a person performing a dance with judges holding up '10' scorecards behind them

Cyhoeddi enwau’r 15 ffilm fer sy'n cystadlu am Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris

Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn falch iawn o gyhoeddi'r rhestr fer o 15 ffilm sy'n cystadlu am y Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris a gefnogir gan Film4 a Pinewood Studios.

Dyma'r rhestr fer gyntaf o Ŵyl 2023 sy'n cael ei chyhoeddi, heddiw (29 Gorffennaf), mewn Digwyddiad Parti Haf arbennig a gynhaliwyd ar gyfer Aelodau Gwobr Iris, yng Nghaerdydd.

Ymhlith y ffilmiau ar y rhestr fer mae stori gwyddonydd a'i ffrind gorau AI (deallusrwydd artiffisial); aduniad hir-ddisgwyliedig gyda chariad cyntaf yn Lerpwl;  cwnsela i gyplau gyda phyped hosan; grym mixtape; a stori dyfod i oed wedi ei gosod yn ystod treialon gwrach 1605.

Bydd pob un o'r ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu ffrydio ar Channel 4 am flwyddyn ar ôl yr ŵyl. Mae'r holl ffilmiau a enwebwyd yn gymwys i'w hystyried ar gyfer BAFTA a gall y gwneuthurwyr ffilm eu cofnodi'n awtomatig.

Bydd yr enillydd yn derbyn pecyn o wasanaethau a noddir gan Pinewood Studios Group.

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris: "Rydym wrth ein bodd o allu cyflwyno i'n cynulleidfaoedd 15 ffilm fer a wnaed ym Mhrydain ac a gefnogir gan un o'r darlledwyr a hyrwyddwr mwyaf cyfeillgar i LHDTQ + a phencampwr Gwobr Iris.

"Mae Film4 yn gefnogwr gwych o dalent cartref a newydd, ac rwy'n gyffrous i atgoffa pobl y bydd pob un o'r 15 ffilm fer mewn cystadleuaeth ar gael i'w ffrydio ar Channel 4 am 12 mis. Mae'r bartneriaeth hon wedi dod yn rhan werthfawr iawn o helpu Iris i gyrraedd cynulleidfa newydd ar gyfer straeon LHDTC+.

"Dyma'r tro cyntaf i ni gyhoeddi'r rhestr fer Gorau Ym Mhrydain i'n haelodau Gwobr Iris gwerthfawr ac y gellir ymddiried ynddynt, hebddynt ni fyddai sawl agwedd o'r ŵyl yn bosibl.  Mae gennym ymhlith ein haelodau, gwirfoddolwyr sy'n helpu gyda rhedeg agweddau dyddiol dangosiadau ffilm yn ddidrafferth, i grŵp ymroddedig o bobl sy'n agor eu cartrefi i wneuthurwyr ffilmiau ac aelodau rheithgor sy'n ymweld. Diolch i chi gyd."

Mae gwobr Gorau Ym Mhrydain eleni yn nodi parhad cytundeb nawdd tair blynedd gyda'r cynhyrchydd / darlledwr Prydeinig, Film4. Bydd y cytundeb yn golygu bod Film4 yn caffael hawliau darlledu a ffrydio i bob un o'r 15 ffilm fer LHDTQ+ Prydeinig ar y rhestr fer ar gyfer Ffilm Fer Gorau Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris a gefnogir gan Film4 a Pinewood Studios.

Gwobr Iris 2023 – Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain

  • Lemon | Cyf. Tala Nahas
  • Goodbye Python | Cyf. Frankie Fox
  • Betty and Jean | Cyf. Elinor Randle
  • Malcolm | Cyf. Caleb J Roberts
  • TICKER | Cyf. Thom Petty
  • Longing | Cyf. Courteney Tan
  • Ted & Noel – Cyf. Julia Alcamo
  • The Talent – Cyf. Thomas May Bailey
  • Bleach – Cyf.  Daniel Daniel
  • Realness with a Twist – Cyf. Cass Kaur Virdee
  • Just Passing | Cyf. Sophie Austin
  • Stone | Cyf. Jake Graf and Hannah Graf
  • F**KED | Cyf.  Sara Harrak
  • Requiem | Cyf. Em J Gilbertson
  • Fortune Favours the Fantabulous | Cyf.  Emmanuel Li