still from censor featuring niamh algar sitting in a small screening room watching a film

Cyfleoedd Swydd: Asesydd Llawrydd

Mae Ffilm Cymru yn datblygu cronfa o weithwyr llawrydd i gynorthwyo ein tîm i asesu ceisiadau gan wneuthurwyr ffilm sy’n gofyn am gyllid - ar gyfer creu ffilmiau byr, i ddatblygu gyrfa, i raglenni nodwedd.

Teitl: Asesydd Llawrydd
Cyfnod: Awst 2023 i Mawrth 2024, gyda phosibilrwydd o ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod yma. 
Ffî: Amrywiol, yn unol â chyfraddau safonol y diwydiant, ar sail ceisiadau unigol. Mae enghreifftiau o'n cyfraddau presennol rhwng:

  • £15-30 ar gyfer ffilmiau byr
  • £80 ar gyfer datblygu ffilm nodwedd
  • hyd at £250 ar gyfer cynhyrchu ffilm nodwedd – gan gynnwys unrhyw TAW perthnasol.

Dyddiad cau: Canol dydd, dydd Llun 31ain Gorffennaf 2023.
Cyfweliadau: Ni fyddwn yn cynnal cyfweliadau ffurfiol ar gyfer y rôl hon. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn gofyn am gael cyfarfod yn anffurfiol ag ymgeiswyr, neu efallai bydd angen gwybodaeth bellach arnom neu asesiad prawf.

Un o'n hamcanion yw ehangu'r ystod o brofiadau bywyd sy'n llywio ein penderfyniadau. Rydym yn annog datganiadau o ddiddordeb yn arbennig gan unigolion sy’n ystyried eu hunain yn fenywod (boed hynny ar enedigaeth ai pheidio), yn LGBTQI+, yn f/Fyddar, yn anabl neu’n niwroamrywiol, yn bobl o’r Mwyafrif Byd-eang, yn ogystal â siaradwyr Cymraeg a’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig. 

Rydym yn cydnabod bod croestoriad o nodweddion gwahanol yn bodoli a bod pobl bob amser yn fwy na’r disgrifyddion hyn, ac yn byw bywydau cymhleth ac amrywiol sy’n dylanwadu arnynt. Ceir rhagor o wybodaeth am sut y byddwn yn ymdrin â hyn yn ein Cynllun Gweithredu Ffilm i Bawb.

Bydd gweithwyr llawrydd a wahoddir i ymuno â’r gronfa hon yn cael cynnig cyfleoedd asesu â thâl yn unol â’u harbenigedd ar gyfer ein Cronfa Ffilmiau Byrion - Beacons, ein Cronfeydd Datblygu a Chynhyrchu Ffilmiau Nodwedd, a’n Cronfa Datblygu Gyrfa. Bydd hyn yn digwydd rhwng Awst 2023 a Mawrth 2024, gyda photensial i'r gwaith ymestyn y tu hwnt i'r cyfnod hwn.

Cyfrifoldebau Allweddol  

Yn dibynnu ar y gronfa, efallai y gofynnir i aseswyr llawrydd adolygu unrhyw gyfuniad o’r deunyddiau canlynol:

  • Ffurflenni cais wedi'u cwblhau mewn fformat ysgrifenedig, nodyn llais neu fideo
  • Amlinelliadau, triniaethau, sgriptiau
  • Deunydd gwreiddiol pan fo’r prosiect yn addasiad (e.e. nofel neu ddrama)
  • Deciau pitsh, byrddau syniadau, brasluniau, byrddau stori, riliau, darn o ffilm brawf  (test footage)
  • Gwaith sgrîn blaenorol 
  • CVs / bywgraffiadau
  • Cyllidebau
  • Cynlluniau ariannu

Darperir meini prawf asesu penodol a chanllawiau pellach. Er enghraifft, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i aseswyr ymgyfarwyddo â pholisïau Ffilm Cymru.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu nodiadau byr neu sgorio pob cais. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi ymuno â thrafodaeth fanylach am y ceisiadau fel rhan o banel.

Bydd y paneli asesu bob amser yn cynnwys aelodau o dîm Ffilm Cymru. Lle mae gennym nifer fawr o geisiadau, efallai y bydd mwy nag un gweithiwr llawrydd allanol ar y panel hefyd.

Sgiliau a Phrofiad

  • Profiad blaenorol mewn ffilm neu mewn cyfrwng creadigol cysylltiedig
  • Y gallu i ymgysylltu'n feirniadol â phrosiectau ffilm ar wahanol gamau datblygu, yn greadigol ac o ran eu dichonoldeb (cyllideb, amserlen, tîm) yn ogystal â'r potensial ar gyfer gwyliau a/neu ddosbarthiad theatrig
  • Ymwybyddiaeth o lwybrau datblygu talent o fewn y diwydiant ffilm
  • Ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Dymunol

Arbenigedd mewn unrhyw un o'r canlynol: rhaglenni dogfen, gwaith wedi ei animeiddio, ffilmiau Cymraeg, cynhyrchydd arweiniol ar ffilmiau byrion neu ffilmiau nodwedd, gwerthu a dosbarthu neu ddatblygu talent ffilm.

Sut i Ddatgan Diddordeb

Oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat arall gyda chi, dylech anfon e-bost at Ihsana Feldwick ar ihsana@ffilmcymruwales.com gan ddefnyddio ‘Asesydd Llawrydd – Datganiad Diddordeb’ yn y llinell bwnc, a chan gynnwys y canlynol:

  1. CV neu ddolen i CV ar-lein
  2. Nodyn yn egluro pam fod gennych ddiddordeb yn y rôl a sut rydych yn bodloni’r meini prawf (naill ai nodyn ysgrifenedig heb ddefnyddio mwy na 300 gair, neu nodyn llais neu fideo sydd ddim hirach na 2 funud.)
  3. Pa rai o'r ceisiadau canlynol yr ydych ar gael i'w hasesu:
  • Ffilmiau byr (Awst 2023 yn unig)
  • Datblygu a/neu gynhyrchu ffilmiau nodwedd (gydol y flwyddyn)
  • Datblygu gyrfa (gydol y flwyddyn)

Cyflwynwch eich datganiad o ddiddordeb erbyn canol dydd, dydd Llun 31 Gorffennaf 2023.

Cymorth Mynediad

Rydym yn credu mewn sector sy’n gweithio i bawb ac yn teimlo’n angerddol dros ehangu mynediad i’r sector sgrîn.

Byddwn yn cynnig cyfarfod awtomatig i’r holl ymgeiswyr sy’n bodloni Isafswm ein Meini Prawf ar gyfer y rôl ac sy’n nodi eu bod yn Bobl o’r Mwyafrif Byd-eang, yn Ddu, Asiaidd neu’n perthyn i Leiafrifoedd Ethnig, neu’n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl neu’n niwroamrywiol.

Ar gyfer ymgeiswyr sydd ag anghenion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol, neu sydd â nam ar eu golwg, mae cymorth ar gael i gwblhau eich cais. Cysylltwch â ni er mwyn rhoi gwybod i ni sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cynnal cyfarfod cyn i chi wneud cais, neu gallwn gynnig cymorth ysgrifennu ar gyfer ymgeiswyr dyslecsig. Cawn ein harwain gennych chi.

Cysylltwch ag Ihsana Feldwick ar ihsana@ffilmcymruwales.com i drafod eich anghenion cyn cyflwyno eich datganiad o ddiddordeb.