still from donna featuring performer donna personna standing in a dark smoky room next to a mirror with pink lights around the frame

Digwyddiadau gwneuthurwr ffilm yng Ngŵyl Ffilm LGBTQ+ Gwobr Iris

Ymunwch â Ffilm Cymru Wales, RHWYDWAITH BFI Cymru a BFI Doc Society yng Ngŵyl Ffilm LGBTQ+ Gwobr Iris.

Cychwyn ym maes Adrodd Storïau Dogfen

Sesiwn Banel a Holi ac Ateb

Dydd Iau 12 Hydref 2023
2.00pm - 3.00pm 
Stadium Plaza, Caerdydd

Mae rhaglenni dogfen ysbrydoledig sy'n gwthio ffiniau yn adlewyrchu'r byd rydym yn byw ynddo a gallant chwarae rhan wrth lunio safbwyntiau. Sut mae egin wneuthurwyr ffilmiau yn cymryd eu camau cyntaf tuag at ddatblygu syniadau am ffilmiau ffeithiol mewn ffordd sy'n datgelu storïau newydd real ac ysgogol?

Hannah Bush Bailey (Gweithredwr Ffilmiau a Chronfa BFI Doc Society) fydd yn agor sgwrs gyda’r gwneuthurwyr ffilmiau Julia Alcamo (cyfarwyddwr y ffilm fer Ted & Noel a enwebwyd am Wobr Iris, gyda chymorth Cronfa Made of Truth BFI Doc Society), Mena Fombo (Blak Wave Productions, derbynnydd Cyllid Ffilmiau Dogfen Gwobr Iris) a Jay Bedwani (cyfarwyddwr ffilm nodwedd Donna a gynorthwywyd gan Ffilm Cymru ac a enwebwyd am wobr BAFTA Cymru) ar ddatblygu syniadau i greu ffilmiau dylanwadol. Sut maen nhw'n dod i gyswllt â chyfranogwyr ac yn meithrin eu hymddiriedaeth? Pa mor bwysig yw rôl y cynhyrchydd? Sut maen nhw'n cydbwyso gyrfaoedd creadigol? Beth yw'r allwedd i gydweithio’n llwyddiannus? Bydd y sesiwn hon hefyd yn archwilio cyfleoedd ariannu cyfredol yn y DU ar gyfer gwaith ffeithiol greadigol gan dalent newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg ym maes creu ffilmiau. 

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys dehongliad BSL a chapsiynau byw.  

Sesiynau un i un i’w harchebu

Dydd Iau 12 Hydref 2023
4.00pm - 6.00pm 
Stadium Plaza, Caerdydd

Ydych chi'n wneuthurwr ffilmiau sy'n chwilio am gyngor ar gyllid neu yrfa?  Byddwn yn cynnal rhywfaint o sesiynau un i un i awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr a hoffai wybod mwy am y cymorth sydd ar gael i ddatblygu prosiectau neu yrfa yn niwydiant ffilm y DU ac yn enwedig yr hyn sydd ar gael yng Nghymru.  

Bydd Tracy Spottiswoode, Rheolwr Datblygu Talent Ffilm Cymru, a Gwenfair Hawkins, Swyddog Gweithredol Cynhyrchu a Datblygu Ffilm Cymru, yn ymuno â Hannah Bush Bailey, Swyddog Gweithredol Ffilmiau a Chronfa BFI Doc Society, a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes ffilm gan gynnwys Julia Alcamo (cyfarwyddwr Ted & Noel a enwebwyd am Wobr Iris) a Jay Bedwani (cyfarwyddwr Donna a enwebwyd am wobr BAFTA Cymru).

Derbyniad rhwydweithio Chuck Chuck Baby

Dydd Gwener 13 Hydref 2023
7.00pm - 8.00pm 
Sinema Vue, Caerdydd

Derbyniad diodydd a rhwydweithio ar gyfer dangosiad o Chuck Chuck Baby am 8.00pm

Ymunwch â ni am ddigwyddiad rhwydweithio gyda chyfle i gwrdd â gwneuthurwyr ffilmiau eraill, gweithredwyr talent Ffilm Cymru a rhai o’r tîm creadigol y tu ôl i Chuck Chuck Baby.

Wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Janis Pugh, gyda Louise ac Annabel Scholey yn serennu, mae Chuck Chuck Baby yn ffilm am gariad, colled a cherddoriaeth wedi’i gosod dan gawod o blu mewn ffatri ieir yng ngogledd Cymru. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin cyn ei dangos yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto.