A photo of a film shoot outside a wood cabin in a forest. One person holds a clapperboard up in front of another person with a camera

Cynllun cynaladwyedd Sefydliad Ffilmiau Prydain a mudiad albert

Gwahoddir pawb a fydd yn llunio ffilmiau a rhaglenni teledu yng Nghymru dros y 12 mis nesaf i gymryd rhan.

Mae Sefydliad Ffilmiau Prydain (BFI) a mudiad ALBERT wedi cyhoeddi heddiw fod Cymru wedi’i dewis i roi argymhellion ar waith ynghylch cynaladwyedd amgylcheddol trwy gynllun o’r enw Screen New Deal: Transformation Plan. 

Daw’r fenter yn sgîl adroddiad o’r un enw yn 2020 am effaith carbon ar sector y cynhyrchu ffilmiau a gynigiodd y ffordd ymlaen ar gyfer ffilmiau, dramâu teledu a rhaglenni stiwdio heb garbon a heb wastraff yn y dyfodol ynghyd â thargedau cyflawni hynny wedi’u seilio ar wyddoniaeth berthnasol. Cronfa Ymchwil ac Ystadegau'r Lotri Wladol dalodd am yr adroddiad ar ran Sefydliad Ffilmiau Prydain a chwmni peirianneg a dylunio byd-eang Arup a’i hysgrifennodd ar y cyd ag ALBERT, prif fudiad diwydiant ffilmiau’r deyrnas dros gynaladwyedd amgylcheddol.  Mae’r Lotri Wladol wedi rhoi hyd at £80,000 bellach i dalu am gam nesaf y gwaith, sef cynllun trawsffurfio. 

Trwy'r cynllun hwnnw, mae Sefydliad Ffilmiau Prydain, ALBERT ac Arup yn cydweithio â Creative Wales, Ffilm Cymru Wales a Clwstwr i hel a didoli data ym mhob bro. Bydd hynny’n eu galluogi i nodi gwasanaethau lleol y diwydiant, tynnu sylw at brinder cyfleusterau a hybu’r syniad o baratoi cynllun trawsffurfio ym mhob ardal er cwtogi ar garbon ym maes cynhyrchu rhaglenni teledu a ffilmiau.

Yn ystod y 12 mis cyntaf, byddan nhw’n canolbwyntio ar gasglu data ac yn paratoi cynllun trawsffurfio dros chwe mis wedyn. Byddan nhw’n lledaenu’r data a’r gwersi sy’n deillio o weithgareddau mapio a llunio ymhlith clystyrau eraill y diwydiant ledled y deyrnas i’w helpu i arbed carbon a gwastraff er cymorth ehangach i sector y cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni. Mae bwriad i gyflwyno cynllun trawsffurfio erbyn canol 2023. 

Meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros y Celfyddydau a Chwaraeon:  “Mae’n dda gyda fi fod prosiect ymchwil arloesol Sefydliad Ffilmiau Prydain a mudiad ALBERT dros ddiwydiant ffilmiau’r deyrnas wedi dod i Gymru yn sgîl llwyddiant cais Creative Wales a’i bartneriaid, Ffilm Cymru a Clwstwr. Yn rhan o’n rhaglen lywodraethu, rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo camau cwtogi ar garbon yn yr economi, ac edrychwn ni ymlaen at gydweithio â phobl berthnasol megis cwmnïau cynhyrchu, darlledwyr y sector cyhoeddus, stiwdios a chadwyn cyflenwi’r diwydiant ledled y wlad hon. Bydd y data o gymorth mawr inni ar drywydd dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach heb garbon a heb wastraff yn y diwydiant, yng Nghymru a’r deyrnas ehangach.”

Meddai’r Gweinidog dros Ddiwydiannau Creadigol, Julia Lopez: “Mae’n wych gweld gwaith sy’n helpu diwydiant ffilmiau a theledu’r wlad, sydd o safon uchel iawn, i fod yn fwy ystyriol i’r amgylchedd.”

“Edrychaf ymlaen at weld sut y gall yr ymchwil arloesol sy’n mynd rhagddi yng Nghymru helpu cynhyrchwyr ffilmiau trwy’r deyrnas gyfan.”

Meddai Harriet Finney, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Materion Corfforaethol a Diwydiannol Sefydliad Ffilmiau Prydain: “Mae’r cynllun wedi cynnig ffordd o helpu sector cynhyrchu ffilmiau’r deyrnas i ollwng llai o garbon ac arbed gwastraff. Mae cynhyrchwyr ac arianwyr yn chwilio am atebion i’w helpu i gadw at dargedau cwtogi ond mae’n anodd gwneud hynny o achos natur gyflym a theithiol prosiectau ffilmio unigol. Trwy weithio fesul clwstwr, gallwn ni bennu deilliannau ymarferol a chynaladwy a all weddu i bob cynhyrchiad a helpu i leddfu ôl troed carbon y sector.” 

