behind the scenes of a short film shoot, featuring a person being interviewed in their living room on camera. The interviewer is wearing a full face covering.

Ffolio’n comisiynu tri gwneuthurwr ffilm newydd o Gymru ac yn agor cylch ariannu newydd

Bydd tair ffilm fer newydd, gan dri pherson sy’n creu ffilm am y tro cyntaf, yn cael eu cynhyrchu drwy Ffolio, y llwyfan ar gyfer talent greadigol o Gymru.

Mae Ffolio yn bartneriaeth rhwng BBC Arts, BBC Cymru Wales, Cyngor Celfyddydau Cymru a Ffilm Cymru, ac yn cynnig hyfforddiant, mentoriaeth a chyfleoedd comisiynu’r BBC i bobl greadigol yng Nghymru nad oes ganddynt brofiad yn y maes ffilm a theledu. Yn ddawnsiwr, yn flogiwr, yn gerddor, yn ysgrifennwr, yn ffotograffydd, yn artist graffiti, yn gynllunydd gemau, yn bypedwr, yn berfformiwr syrcas neu’n animeiddiwr, mae Ffolio’n cynnig cyfle newydd i bobl Cymru ddathlu eu creadigrwydd.

Ers 2020 mae Ffolio wedi comisiynu 12 ffilm fer fywiog sy’n adlewyrchu amrywiaeth talent greadigol gyfoethog Cymru, gan gynnwys Cardiff, I Love You, gan yr awdur Lloyd Glanville, In a Room Full of Sisters gan y ffotograffydd Ashrah Suudy, a Daughters of the Sea gan y dawnsiwr bale Krystal S. Lowe. Dangoswyd y ffilmiau gorffenedig am y tro cyntaf ar raglenni arbennig BBC Four cyn eu rhyddhau ar BBC iPlayer.

Y tair ffilm fer ddiweddaraf i’w cynhyrchu drwy Ffolio yw:

ffolio logo

017 Pink Punch

Comedi fffeministaidd gan y newyddiadurwr a’r awdur Polly Mannings. Wedi cael llond bol ar ei bywyd llwm, mae Cait yn gofyn am gymorth ei ffrind gorau benboeth, Beca, i wireddu ei breuddwyd o gael gwallt pinc – mae’r canlyniadau’n gwbl annisgwyl.

Wedi ysgrifennu ar gyfer VICE UK a’r Western Mail, mae Polly ‘nawr yn troi at ffuglen, gan egluro: “Fy mhrif ddiddordeb creadigol yw archwilio profiadau pobl ifanc yn y Gymru wledig ac ôl-ddiwydiannol; yn enwedig yr ensyniad sydd ar led o pa mor ‘llwm’ yw bywyd mewn ardaloedd economaidd difreintiedig, a’r ffyrdd mae pobl ifanc Cymreig yn ymdopi â, ac yn aml yn gwrthbrofi’r honiad fod bywyd yn ‘llwm’ i gyd. Mae’n hanfodol dangos mai anaml iawn mae’r bywydau hyn yn cael eu gweld ar sgrîn, er mwyn eu dathlu ac er mwyn cwestiynnu beth yw ‘bod yn Gymro’.”

Two B or not Two B?

Mae dogfen Hywel Matthews yn tyrchu i wraidd y ddadl danbaid sy’n bodoli o amgylch sillafiad cywir enw’r pentref mae’n byw ynddo yn Ne Cymru: Cefn Cribwr neu Cefn Cribbwr?

Wedi colli ei swydd yn dilyn cau ffatri Ford Pen-y-bont, mae Hywel yn awyddus i ddechrau o’r dechrau drwy ddilyn gyrfa greadigol mewn ffilm. “‘Rwyf heb weithio mewn ffilm o’r blaen er fod gen i ddiddordeb erioed, ond ‘doeddwn i ddim digon dewr,” meddai. “Yn y bennod newydd yma yn fy mywyd, ‘rwy’n awyddus i wthio’r cwch i’r dŵr o ddifrif a bod yn rhan o’r prosiect cyffrous yma.” 

Freedom Through Lockdown

Drama sy’n amlygu un o agweddau positif byw drwy bandemig byd-eang, gan y perfformiwr a’r coreograffydd o Ogledd Cymru, Rhys Thomas. Cyn COVID-19 ‘roedd anabledd John yn golygu ei fod yn byw drwy gyfnod clo parhaol ac unig. Ond pan mae’r byd cyfan yn cael ei orfodi i aros adref, mae’n darganfod rhywfaint o ryddid wrth i ragor o bobl ddechrau estyn allan yn ystod eu caethwied eu hunain.

Bu i’r tri gwneuthurwr ffilm fynychu ‘bootcamp’ hyfforddi ar-lein ym mis Hydref 2020 fel rhan o’r broses gomisiynu, cyn cychwyn ar y gwaith cynhyrchu ar eu ffilmiau byrion. Cawsant arweiniad arbenigol gan rai o fentoriaid y diwydiant, Jay Bedwani (Donna, Fridays with Barry), Prano Bailey-Bond (Censor, Nasty) a Justin Edgar o 104 Films.

Yn gynhrarach eleni, bu i Ffolio gynnig dulliau newydd i bobl fynegi eu hunain drwy gynnig nawdd penodol ar gyfer prosiectau sain unigryw ac arloesol. Derbyniodd Ffilm Cymru dros 50 o geisiadau gan dalentau creadigol o Gymru oedd â stori i’w rhannu, a bydd y penderfyniadau ar gyfer comisiynau Ffolio Audio yn cael eu cyhoeddi yn yr haf.

behind the scenes of a short film shoot, featuring a person posing by a dartboard in a pub for someone filming.

Mae cylch diweddaraf Ffolio ar gyfer ffilmiau byr ar agor ‘nawr. Mae’r rhaglen yn cynnig arian i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer y sgrîn, yn ogystal â hyfforddiant, cefnogaeth benodol, a bwrsariaethau ar gyfer costau fel costau teithio, gofal plant neu anghenion mynediad.  

Y dyddiad cau ar gyfer y cylch diweddaraf o ffilmau byr Ffolio yw 1af Mehefin am 15:30.