychwyn ar gyfer syniadau newydd. Mae’n cynrychioli buddsoddiad a fydd yn sicrhau enillion gwirioneddol i’n heconomi a’n cymdeithas, wrth i Gymru ddod yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer arloesi yn y diwydiannau creadigol.”  

Nod Media Cymru yw cryfhau cyfraniad economaidd gweithgareddau cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan greu miliynau mewn trosiant ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, cannoedd o swyddi a chefnogi’r gwaith o greu busnesau newydd yn sector y cyfryngau.

Mae’r rhaglen gydweithredol yn cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd, gyda chyllid llywodraeth drwy gronfa Strength in Places Ymchwil ac Arloesi y DU, Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gyngor Caerdydd, partneriaid diwydiant a phrifysgolion, yn ogystal â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cwmpasu deg awdurdod lleol; Blaenau Gwent, Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Caerdydd, Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg, ac mae'n cynnwys rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

Dylai’r rhai sy’n dymuno gwneud cais am gyllid sbarduno a Ffrwd Arloesedd Media Cymru fynd i www.media.cymru. Os oes angen cyngor arnoch ynghylch a ydych yn gymwys, neu os hoffech drefnu cyfarfod un-i-un gydag aelod o dîm Media Cymru, cysylltwch â media.cymru@cardiff.ac.uk.