still from censor featuring niamh algar wearing a dark teal coat standing in a dark hallway with red walls and looking back over her shoulder towards camera

Cyfle Swydd: Swyddog Gweithredol Cynhyrchu

Dyma gyfle cyffrous gan Ffilm Cymru i chi weithio fel swyddog gweithredol cynhyrchu ar ystod eang o ffilmiau nodwedd byw, ffilmiau wedi eu hanimeiddio a ffilmiau dogfen, dan arweiniad talent o Gymru.

Mae llwyddiannau’r gorffennol yn cynnwys Censor gan Prano Bailey Bond, Gwledd gan Lee Haven Jones, Donna gan Jay Bedwani, ac I Am Not a Witch gan Rungano Nyoni.

Swydd: Swyddog Gweithredol Cynhyrchu
Llawn Amser
Cyflog:
£27-33k y flwyddyn (gydag isafswm y braced hwn wedi'i anelu at ymgeiswyr fydd angen hyfforddiant yn y gwaith er mwyn cyflawni'r swydd), yn ogystal â phensiwn a 28 diwrnod o wyliau, a Gwyliau Cyhoeddus.
Dyddiad cau: hanner dydd Llun 15ed Awst
Dyddiadau Cyfweld: 22ain a 23ain Awst

Cyfrifoldebau Allweddol  

  • Darllen ac asesu ceisiadau am gyllid yn unol â’n canllawiau ariannu a’n meysydd blaenoriaeth, gan gymryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau.
  • Darparu arweiniad golygyddol a strategol i gynhyrchwyr sy'n derbyn cyllid cynhyrchu gennym, gan eu cefnogi i ystyried sgiliau, amrywiaeth a chynhwysiant, ac effeithiau gwyrdd.
  • Gweithio’n agos ochr yn ochr â Swyddog Gweithredol Materion Busnes y cwmni i reoli cymeradwyaethau Ffilm Cymru ar brosiectau sy’n derbyn cefnogaeth, gan adolygu cyllidebau, amserlenni, sgriptiau, a thoriadau ffilm, ymhlith elfennau eraill.
  • Cwrdd â gwneuthurwyr ffilm i helpu i roi cyngor iddynt ar ein cyllid, gan yn enwedig annog amrywiaeth eang o ymgeiswyr yn unol â'n Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. 

Sgiliau a Phrofiad

  • Y gallu i adnabod a meithrin gwaith creadigol a thalent amrywiol.
  • Profiad blaenorol o ddatblygu prosiectau neu ddatblygu talent o fewn Ffilm, Theatr, Teledu, y Cyfryngau Newydd, neu ddiwydiannau perthnasol eraill.
  • Profiad o adnabod cyfleoedd a heriau mewn gwaith ysgrifenedig a gwaith cynhyrchu.

Sut i Ymgeisio

Oni bai ein bod eisoes wedi cytuno bod modd i chi gyflwyno eich cais mewn fformat arall, dylech e-bostio eich CV a llythyr eglurhaol at Ihsana Feldwick ar ihsana@ffilmcymruwales.com gan nodi eich argaeledd, eich profiad a'ch sgiliau yn erbyn y rhai a amlinellir isod.

Gyrrwch eich cais atom erbyn Hanner Dydd, dydd Llun 15fed o Awst 2022.

Byddwn yn cynnig cyfweliad awtomatig i’r holl ymgeiswyr sy’n bodloni lleiafswm y Meini Prawf ar gyfer y swydd hon ac sy’n uniaethu fel Pobl o’r Mwyafrif Byd-eang, fel Pobl Dduon, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig, neu sy’n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl neu’n niwroamrywiol.

disability confident employer. living wage employer. anti racist