Meddai Carys Taylor, Cyfarwyddwr ALBERT: “Mae’n gyffrous iawn inni gyflwyno cam nesaf y prosiect yng Nghymru. Mae cyfle unigryw i ddiwydiant teledu a ffilmiau’r wlad hon sbarduno newid, y tu ôl i’r camera ac o’i flaen fel ei gilydd, ac mae’n dda gyda fi weld y bydd y bartneriaeth yma’n arwain ymchwil i ystyried atebion ymarferol ar gyfer llai o garbon wrth gynhyrchu rhaglenni teledu a ffilmiau ym mhob ardal.”

Mae Creative Wales, Ffilm Cymru Wales a Clwstwr yn hyrwyddo cynaladwyedd amgylcheddol ar draws eu gweithgareddau ac maen nhw wedi ennyn llawer o gefnogaeth ledled y wlad ymhlith stiwdios, cynhyrchwyr a chyflenwyr. O ganlyniad i’w hymroddiad i gynaladwyedd, ynghyd â’r ffaith bod sawl stiwdio yma a sawl rhaglen ar y gweill ar gyfer 2022, dylai fod modd hel digon o ddata a pharatoi cynllun trawsffurfio manwl. 

Gan nad yw cyflymder cynhyrchu ffilmiau’n rhoi digon o amser i bob criw ddyfeisio atebion unigol, bydd y cynlluniau trawsffurfio’n creu isadeiledd cynaladwy y gall cynhyrchwyr ffilmiau ei ddefnyddio wrth symud trwy’r wlad.
Bydd hel data a pharatoi cynllun trawsffurfio yn ymwneud ag amryw weithgareddau gan gynnwys gofyn i bob criw ffilmio fesur faint o garbon sydd wedi’i ollwng, annog cyflenwyr i ledaenu data am ynni a theithio ac ysgogi pobl i greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd megis rhwydweithiau ailddefnyddio. Gallai fod modd rhannu rhai adnoddau megis rhwydweithiau ailddefnyddio er cymorth i theatrau, orielau a chwmnïau lletygarwch a digwyddiadau, hefyd. 

Dim ond yn Llundain a Manceinion mae mwy o gyfryngau clywedol nag sydd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae mwy o stiwdios gan y rhanbarth nag unrhyw le arall yn y deyrnas ar wahân i Lundain - er enghraifft: Bad Wolf's Wolf Studios, Dragon Studios, Great Point Seren Stiwdios a Stiwdios Drama'r BBC ym Mhorth y Rhath.  Mae nifer o wasanaethau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu blaenllaw megis Real SFX, Location Solutions, 4Wood, ADF, Dragon DI, Bang, Gorilla, Cinematic, Bait VFX, Streamland Media a Painting Practice.  Ymhlith rhaglenni teledu a ffilmiau yng Nghymru mae Dream Horse, Willow, Sex Education, War of the Worlds, His Dark Materials a Doctor Who.

Meddai Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Creative Wales: “Rydyn ni’n croesawu’r newyddion bod cais Creative Wales wedi llwyddo, a diolch i’r BFI ac ALBERT am ddatblygu cyfle mor bwysig i’r diwydiant yng Nghymru, y deyrnas ehangach a’r tu hwnt. Mae datblygu arferion cynhyrchu cynaladwy ledled Cymru yn brif flaenoriaeth inni, ac mae’n dda gyda ni a’n partneriaid ddechrau ehangu ac atgyfnerthu’r gwaith gwych sy’n mynd rhagddo yn y wlad hon a gosod llwybr at wireddu nodau uchelgeisiol y prosiect.”

Meddai’r Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Clwstwr: “Mae’n gyffrous clywed y byddwn ni’n glwstwr arbrofol ynghylch cynnal ymchwil i gynllun trawsffurfio sector cynhyrchu cyfryngau Cymru a’i baratoi wedyn.” 

“Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae Clwstwr wedi helpu i gynnal nifer o brosiectau lleddfu carbon ac effeithiau amgylcheddol yn sector y ffilmiau, a does dim prinder syniadau na pharodrwydd ymhlith arloeswyr creadigol Cymru. Bydd y gwaith pwysig hwn yn hybu uchelgais Clwstwr i weld Cymru ar flaen y gad o ran ymdrechion i gwtogi ar garbon yn y cyfryngau a bod yn wir arweinydd o ran cynhyrchu gwyrdd.”

Meddai Pauline Burt, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales: “Mae’r bartneriaeth hon gyffelyb ei buddiannau, ynghyd ag ymchwil a dealltwriaeth fanwl, yn cynnig cyfle dilys i hybu arferion amgylcheddol yn fawr yn ein sector. Mae Ffilm Cymru am ofalu bod y dull yn gweddu i gwmnïau o bob lliw a llun ac i broffesiynolion mewn unrhyw gyfnod o’u gyrfaoedd yn ogystal â manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd eraill sydd wedi’u cynnig i Gymru megis arian llunio a chynyddu cynhyrchion a gwasanaethau arferion gwyrdd - gweithgareddau mae Ffilm Cymru yn eu rheoli ar ran ei gydweithredwyr yn rhan o raglen Cymru Werdd.”