a photo of a group of people talking to each other at a speed networking event

Ffilm Cymru yn DocFest 2022

Mae Ffilm Cymru a BFI NETWORK Wales hoffem gynnig cyfle i hyd at 5 person fynychu’r Sheffield DocFest yn rhan o ddirprwyaeth Ffilm Cymru, rhwng y 23ain a’r 28ain Mehefin, 2022.

Bydd y cynrychiolwyr a ddewisir yn derbyn tocyn llawn i’r ŵyl, gan gynnwys sesiwn fentora grŵp gan DocFest am sut i fanteisio i’r eithaf ar y rhaglen. Rhoddir mynediad llawn i holl ddangosiadau, sgyrsiau a byrddau trafod yr ŵyl.  Bydd proffiliau’r cynrychiolwyr yn cael eu cyhoeddi ar wefan Sheffield DocFest.

Bydd gwesty i’r cynrychiolwyr yn cael ei ddarparu am chwe noson yn Sheffield ynghyd â bwrsariaethau teithio a chostau gofynion mynediad (e.e. costau mewn perthynas â rhwystrau rhag gallu ymweld- er enghraifft gofal plant/ gofal unrhyw un sydd yn ddibynnol arnoch chi, colli cyflog os yn gweithio’n llawrydd).  

Bydd y cynrychiolwyr hefyd yn elwa o sesiwn 1 i 1 gydag aelod o dîm Ffilm Cymru / BFI Network Wales i drafod datblygiad eu gyrfa ac unrhyw brosiectau penodol maen nhw’n gweithio arnyn nhw.  

Ydw i’n gymwys?

Mae’n rhaid i chi fodloni’r canlynol:

  • Wedi eich geni a/neu wedi eich lleoli yng Nghymru, dros ddeunaw mlwydd oed, a ddim mewn addysg llawn amser;
  • Ar gael i fynychu DocFest ac yn gallu teithio o unrhyw leoliad yn y DU i Sheffield (ni fydd tâl am gostau teithio rhyngwladol); 
  • Wedi cael prif ran greadigol mewn o leiaf un darn o waith sgrin sydd wedi ei arddangos neu ei ddarlledu yn gyhoeddus, naill ai mewn rhaglen ddogfen, ffeithiol neu faes cyffelyb (e.e. ffilm ffuglen, celf weledol, hysbysebion/ hyrwyddiadau, lluniau);
  • Meddu ar ddyheadau i gyfarwyddo neu gynhyrchu ffilm nodwedd yn fwriadol ar gyfer ei rhyddhau mewn gŵyl/ digwyddiad theatrig;
  • Heb fod yn brif gyfarwyddwr neu gynhyrchydd ffilm nodwedd 60 munud neu fwy mewn hyd wedi ei chwblhau a’i rhyddhau mewn gŵyl/ digwyddiad theatrig.  

Rydym ni’n awyddus i glywed gan wneuthurwyr ffilm sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant, yn adlewyrchu amrywiaeth ethnigrwydd, anabledd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol. Rydym ni hefyd yn ystyried cynrychiolaeth ddaearyddol ar draws Cymru. 

Sut i wneud cais?

I wneud cais, cwblhewch ffurflen ymgeisio Beacons a’i hanfon ar e-bost i network@ffilmcymruwales.com erbyn y dyddiad cau, ynghyd â chopi o’ch CV.

Neu os hoffech chi, gallwch ymateb i’r cwestiynau sydd ar y ffurflen gais naill ai drwy alwad fideo fyw neu alwad ffôn gydag aelod o’n tîm. Bydd angen trefnu hyn cyn y dyddiad cau. Bydd yr alwad yn cael ei recordio.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Saesneg neu yn y Gymraeg. 

Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sydd yn F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl neu’n bobl niwroamrywiol, a phobl sydd wedi colli golwg mae cefnogaeth ac addasiadau pellach ar gael. Er enghraifft, gallwn ariannu costau addasu gwneud y canllawiau mewn fformat gwahanol (e.e. print mawr), gael cyfieithydd BSL i fynychu cyfarfodydd, cymorth sgriblo i ymgeiswyr dyslecsig, neu weithiwr cefnogol pe byddai angen. Cysylltwch i drafod mewn cyfrinachedd. Rydym yn awyddus i chi arwain.

Llinell amser

Ceisiadau:

  • Dydd Mawrth, Mai 3ydd 2022 am 3pm – amser cau ceisiadau
  • Dydd Gwener, Mai 6ed 2022 – cyhoeddi canlyniad i’r ymgeiswyr 

Dirprwyaeth yr Ŵyl:

  • Gweddill Mai hyd at Fehefin 23ain 2022 – gwybodaeth a chefnogaeth cyn mynychu 
  • Dydd Iau, Mehefin 23ain 2022 – cyrraedd y gwesty, noson agoriadol yr ŵyl
  • Dydd Mawrth, Mehefin 28ain 2022 – noson olaf yr ŵyl
  • Dydd Mercher, Mehefin 29ain 2022 – gadael y gwesty

Cysylltiadau

Jude Lister, Rheolwr BFI NETWORK Wales
jude@ffilmcymruwales.com

Gwenfair Hawkins, Swyddog Datblygu Gweithredol
gwenfair@ffilmcymruwales.com

Gallwch gysylltu â ni ar 07904 265567.