a film crew shooting a film outside a wooden cabin in a forest

Fforwm Ffilmiau Gwyrdd

26th May 2022, 11:30

Digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim i gynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ac awduron newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg sydd am ddatblygu gwaith ar gyfer y sgrîn mewn modd sy’n amgylcheddol gyfrifol.

n ogystal â chanllawiau ar sut i leihau ôl troed carbon, byddwn yn archwilio sut y gall bod yn wyrdd weithredu fel ffynhonnell ar gyfer arloesedd ac ysbrydoliaeth, gan wella datblygiad creadigol ffilm – gydag arbedion cost posibl hefyd.

Mae Ffilm Cymru wedi yrmwymo i hyrwyddo sector ffilm cynaliadwy. Nod ein rhaglen Cymru Werdd yw cefnogi gweithwyr proffesiynol y sector sgrîn a chwmnïau yng Nghymru i gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Byddwn yn gwneud hyn drwy gyllid, hyfforddiant, ymchwil a gwaith datblygu i ddarganfod ffyrdd newydd o weithio’n gynaliadwy yn y diwydiant sgrîn yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys capsiynau byw a dehongliad BSL. Os hoffech fynychu a bod gennych unrhyw ofynion mynediad ychwanegol, cysylltwch â Tracy Spottiswoode ar tracy@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 07902 492109 i drafod yn gyfrinachol.

Rydym yn falch o gael croesawu ein panel arbennig:

Michelle Antoniades, Hazey Jane Films

Dechreuodd Michelle ei gyrfa ffilm yn cydlynu ffilmiau byr heb gyllideb neu â chyllidebau bychan, ac apiau rhyngweithiol. Cyn pen dim symudodd i faes rhaglenni nodwedd teledu a dogfen gan weithio fel Cydlynydd Cynhyrchu i nifer o gwmnïau a darlledwyr. Yn fwyaf diweddar bu Michelle yn gyfrifol am gynhyrchu cyfres aml-bennod ar y we ar gyfer Rovio Entertainment a diwydiannau Blink.

Yn 2013 ymunodd Michelle â Marley Morrison gan eu bod yn rhannu’r un weledigaeth i ddatblygu a chynhyrchu straeon LGBTQ+ gwreiddiol, gyda’u cwmni Hazey Jane Films. Bu i Michelle greu a rheoli ymgyrch ariannu torfol ar gyfer y ffilm fer Leroy a gafodd sylw ar hafan Kickstarter fel “Project We Love”, gan ennill nifer fawr o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn 2017 comisiynwyd tîm Hazey Jane gan Film London i wneud y ffilm fer, Baby Gravy, gyda Sophia Di Martino a Jade Anouka yn serennu ynddi.

Mae Michelle yn gyn-aelod o BAFTA CREW a Rhwydwaith y BFI ac yn gyn-fyfyriwr o Labordy Talent Gŵyl Ffilm Caeredin. Mae'n gweithio'n rheolaidd gyda GREEN SCREEN EU, ar wneud cynyrchiadau yn fwy amgylcheddol gyfrifol a chynaliadwy. Yn 2019 cynhyrchodd Michelle ffilm nodwedd gyntaf Marley Morrison, Sweetheart, ar gyllideb-feicro o £150,000 gyda chefnogaeth y BFI / BBC Films fel rhan o Gynllun Microdon Film London.

Chris Buxton , Hybrid Narrative

Mae Chris Buxton wedi ennill gwobrau am ei ffilmiau gan gynnwys gwobr BAFTA Cymru. Mae nifer o’i ffilmiau byrion wedi eu dangos mewn gwyliau ledled y byd. Ochr yn ochr â'i yrfa yn y byd gwneud ffilmiau, mae Chris wedi ysgrifennu ar gyfer BBC 1 a BBC Wales. Fe gynhyrchodd The Harri-Parris, yn gyntaf fel sioe lwyfan a deithiodd yn genedlaethol ac yna fel comedi sefyllfa ar gyfer y radio, gan hefyd ysgrifennu sawl pennod a geiriau ar gyfer y caneuon. Dechreuodd Chris ei yrfa yn y cyfryngau fel newyddiadurwr yn ysgrifennu ar gyfer nifer o gylchgronau cenedlaethol, gan gynnwys Total Film ac Edge. Aeth yn ei flaen i wneud ei ffilmiau byr cyntaf cyn astudio cynhyrchu ffilm fel myfyriwr ôl-raddedig. Ar hyn o bryd mae'n datblygu cyfres o brosiectau ffilm a theledu nodwedd ac hefyd yn darlithio mewn cynhyrchu ffilm a theledu. Yn wreiddiol o Fryste, erbyn hyn mae Chris yn byw ger Caerdydd, lle mae’n mwynhau garddio ac mae hefyd wedi datblygu blas am aperitifs Eidalaidd go anarferol.

Mae Hybrid Narrative yn fusnes anghyffredin: yn ffordd newydd radical o wneud ffilmiau sy’n trawsnewid nifer yr adnoddau sydd eu hangen gan felly drawsnewid eu heffaith bosibl ar yr amgylchedd. Drwy newid y ffordd y mae cynyrchiadau’n cael eu creu’n greadigol, mae Hybrid Narrative yn ceisio ail-ddychmygu sut rydym yn adrodd straeon ar sgrîn drwy ddefnyddio dulliau newydd all gyfrannu at wneud y gwaith cynhyrchu’n llawer mwy gwyrdd. Gwnant hyn drwy gyfuno ffilmio ar sgrîn werdd a thechnegau dylunio symudiadau, gan hefydd ddefnyddio offer digidol nad yw’n rhy gostus.

Lauren Orme, Gŵyl Animeiddio Caerdydd

Mae Lauren Orme yn animeiddiwr a chyfarwyddwr sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith. Mae wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Bu i Creepy Pasta Salad, ffilm fer wedi ei hanimeiddio ac a ariannwyd gan Beacons, gyrraedd rhestr fer BAFTA a chael ei henwebu ar gyfer gwobr BAFTA Cymru yn 2020.

Lauren yw Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF), a Chyfarwyddwr Creadigol Picl Animation, stiwdio animeiddio yng Nghaerdydd a gyd-sefydlwyd ganddi yn 2018. Picl yw un o’r cwmnïau animeiddio cyntaf yn y DU i ennill tystysgrif B Corporation.

Symudodd Lauren i Gaerdydd yn 2010 tra'n astudio animeiddio ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd. Yn 2014, sefydlodd Lauren Cardiff Animation Night, sy’n dangos ffilmiau byr rhyngwladol sydd wedi eu hanimeiddio i gynulleidfa lewyrchus yng Nghaerdydd, ac yn 2018 cyd-sefydlodd CAF. Trwy CAF, mae Lauren wedi arwain dau brosiect ymchwil a datblygu sy’n archwilio cynaliadwyedd amgylcheddol yn y diwydiant animeiddio, un wedi’i ariannu gan Clwstwr, ac un arall, sydd ar fin dod i ben, wedi’i ariannu gan Ffilm Cymru a rhaglen Cymru Werdd Clwstwr.