a still from animated short film The Hounds of Annwn featuring ghostly dogs walking through a graveyard in a forest

Ffilm Cymru Wales yn sbarduno ffilmiau byrion newydd

Mae’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilm o Gymru wedi dewis deuddeg ffilm fer newydd i gael eu cynhyrchu drwy gynllun Beacons, gyda chefnogaeth BBC Cymru Wales a BFI NETWORK, gydag arian gan y Loteri Genedlaethol.

Mae Beacons yn taflu golau ar dalent o Gymru, gan gefnogi gwneuthurwyr ffilm o Gymru sy’n dod i’r amlwg i gynhyrchu ‘cerdyn galw’ sinematig drwy gynnig cyllid, hyfforddiant, mentoriaeth a chymorth.

O ffilm arswyd werin yn yr iaith Gymraeg i ffilm ddogfen wedi ei hanimeiddio, mae’r llechen newydd yma o ffilmiau byrion yn adlewyrchu’r cyfoeth o leisiau unigryw a’r straeon pwerus sy’n bodoli yng Nghymru.  Mae Ffilm Cymru hefyd yn falch o weld bod dau o’r gwneuthurwyr ffilm yma yn cymryd cam ymlaen o gynllun Ffolio, gyda BBC Arts, BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru, er mwyn parhau ar eu taith greadigol drwy gynllun Beacons. 

Wrth gyflwyno’r 12 prosiect newydd yma i lechen ddatblygu Beacons, dywedodd Jude Lister, Rheolwr BFI NETWORK Cymru, “Mae’r darnau yma gan dalent o Gymru i gyd yn eithriadol o gyfoethog a grymus ac mor berthnasol, ac yn cwmpasu ffuglen fyw (live-action), ffilm ddogfen a gwaith wedi ei animeiddio. ‘Rydym wrth ein boddau’n cefnogi datblygiad y prosiectau drwy Beacons.”

Fisitor

Awdur/Cyfarwyddwr: Llŷr Titus
Yn y stori arswyd werin Gymraeg hon, mae Ioan mewn galar wedi iddo golli ei ŵr pan gaiff ymweliad gan bresenoldeb bygythiol. Bu i’r awdur Llŷr Titus ennill gwobr Tir Na N-Og am ei nofel gyntaf, Gwalia, a chafodd ei ddrama gyntaf, Drych, ei chynhyrchu gan Cwmni'r Frân Wen.

G Flat

Awdur/Cyfarwyddwr: Peter Darney
Cynhyrchydd: Brett Webb
Mae gŵr 84 oed sydd wedi dioddef trawiad yn penderfynu cyflogi person sy’n gweithio yn y diwydiant rhyw, penderfyniad sy’n arwain at uchafbwynt go annisgwyl. Mae’r awdur-gyfarwyddwr hoyw, Peter Darney, yn gweithio yn y byd ffilm a byd y theatr. Fel awdur ar gyfer y sgrîn mae gan Peter nifer o brosiectau sydd wrthi’n cael eu datblygu, gan gynnwys cyd-ysgrifennu’r ffilm nodwedd Dragged to Church gydag Eve Miles ar gyfer Vox Pictures / Fullwell 73, a Clapham Trashbag sy’n seiliedig ar ei ddrama 5 Guy’s Chillin’.

Geronimo

Awdur/Cyfarwyddwr: Geraint Morgan
Cynhyrchydd: Catrin Lewis Defis
Mae perchennog arcêd ddifyrion yn ofni bod yr hen fenyw sy’n ymweld ag ef yn ei freuddwydion nid yn unig yn ei yrru’n wallgof, ond hefyd yn dinistrio’i fusnes yn araf bach. Mae gan yr awdur-gyfarwyddwr Geraint Morgan brofiad helaeth o gyfarwyddo teledu ar gyfer S4C ym mysg eraill, ac wedi gweithio yn y theatr, ar y radio, ac mae hefyd yn nofelydd.

