Ffilm Cymru staff and board sitting in socially-distanced chairs at an event.

Ffilm Cymru Wales yn edrych am Aelodau newydd i’r Bwrdd

Mae asiantaeth datblygu’r sector ar gyfer ffilmiau yng Nghymru yn edrych am dri neu bedwar unigolyn sy’n cynnig amrywiaeth o ddealltwriaeth proffesiynol a phrofiadau bywyd go iawn i ymuno â’n Bwrdd.

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, cysylltwch â ni ar sion@ffilmcymruwales.com 

Dylai’r ymgeiswyr rannu angerdd at sector a diwylliant ffilm Cymru sy’n gynhwysol, teg a gwyrdd, ac sy’n darparu gwerth economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol ledled Cymru. Rydym eisiau profiad eang ar draws y Bwrdd ac nid ydym yn disgwyl i bob Aelod fod â chefndir ym maes ffilm, na hyd yn oed yn y sector creadigol. Os ydych yn meddwl y gallwch ychwanegu gwerth i’n gwaith, hoffem glywed gennych chi.

Gallwch glywed gan rai o Aelodau presennol y Bwrdd yn trafod eu profiad fan yma:

Penodiadau

  • O dair blynedd, ac mae’n bosibl dechrau ar ddyddiadau gwahanol o fis Tachwedd 2021.  
  • Mae disgwyl i’r Aelodau fynychu pedwar cyfarfod chwarterol o’r Bwrdd bob blwyddyn, a gallent hefyd eu cynnig eu hunain i ddarnau penodol o waith, megis is-grwpiau gorchwyl a gorffen.  
  • Caiff taliad cydnabyddiaeth ei gynnig i Aelodau’r Bwrdd ar gyfradd o £35 yr awr, sy’n destun PAYE a Chyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol yn dibynnu ar y symiau sy’n cael eu talu. Mae’r Aelodau’n dueddol o dreulio’r hyn sy’n gyfwerth ag 8-10 diwrnod y flwyddyn ar ddyletswyddau’n ymwneud â’r Bwrdd. Rydym hefyd yn talu treuliau.

Profiad

Rydym eisiau clywed gennych, waeth beth yw eich taith neu rôl broffesiynol. Hefyd, rydym yn awyddus i glywed gan bobl sydd â phrofiadau ar draws y sectorau yma:

  • Materion Cyfreithiol / Busnes
  • Cynhyrchydd / Sylfaenydd Cwmni Cynhyrchu
  • Cynrychiolydd Platfform / Comisiynu 
  • Gallai meysydd eraill o ddiddordeb gynnwys cyfarwyddwyr, ymchwilwyr / dadansoddwyr, eiriolwyr polisi ac athrawon creadigol. Nid yw’r rhestr hon o feysydd yn orffenedig. Os ydych yn meddwl y gallech ychwanegu gwerth i’n gwaith, carem glywed gennych.

Ceisiadau

Gofynnwn i chi gyflwyno cais drwy lythyr, neu drwy ffordd arall os yw hynny wedi’i gytuno mewn ymateb i gais ynglŷn â mynediad, gan ddisgrifio:

  • Beth sy’n eich denu i’r rôl?
  • Beth allech chi ei gynnig i’r rôl? 
  • Pryd hoffech chi gychwyn?

Dylai’r ceisiadau gael eu hanfon at sylw ein Cadeirydd, yr Athro Ruth McElroy d/o sion@ffilmcymruwales.com neu drwy e-bost: Ffilm Cymru Wales, Uned 6, Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Caerdydd, CF11 6BH.

Os hoffech drafod y rôl ymlaen llaw, cyfeiriwch eich ymholiad at y Prif Weithredwr,  pauline@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 02921 679369, a all hefyd eich rhoi mewn cyswllt â’n Cadeirydd, sy’n hapus i ymateb i ymholiadau.

Cyflwynwch gais erbyn 12 hanner dydd, dydd Llun 27ain Medi 2021.