concept sketch from animated short film holm featuring a woman in blue light

Dewis pedair ffilm fer o Gymru i gael eu cynhyrchu drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales

Mae’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau o Gymru wedi dewis cynhyrchu pedair ffilm fer newydd drwy eu cynllun Beacons, gyda chefnogaeth BBC Cymru Wales a BFI NETWORK, gydag arian gan y Loteri Genedlaethol.

Mae Beacons yn amlygu talent o Gymru, gan gefnogi gwneuthurwyr ffilm newydd o Gymru i wneud cerdyn ymweld sinematig drwy gynnig cyllid, hyfforddiant, cyngor ac arweiniad.

Ym mis Tachwedd dewiswyd wyth prosiect i gychwyn ar y cyfnod datblygu, gyda Ffilm Cymru Wales yn darparu cyllid, arweiniad a chyngor gan wneuthurwyr ffilm profiadol, gan gynnwys Julia Alcamo, Prano Bailey-Bond, Jay Bedwani, Loran Dunn, Pierre Hodgson, Christopher Morris a Stella Nwimo. Yn dilyn y broses ddatblygu, mae pedwar prosiect wedi’u comisiynu i’w cynhyrchu, gan gynnwys dwy raglen ddogfen deimladwy a phersonol, a drama Gymraeg wedi ei hanimeiddio.

Meddai Jude Lister, Rheolwr Datblygu a Chynhyrchu Ffilm Cymru Wales, “Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weithio gyda’r gwneuthurwyr ffilm dawnus yma o Gymru ar eu ffilmiau byr, ffilmiau sy’n hynod drawiadol. Mae wedi bod yn flwyddyn arbennig o gryf i raglenni dogfen, a’r rhain sy’n ffurfio hanner llechen cynhyrchu Beacons eleni.”

Green Light

Awdur/Cyfarwyddwr: Zahra Al-Sultani
Cynhyrchwyr: Hayley Williams, Emily Beynon 
Cwmnïau Cynhyrchu: Agile Films, Caspian Films

A hithau newydd eni babi, mae Farida’n cael trafferth ymdopi heb wybod a yw ei theulu yn farw neu’n fyw. Er ei bod yn gorfforol yng Nghasnewydd, mae ei meddwl yn rhyfela…ymhell i ffwrdd.

Mae Zahra wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu, y theatr a Sony Playstation; wedi cyfarwyddo fideo cerddorol ar gyfer yr artist newydd Nayiem; ac yn ddiweddar roedd yn Awdur Preswyl yn Sister Pictures. Dywedodd, “Rwyf mor ddiolchgar i Ffilm Cymru Wales, BFI NETWORK a BBC Cymru Wales am roi’r cyfle i Green Light gael ei datblygu ymhellach yn sgîl cyfnod datblygu arbennig o werthfawr. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gam nesaf y daith hon gyda’r tîm gwych, ac am yr holl wersi sydd o mlaen!”

Holm

Awdur: Nico Dafydd
Cyfarwyddwyr: Nico Dafydd, Lleucu Non
Cynhyrchydd: Amy Morris
Cwmni Cynhyrchu: Winding Snake 

I Cati a’i thad mae hiraeth, a’r broses anochel o dyfu i fyny, yn datblygu i fod yn ddau rym gwrthgyferbyniol, yn y ddrama Gymraeg yma sydd wedi ei hanimeiddio.

Cafodd yr awdur-gyfarwyddwr Nico Dafydd ei fentora trwy raglen Y Labordy, Ffilm Cymru Wales, tra bod yr artist a’r animeiddiwr Lleucu Non wedi creu gwaith i BBC ac S4C yn y gorffennol. Dywedodd Lleucu, “Rwy’n gyffrous i gael rhannu’r newyddion bod Holm wedi derbyn cyllid gan Beacons er mwyn dod a’r stori ryfeddol hon yn fyw – stori am fenyw ifanc, ei thad, ac Adar Drycin Manaw Sir Benfro. Rydym yn dychwelyd at yr hen ddull o animeiddio gan dynnu lluniau â llaw, sy’n rhoi teimlad cymhleth ond amrwd i’r ffilm, er mwyn cyfleu taith emosiynol Cati i’r eithaf. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at archwilio’r cydbwysedd cywrain sy’n bodoli rhwng y cysur mae cartref yn ei gynnig, a’r profiad enigmatig o fynd i brifysgol am y tro cyntaf.”

