a photo of a film crew shooting in a grassy and wooded area

Ffilm Cymru a Clwstwr yn cyhoeddi prosiectau sgrin cynaliadwy newydd wedi’u meithrin gan Gronfa Her Cymru Werdd

Wrth i arweinwyr byd, arbenigwyr amgylcheddol ac aelodau’r gymuned wyddonol ymgynnull yn Glasgow ar gyfer Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26, mae Ffilm Cymru a Clwstwr yn falch iawn o gyhoeddi’r tri phrosiect amgylcheddol arloesol sydd wedi’u dethol i’w datblygu gyda chymorth Cronfa Her Cymru Werdd.

Mae Cronfa Her Cymru Werdd yn bodoli oherwydd partneriaeth rhwng Ffilm Cymru, sef corff datblygu’r sector ffilmiau, a Clwstwr, rhaglen arloesi'r sector sgrin. Bydd y gronfa arloesi amlddisgyblaeth hon yn hybu atebion i heriau amgylcheddol allweddol yn y diwydiant ffilmiau yng Nghymru, gan helpu’r sector i fod yn fwy cynaliadwy. Bydd y tri phrosiect sydd wedi’u dethol yn rhannu £75,000 i ddatblygu eu syniadau dros gyfnod o chwe mis.

Dywedodd Pauline Burt, Prif Swyddog Gweithredol Ffilm Cymru, “Mae sefyllfa frys ein her amgylcheddol yn golygu bod yn rhaid i bawb chwarae eu rhan. Mae’n rhaid i ni weld newid sylweddol ar lefel systemig, diwydiannol ac unigol. Nid yw’r diwydiannau creadigol yn eithriad. O’n rhan ni yn Ffilm Cymru, rydym yn canolbwyntio ar helpu’r sector i fod â chynnyrch a gwasanaethau gwyrdd ar gael iddynt sy’n ei gwneud yn haws i newid ymddygiad dydd i ddydd er gwell. Mae hefyd yn hanfodol rhannu arferion da, rhwydweithiau ac adnoddau sy’n golygu ein bod yn dal ati i symud i’r cyfeiriad cywir.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Justin Lewis: “Rydym wrth ein bodd o fod yn ariannu tri phrosiect Cymru Werdd sy’n mynd i’r afael â gwahanol agweddau ar yr ymdrech tuag at sero-net ym maes cynhyrchu teledu a ffilmiau, o ddewisiadau sylfaenol ynglŷn â fformat a thechnoleg, i fynd i’r afael â’r materion ymarferol a fydd yn galluogi cwmnïau i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy ar bob cam o’r broses gynhyrchu. Bydd gan y prosiectau hyn werth ynddynt eu hunain, ond byddant hefyd yn creu dealltwriaeth bwysig ar gyfer sector y cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt.”

Dywedodd Chris Hill wedyn, “Fy mraint i, fel Rheolwr Materion Gwyrdd Ffilm Cymru, yw cyflwyno tri phrosiect Cronfa Her Cymru Werdd dan arweiniad Gŵyl Animeiddio Caerdydd, y gwneuthurwr ffilmiau Chris Buxton, a’r cwmni cynhyrchu Severn Screen. Mae i bob prosiect ymagwedd unigryw a byddant yn cynnig cyfleoedd i ddeall yn well yr heriau mae’r diwydiant yn eu hwynebu mewn perthynas â chynaliadwyedd. Nod y prosiectau yw cynnig atebion go iawn a fydd yn ein helpu i symud yn bellach tuag at ddiwydiant sgrin gwyrddach i bawb.”

Bydd Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn archwilio gwasanaeth i helpu’r diwydiannau animeiddio, gemau ac ôl-gynhyrchu yng Nghymru i gyrraedd sero-net erbyn 2030 drwy gyfweliadau manwl, dadansoddi ôl-troed carbon, gweithdai cyd-greu ac arolygon ymgynghori. Bydd Diwydiant Animeiddio Sero-Net yn edrych am atebion ymarferol i’r cwestiynau a’r rhwystrau a ganfuwyd drwy eu prosiect ymchwil a datblygu blaenorol drwy Clwstwr, gan greu map o’r llwybr i gyrraedd sero-net drwy wasanaeth newydd sy’n gynaliadwy yn economaidd.

Dan arweiniad Chris Buxton, mae Hybrid Narrative yn fusnes mewn ffordd anarferol: dull newydd radical o fynd ati i greu ffilmiau sy’n trawsnewid faint o adnoddau sydd eu hangen a’u heffaith bosibl ar yr amgylchedd. Gan gyfuno dulliau ffilmio sgrin werdd, technegau dylunio symud ac offer digidol isel eu cost, bydd Hybrid Narrative yn ystyried o’r newydd sut rydym yn adrodd storïau ar sgrin. 

Drwy Maximising Havoc, bydd Severn Screen yn darparu dadansoddiad manwl o'r technegau gwneud ffilmiau cynaliadwy a ddatblygwyd wrth wneud Havoc, gan adeiladu ar y momentwm a grëwyd gan gynhyrchiad arloesol Gareth Evans i Netflix, ac helpu i ymgorffori dysgu a systemau newydd ar gyfer cynyrchiadau yn y dyfodol.

Mae Cronfa Her Cymru Werdd yn rhan o raglen ehangach Ffilm Cymru – Cymru Werdd – sy’n helpu gweithwyr proffesiynol a chwmnïau’r sector sgrin yng Nghymru i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Mae Green Cymru yn darparu cyllid a hyfforddiant yn ogystal â chyllid sbarduno a datblygu, a bydd cyllid i gynyddu maint y prosiectau ar gael o 2022, er mwyn symud cynnyrch a gwasanaethau yn eu blaen i greu sector sgrin cynaliadwy yng Nghymru.

Gweledigaeth Clwstwr yw i Gymru fod yn arweinydd ym maes cynhyrchu cyfryngau gwyrdd. Mae Clwstwr wedi ymrwymo i sbarduno syniadau arloesol i leihau ôl-troed carbon a chreu llai o effaith ar yr amgylchedd, gyda’r prosiectau maen nhw’n eu hariannu a chyda sector y cyfryngau ledled Cymru.