a daffodil in the sunshine

Ffilm Cymru’n croesawu adroddiad Senedd Cymru ar Adfer yr Economi yn Sgil Covid-19

Fel yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilm yng Nghymru, ’rydym yn falch o weld yr argymhellion yn adroddiad Pwyllgor Economi, Isadeiledd a Sgiliau Llywodraeth Cymru ar ’Adferiad tymor hir yn sgil COVID-19.’

Wedi i ni fod yn eiriol ar ran y gweithwyr llawrydd a’r busnesau meicro sydd wedi cynnal sector greadigol fywiog gydol y pandemig, ‘rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod bod angen  “cefnogaeth ariannol frys ar sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau celfyddydol a chreadigol.” Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r holl bobl nad ydynt wedi bod yn gymwys i dderbyn arian gan y Llywodraeth hyd yn hyn, fel y nodir yn yr adroddiad yma.

Mae Ffilm Cymru’n croesawu’n arbennig y pwyslais ar strategaeth sgiliau gynaliadwy i gynorthwyo ag adfer yr economi.  Fel ddangoswyd gan ein rhaglen hyfforddi wobrwyol, Troed yn y Drws, ‘rydym yn credu’n gryf mewn darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy – o waith coed i arlwyo, o logistec i gyfrifeg - mae hyn yn hollbwysig i ddatblygu gweithlu amrywiol ac addasol yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, sector sy’n parhau i dyfu.  Gallai cefnogi cyrsiau trosi byr, sydd wedi eu teilwra’n arbennig, alluogi’r gweithlu i addasu ac i ymateb yn gyflym i’r gofynion, gan alluogi unigolion i symud ar draws sectorau er mwyn ymateb i gyfleoedd gwaith.

Fel sy’n cael ei gydnabod yn yr adroddiad hwn, dylai ymrwymiad at gydraddoldeb a chynaladwyedd amgylcheddol fod yn greiddiol i’r holl weithgaredd adfer. Mae Ffilm Cymru’n cymeradwyo craffter ac uchelgais y pwyllgor, ac yn rhannu eu hymrwymiad i ail-adeiladu ac i weithio’n well gyda’n gilydd: yn fwy gwyrdd, yn decach a a chan groesawu pawb.