Rick on the Roof

Cyfarwyddwr: Isaac Mayne
Cynhyrchydd: Nan Davies 
Cwmni Cynhyrchu: One Wave Films

Rhaglen ddogfen yn dilyn Rick Canty sy’n protestio o ben toeau adeiladau, ac a frwydrodd yn erbyn cael ei hel allan o’i gartref yn y Barri, De Cymru drwy fyw ar do’r tŷ am dair blynedd. Bu i’r brotest ei ddyrchafu’n arwr annisgwyl y mae ei dref yn dal i gofio amdano.

Mae'r Awdur-Gyfarwyddwr Isaac Mayne yn wneuthurwr ffilmiau ac yn gyfarwyddwr creadigol, gyda’i  waith yn canolbwyntio ar gyfiawnder a chymuned. Dywedodd, “Mae cael ein dewis yn anrhydedd aruthrol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rannu stori chwerwfelys, ddyrchafol, bisâr Rick gyda’r byd, ac i sicrhau bod yr effaith a gafodd un dyn ar do yn fy nhref enedigol, y Barri, yn cael ei gofio.”

The Earth Beneath Margaret’s Feet (previously Sqrauks) 

Awdur/Cynhyrchydd: Jason Smith
Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd: Lisa Smith
Cwmni Cynhyrchu: Patrin Films

Rhaglen ddogfen bersonol am Margaret Smith, nain Gymreig-Romani, y mae diwylliant nomadig, hynafol ei chymuned yn cael ei erydu gan ddeddfau llym a gor-ddatblygu.

Mae Lisa a Jason ill dau wedi gwneud nifer o ffilmiau byr, gan gynnwys gyda Random Acts. Maent wedi ymrwymo i adrodd straeon y cymunedau Romani a Theithwyr gan sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli’n ddilys. Dywed Lisa, “Rydym mor falch o fod wedi derbyn yr arian i wireddu’r ffilm bersonol hon, ac i amlygu’r hunaniaeth Gymreig-Romani, yn ogystal â chysylltiad ein hynafiaid â’r dirwedd.”

Ers 2014 mae cynllun Beacons wedi cynhyrchu 35 o ffilmiau byr a ddangoswyd mewn sinemau, ar y teledu ac ar sgriniau digidol ledled y byd. Mae 12 o Ffilmiau Byrion Beacons o Gymru ar gael i’w gwylio ar hyn o bryd ar BBC iPlayer, gan gynnwys ffilm ramantus Efa Blosse-Mason, sydd wedi ei hanimeiddio, Cwch Deilen (Leaf Boat); portread dogfennol agos-atoch Siôn Marshall-Waters, Forest Coal Pit; a ffilm arswyd hunllefus Geraint Morgan, Geronimo, a enillodd wobr y Ffilm Fer Orau yng Ngŵyl Arswyd Ryngwladol Abertoir yn  ddiweddar.

Meddai Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales, “Mae tîm BBC Cymru Wales yn falch iawn o gefnogi’r dalent orau sydd gennym am flwyddyn arall. Mae BBC Cymru Wales wedi cael y flwyddyn fwyaf cynhyrchiol erioed o safwynt drama, gyda rhagor eto ar y ffordd. Mae Beacons yn rhan o’n strategaeth fuddsoddi sy’n ymwneud â sgriptio, ac rydym yn parhau i feithrin talent ar ac oddi ar y sgrîn er mwyn ein galluogi i gynnig comisiynau, ac mae’n braf bod yn rhan o’r broses yma unwaith eto.”

Dylai rownd cyllid nesaf cynllun ffilmiau byr y Beacons fod ar gael yn ystod y gwanwyn.