Gobaith Mul

Awdur: Melangell Dolma
Cyfarwyddwr: Sarah Bickerton
Beddgelert, pentref delfrydol yng nghanol Eryri. Ond sut mae posib cynnal bywoliaeth yma ym mysg y twristiaid cyfoethog a’r tai haf, yn enwedig os ydych chi’n ferch ifanc heb gartref sefydlog, dim ond pâr o drenyrs llawn tyllau? Mae’r awdur Melangell Dolma a’r cyfarwyddwr Sarah Bickerton wedi cyd-weithio ar nifer o gynyrchiadau theatr, gan gynnwys drama gyntaf Melangell, Bachu, a gyfarwyddwyd gan Sarah a’i pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019.

Hell Week

Cyfarwyddwr: Gemma Green-Hope
Cynhyrchydd: Sofie Isenberg
Dychmygwch wario hanner o bob mis yn dadfeilio a’r hanner arall yn ail-adeiladu…a hynny heb hyd yn oed wybod pam. Mae’r ddogfen hon yn cyfuno 2D ac animeiddio ‘stop-motion’ i ddarlunio profiad  PMDD (Anhwylder Dysfforig Cynmislyf). Mae’r cyfarwyddwr Gemma Green-Hope wedi gweithio ar ffilmiau byrion, fideos cerdd, a chomisiynau ar gyfer sefydliadau fel Mind Sir Benfro a The School of Life.

Hounds of Annwn

Awdur: Bethan B. Hughes
Cyfarwyddwyr: Bethan B. Hughes & Bryony Evans
Cynhyrchydd: Lauren Orme
Uwch Gynhyrchydd: Helen Brunsdon
Ffilm 2D ddigidol wedi ei hanimeiddio sy’n adrodd hanes milwr wedi ei glwyfo, sy’n dychwelyd i’w bentref a’n cael ei hela gan haid o gŵn rhyfeddol. Wedi helfa galed rhaid iddynt wynebu’r gorffennol er mwyn sicrhau dyfodol heddychlon. Mae gan y cyfarwyddwyr Bethan B. Hughes a Bryony Evans flynyddoedd lawer o brofiad o weithio ar gynyrchiadau teledu wedi eu hanimeiddio. Cynhyrchir y ffilm gan Lauren Orme (Creepy Pasta Salad), fu’n rhan o gynllun Beacons yn y gorffennol, ac sydd wedi ei henwebu ar gyfer un o wobrau BAFTA.

Lull

Awdur/Cyfarwyddwr: Alice McKee
Mae menyw ifanc od yn adrodd stori amser gwely i berson sy’n methu’n glir â chysgu yn y ffilm arswyd seicolegol hon gan Alice McKee. Cafodd Alice ei henwebu’n ddiweddar am wobr BAFTA Cymru am ei ffilm ddogfen fer, The Nest.

The Queer Trichotemy 

Cyfarwyddwr: Ren Faulkner
Cynhyrchydd: Toby Cameron, On Par Productions
Mae’r ffilm ddogfen hon yn adrodd tair stori hoyw an dri apwyntiad all newid bywyd: apwyntiad i dorri gwallt; apwyntiad i gael tatŵ; apwyntiad i gael sesiwn dylino. Mae Ren Faulkner, y cyfarwyddwr, eisoes wedi gwneud ffilmiau dogfen byrion ac wedi gweithio gydag On Par Productions, cwmni’r cynhyrchydd Toby Cameron, fel Gŵr Camera a Golygydd, ac mae hefyd wedi gweithio fel Cynorthwy-ydd Camera ar nifer o ddogfennau i BBC Wales.

Seven

Awdur/Cyfarwyddwr: Krystal S. Lowe
Mae menyw yn deffro, wedi ei llorio ynghanol cyfnod o iselder, nes i daith mewn car arwain at eiliad fregus o ryddhad ble gall ail-ddiffinio ei hun. Mae Krystal S. Lowe yn goreograffydd, yn ddawnsiwr ac yn wneuthurwr ffilm, a bu iddi wneud ei ffilm gyntaf, Daughters of the Sea, drwy gynllun Ffolio Ffilm Cymru. Mae ei ffilm nesaf, Complexity of Skin, wedi ei chyd-ysgrifennu gyda Matthew Gough, ac wedi  ei chomisiynu fel rhan o raglen ‘Culture in Quarantine’ y BBC.

