a black and white photo of the olivia records collective

Ffilm Cymru Wales yn datblygu ffilmiau nodwedd newydd

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau yng Nghymru wedi buddsoddi £280,183 yn rhagor o arian y Loteri Genedlaethol i ddatblygu 12 ffilm nodwedd newydd gan wneuthurwyr ffilmiau o Gymru. 

O straeon gwir pwerus i ffantasïau doniol wedi’u hanimeiddio, mae'r ffilmiau hyn yn adlewyrchu’r amrywiaeth gyfoethog o leisiau a thalent fywiog sydd ym maes creu ffilmiau yng Nghymru. 

Gyda chymorth Ffilm Cymru, caiff awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr eu tywys drwy’r broses ddatblygu, o’r driniaeth i’r drafft terfynol a chyllido, gyda chyngor wedi’i deilwra a hyd at £25,000 o gyllid. Mae ffilmiau sydd wedi’u cynorthwyo gan Gronfa Ddatblygu Ffilm Cymru wedi cael llwyddiant ar y sgrin fawr yn ddiweddar, gan gynnwys Censor, ffilm arswyd boblogaidd Prano Bailey-Bond, a The Colour Room, ffilm gan Claire McCarthy am fywyd Clarice Cliff.

Wrth gyflwyno'r prosiectau newydd i lechen ddatblygu Ffilm Cymru, dywedodd Gwenfair Hawkins, Swyddog Gweithredol Datblygu: "Unwaith eto rydym yn falch iawn o weld y cyfoeth o dalent o Gymru sydd i’w weld ac rydym yn teimlo’n gyffrous iawn am y prosiectau a’r perthnasoedd newydd yma."  

Dyma’r 12 ffilm newydd sydd bellach yn cael eu datblygu ar y cyd â Ffilm Cymru:

A Man with a Fork in a World of Soup
Cyfarwyddwr: Grzegorz Pacek 
Cynhyrchwyr: Dave Evans, Monika Braid
Cwmnïau Cynhyrchu: Braidmade Films a bak
Ffilm ddogfen deimladwy yn portreadu dyn sy’n byw y tu allan i ffiniau gwareiddiad modern; y dyn cyntefig olaf, ar wahân ac ar ei ben ei hun, fel dyn â fforc mewn byd o gawl.

Ash Under the Mountain
Awdur: Lara Barbier 
Cyfarwyddwr: Ryan Andrew Hooper
Cwmni Cynhyrchu: Stand-off
Yn y ffilm arswyd ffantasïol hon gan gyfarwyddwr The Toll, mae merch ifanc sy’n byw yng Nghymru ar ddechrau’r 20fed ganrif yn darganfod y gallai fod mwy nag esgeulustod diwydiannol yn bresennol yn y mynyddoedd. 

A Womanly Way: The Story of Olivia Records
Cyfarwyddwr: Hannah Berryman
Cynhyrchydd: Catryn Ramasut
Cwmni Cynhyrchu: Cynyrchiadau ie ie
Yn dilyn Rockfield: The Studio on the Farm gan yr un gwneuthurwyr, dyma ffilm ddogfen gerddoriaeth newydd am sut y gwnaeth y lesbiaid ffeministaidd ifanc ac arloesol o America lansio Olivia Records yn y 1970au, label chwyldroadol i fenywod yn unig, a sut y gwnaeth eu cerddoriaeth newid bywydau miliynau o bobl.

Edge of Extinction 
Cyfarwyddwr: Rich Bentley
Cynhyrchydd: Natasha Coleman
Cwmni Cynhyrchu: Postcard Productions Ltd
Cynhyrchydd Gweithredol: Sam Forsdike
Dyma hanes llawn ysbrydoliaeth am gymuned Yemenïaidd yn goroesi yng nghanol un o drychinebau dyngarol gwaethaf y byd.

