a photo of a young person standing behind a black cow

Ffilmiau byrion newydd yn disgleirio diolch i gynllun Beacons

Mae Ffilm Cymru Wales wedi dewis deuddeg ffilm fer newydd i’w datblygu trwy gynllun Beacons, gyda chefnogaeth BBC Cymru Wales a RHWYDWAITH y BFI, gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol.

Mae Beacons yn taflu goleuni ar dalent o Gymru, gan gefnogi gwneuthurwyr ffilm newydd o Gymru i greu ‘cerdyn galw’ sinematig drwy gynnig cyllid, hyfforddiant, mentoriaeth a chyngor.

Mae’r gyfres ddiweddaraf hon o ffilmiau byrion yn arddangos amrywiaeth o straeon, o leisiau a thalent o Gymru ar draws nifer o genres, gan gynnwys gwaith animeiddio, rhaglenni dogfen, a gwaith ffuglen ‘live-action’. Wrth gyflwyno’r 12 prosiect ffilm fer newydd, dywedodd Rheolwr RHWYDWAITH y BFI Cymru, Jude Lister, “Mae bob amser yn gyffrous gweld yr ystod eang o syniadau creadigol sy’n cael eu cyflwyno gan dalent o Gymru, a chawsom ymateb anhygoel i’n galwad am geisiadau eleni. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld sut y bydd y 12 prosiect ffilm fer yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

Crybaby

Cynhyrchydd: Tom Stubbs 
Ffilm wedi ei hanimeiddio am berson 25 mlwydd oed sy’n dysgu deall ei hun yn well ar ôl cael diagnosis o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD). Ennillodd y ffilm bu i Eleri ei chyflwyno ar gyfer ei gradd, The Goat, sawl gwobr a’i dangos mewn gwyliau ledled y byd.

Dim ond Ti a Mi    

Awdur/Cyfarwyddwr: Griff Lynch    
Yn y ffilm arswyd Gymraeg hon mae gwerthoedd a diwylliannau yn gwrthdaro mewn ffermdy anghysbell wrth i Mabli fynd ar daith i gwrdd â theulu ei chariad. Mae Griff wedi cyfarwyddo ffilmiau byr, rhaglenni dogfen a fideos cerddorol ar gyfer Channel 4, Amazon Prime, S4C, Nowness, RTE a’r BBC.

Follow The Dogs    

Awdur/Cyfarwyddwr: Isabel Garrett
Cynhyrchydd: Sue Gainsborough
Mae'r rhaglen ddogfen hon, sy’n rhannol wedi ei hanmieddio, yn archwilio perthynas Warren Hastings, sy’n dioddef o ganser, â gofal iechyd a chreadigrwydd wrth iddo wella ar ôl cael triniaeth. Mae gan Isabel gefndir o adrodd straeon wedi eu hanimeiddio, ac mae wedi cyfarwyddo comisiynau ‘stop-motion’ ar gyfer ystod eang o gleientiaid gan gynnwys Channel 4, Alexander McQueen, The Eels, ac Amazon.

Frostlands

Awdur/Cyfarwyddwr: Anastasia Bruce Jones
Cynhyrchwyr: Matt Ashwell, Scott Piggott
Mae merch fferm chwe mlwydd oed yn dysgu ei hun i hedfan, ond pan fydd ei hoff heffer yn rhoi genedigaeth i lo gwrywaidd mae gwers galetach i’w dysgu. Mae Anastasia yn ysgrifennu ac yn cyfarwyddo ar gyfer ffilm, theatr a theledu. Bydd ei ffilm fer ddiweddaraf, All Girls, yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Aesthetica.

Mother's Day    

Awdur: Emily Burnett    
Cyfarwyddwr: Darragh Mortell    
Cynhyrchydd: Laura Southgate 
Mae'n rhaid i fachgen ifanc sydd wedi gwirioni ar y gofod droedio’n ofalus drwy fyd newydd pan fydd ei fam, yn sydyn, yn dechrau dioddef o argyfwng iechyd meddwl, a'i nain yn dychwelyd o'r Caribî i ofalu amdano. Bu Emily yn rhan o Ystafell Sgwennu y BBC - Lleisiau o Gymru - (BBC Writer’s Room Welsh Voices) a Rhaglen Ddatblygu Proffesiynol Llenyddiaeth Cymru,  ac fe’i comisiynwyd yn ddiweddar i ysgrifennu ar gyfer GALWAD. Mae Darragh yn awdur/cyfarwyddwr sydd wedi ennill llu o wobrau. Bu’n cyfarwyddo’r ail uned ar The Phantom of the Open, ac mae ganddo nifer o brosiectau mewn datblygiad ym meysydd Teledu, Radio a Ffilm.