Spectre of the Bears

Awdur: Ioan Morris
Cyfarwyddwr: Josh Hicks
Nid yw obsesiwn un dyn gyda chreision yn un iach, ond nid oherwydd ei fod yn eu bwyta. Mae hon yn ffilm gomedi wedi ei hanimeiddio am hiraeth, am gynllwyn corfforaethol ac am greision siâp arth. Mae’r awdur Ioan Morris a’r cyfarwyddwr Josh Hicks wrth eu bodd â nofelau graffeg a llyfrau comig, a’r ddau wedi cyhoeddi eu gwaith eu hunain.  Mae Ioan wedi gweithio fel dylunydd cysyniadol yn y byd animeiddio ac fel cyfansoddwr ar ddramâu sain. Mae credydau Josh yn y byd animeiddio yn cynnwys cyd-gyfarwyddo dau fideo cerddorol ar gyfer y Foo Fighters.

Sputum Cup

Awdur/Cyfarwyddwr: Oliver Gabe
Wedi symud ei thad oedrannus i’w ystafell fyw er mwyn gofalu amdano, mae Beth yn dechrau breuddwydio am ryddid ac unigedd y Gorllewin Gwyllt sydd yn yr hen ffilmiau cowboi mae ei thad yn eu gwylio’n ddi-baid. Mae Oliver Gabe wedi cymryd cam ymlaen o gynllun Ffolio Ffilm Cymru, ble mae ei ffilm fer gyntaf, The Sin Eater, wrthi’n cael ei chynhyrchu.

White and Black

Awdur: Nyla Webbe
Cyfarwyddwyr: Nyla Webbe & Onismo Muhlanga
Cynhyrchydd: Mohammed Miah
Mae dau laslanc yn rhannu eu teimladau, am yr hyn maent yn ei wybod am tabŵs a’r stigma sy’n bodoli wrth rannu dwy etifeddiaeth. Mae’r awdur-gyfarwyddwr Nyla Webbe yn datblygu’r ddrama hon am bobl ifanc o Gasnewydd drwy fenter addysg greadigol G-Expressions.  

Bydd pob tîm yn datblygu eu ffilmiau byrion gydag arweiniad gan Ffilm Cymru, BFI NETWORK Cymru a BBC Cymru Wales, fydd yn cynnwys cyfleoedd hyfforddi a mentora ar gyfer y gwneuthurwyr ffilm, cyn i bump ohonynt, o leiaf, gael eu dewis i gael eu cynhyrchu ddiwedd Tachwedd.

Meddai Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales, “Mae gennym ystod anhygoel o straeon yma gan gast arbennig iawn o awduron, o gyfarwyddwyr ac o berfformwyr. Dyma pam mae Beacons mor bwysig gan ei fod yn cynnig cyfle i bobl greadigol o Gymru wneud gwaith nodweddiadol a phwysig, gwaith allai lwyddo ar iPlayer a’i wylio ledled y DU. Yn y pen draw bydd y rhai fydd yn cael eu comisiynu’n cael eu cynnwys mewn ‘boxset’ hyfryd fydd yn sicr o swyno cynulleidfaoedd.”

Mae chwech o ffilmiau byr Beacons ar gael ar hyn o bryd i’w ffrydio’n fyw ar BBC iPlayer, gan gynnwys comedi dywyll Hannah Daniel a Georgia Lee, Burial; drama Sion Thomas am ffermio, Dirt Ash Meat; stori Tina Pasotra am rymuso a gwytnwch, I Choose; ffilm arswyd Joseph Ollman am ddod-i-oed, Bitter Sky; archwiliad teimladwy Clare Sturges o alar, The Arborist; a stori garu hyfryd Efa Blosse-Mason, wedi ei hanimeiddio, Cwch Deilen.

Disgwylir i’r rownd nesaf o gyllid ar gyfer cynllun ffilmiau byr Beacons agor yn 2022.