The Gigantic Beard that was Evil
Awdur: Simon Roberts
Cynhyrchwyr: Dan Dixon, Paul Schleicher
Cynhyrchydd Cyswllt: Kathy Speirs
Ffilm i’r teulu wedi’i hanimeiddio yn seiliedig ar y nofel graffig lwyddiannus. Mae bywyd Dave yn troi ben i waered pan mae yna farf enfawr, wyllt yn tyfu ohono, ac yn bygwth llyncu holl ynys Here. Mae’n anhrefn llwyr yno, mae safonau’n llithro, ac mae bywydau’r trigolion yn newid am byth.

The Hard Road
Awdur / Cyfarwyddwr: Simon Ryninks 
Cynhyrchwyr: Elwen Rowlands, Sam Costin
Cwmni Cynhyrchu: Little Door Productions Ltd
Yng Nghymru’r 1860au, mae porthmon a menyw mewn profedigaeth sydd mewn sefyllfa ariannol drychinebus yn peryglu’u bywydau wrth yrru gwartheg ar daith enbydus i Lundain. Wedi’u huno mewn galar, â’u bywoliaeth yn y fantol, mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu cydweithio, gan oresgyn anawsterau corfforol ac emosiynol, er mwyn ceisio goroesi.

Peloton 
Awdur: Nick Saltrese
Cyfarwyddwr: Vaughan Sivell
Cynhyrchwyr: Tom Wood, Vaughan Sivell, Franki Goodwin
Cwmni Cynhyrchu: Western Edge Pictures
Caiff criw o ffrindiau sy’n beicio yng nghefn gwlad Ffrainc eu hela gan beloton o feicwyr rhyfedd ac angheuol.

The Secret Realm
Cynhyrchydd: Jon Rennie 
Cynhyrchydd Gweithredol a Chynhyrchydd Arweiniol: Lindsay Watson
Cynhyrchydd Gweithredol: Bob Thompson 
Cwmni Cynhyrchu: CANUK Productions
Comedi ffantasïol wedi’i hanimeiddio am ferch sydd rhwng plentyndod a’r arddegau yn ymdrechu i ddod o hyd i’w lle yn y byd; yn arbennig pan mae’n wynebu brwydr rhwng y byd ‘go iawn’ a diwylliant hynafol y tylwyth teg.

The Starry Sky Above
Awdur-Cyfarwyddwr: Liam Gavin
Cynhyrchydd: Adam Partridge
Cynhyrchwyr Gweithredol: Cormac Fox, Eoin O'Faolain
Stori newydd frawychus gan awdur-gyfarwyddwr A Dark Song; mae dwy chwaer ifanc yn brysio i dacluso tŷ unig yn y wlad i’w hatal rhag cael eu dinistrio gan y grymoedd tywyll sy’n cuddio y tu mewn.

Untitled Gothic Horror
Awdur: Walter Chaw
Cynhyrchydd: Catrin Cooper. 
Cyd-gynhyrchydd: Adam Partridge
Gyda manylion y plot o dan gêl, caiff y ffilm ei saethu yng Nghymru, drwy wasanaeth Delta Pictures, cwmni o Gaerdydd.

White Hope: The Maurice Burton Story
Awdur: Alkin Emirali 
Cynhyrchydd: Rob Alexander
Cwmni Cynhyrchu: Perfectmotion ltd
Ym Mhrydain y 1960au, roedd bywyd yn anodd i fachgen swil, cymysg ei hil, hyd nes iddo ddod o hyd i’w lwybr. Dyma ddrama i’r teulu sy’n adrodd hanes Maurice Burton, pencampwr beicio Du cyntaf Prydain.

Woof
Awdur: Elgan Rhys
Cyfarwyddwr: Jonny Reed
Cynhyrchydd: Roger Williams
Drama LHDTC+ Gymraeg sy’n olrhain hanes dau Gymro ifanc wrth iddyn nhw geisio cynnal perthynas tra’n arbrofi â ffiniau ffyddlondeb a chwant. 

Y dyddiad cau nesaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau i Gronfa Ddatblygu Ffilm Cymru yw 1af Mehefin 2022.