On a Wing and a Prayer

Awdur/Cyfarwyddwr: Siriol Bunford    
Cynhyrchydd: Tim Katz
Rhaglen ddogfen sy’n arsylwi ar hynt a helynt pobl uchel eu statws sy’n gwirioni ar golomennod wrth iddynt gystadlu am deitl y Prif Bencampwr yn ‘Crufts y Byd Colomennod’. Mae Siriol wedi cyfarwyddo ffilmiau byr a hysbysebion arobryn ar gyfer nifer o gleientiaid gan gynnwys Adidas, Nike, Google, Guinness, Samsung, IKEA, British Airways, HSBC a McDonalds.

Passenger

Awdur/Cyfarwyddwr: Nia Alavezos    
Cynhyrchydd: Louis Jones 
Yn y gwaith hwn sydd wedi'i animeiddio, ac sydd wedi ei ysbrydoli gan anime, mae ysbryd dialgar yn ceisio meddiannu corff Cora, ond dros amser maent yn ffurfio perthynas annifyr. Mae Nia yn gynhyrchydd ac yn storïwraig sy’n gweithio ym maes animeiddio, a hi oedd cyfarwyddwr Timeless Gifts, ffilm fer Nadolig Sun & Moon Studio.

Puppets and My Mental Health

Awdur/Cyfarwyddwr: Ffion Pritchard    
Cynhyrchydd: Dion Wyn Hughes    
Mae’r rhaglen ddogfen hon yn archwilio byd pypedau a’r manteision ddaw yn ei sgil ar gyfer ymdrin ag iechyd meddwl. Mae Ffion wedi ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu ffilmiau ar gyfer BBC Cymru, It’s My Shout, Moving Parts International Puppet Festival, HANSH a Wicked Wales.

Ships in the Night    

Awdur: Kel Matsena
Cyfarwyddwyr: Kel Matsena, Anthony Matsena
Mewn cinio teuluol, mae cyhoeddiad syml yn gorfodi Jamie a Claire i wynebu gwahaniaethau o ran hil, crefydd a diwylliant - a’r cyfan oherwydd cariad. Cyd-sefydlodd Kel, a aned yn Zimbabwe ac a fagwyd yng Nghymru, Matsena Productions gyda’i frawd Anthony i greu llwyfan ar gyfer adrodd straeon mwy beiddgar ac amrywiol trwy gyfuniad o gelfyddydau perfformio gwahanol.

Shoes    

Awdur/Cyfarwyddwr: Eiko Meredith    
Cynhyrchydd: Robin Lyons 
Yn y ddrama ‘stop-motion’ hon, sydd wedi ei hanimieddio, mae menyw yn sylweddoli bod ei phartner yn ceisio ei rheoli’n llwyr wedi iddi symud i fyw ato. Wrth i'r camdriniaeth waethygu, mae hi'n penderfynu dianc. Mae Eiko wedi gweithio gyda pypedau a phropiau ar Shaun the Sheep, Igam Ogam, Fantastic Mr Fox a Frankenweenie, a hi yw sylfaenydd Gŵyl Kotatsu, yr unig ŵyl animeiddio ar thema Japaneaidd yng Nghymru.

The Fire Drill    

Awdur/Cyfarwyddwr: Dani Abram    
Comedi wedi ei hanimeiddio am yr atyniad rhywiol tanllyd sy’n digwydd yn ystod ymarfer tân rhwng Linda, sy’n farsial tân cwbl ymroddedig, a’i chyd-weithiwr o swyddfa arall. Mae gan Dani 15 mlynedd o brofiad ar draws gemau AAA, mewn gwaith teledu a ffilm i blant fel animeiddiwr a chyfansoddwr.

Treading Water

Awdur/Cyfarwyddwr: Toby Cameron    
Cynhyrchydd: Simon Pax McDowell 
Mae Dylan yn cael ei lethu gan ôl-fflachiadau trawmatig yn sgil ymosodiad cas a welodd pan yn blentyn. Gyda’i nerfau ar fin chwalu’n llwyr, mae’n mynd ar daith gathartig i’w gynorthwyo i achub ei swydd, ei briodas a’i feddwl. Mae Toby wedi cynhyrchu a chyfarwyddo ffilmiau ar gyfer y BBC, ITV, Channel 4 ac S4C, a chafodd ei ffilm fer Louder Is Not Always Clearer ei henwebu ar gyfer gwobr BAFTA Cymru eleni.

Ychwanegodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales, “Mae set ryfeddol o ffilmiau Beacons ar iPlayer ar hyn o bryd ac maent yn denu cynulleidfaoedd ledled y DU. Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i’n talent gorau, mwyaf disglair allu adrodd straeon grymus, trawiadol ac rydym yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau.”

Bydd pedwar ffilm fer Beacons arall yn cael eu darlledu ar BBC 2 fis nesaf: Jelly, comedi LGBTQ+ o Ogledd Cymru gan Samantha O’Rourke, a Seats, drama dywyll Nan Moore ar 2 Rhagfyr, a Jackdaw, ffilm gyffrous Mac Nixon a enwebwyd am wobr BAFTA Cymru, a Staying (Aros Mae), portread Zillah Bowes o’r gymuned wledig, ar 8 Rhagfyr.

Bydd cylch nesaf cyllid cynllun ffilmiau byr Beacons yn agor yn 2023.