photo of a wooden office desk, on which sits a laptop, coffee cup, notepad pen and smarthphone.

Cyfle Swydd: Rheolwr Materion Cyfreithiol a Busnes

Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd â phrofiad a chymwysterau ym maes rheoli materion cyfreithiol a busnes, a fydd yn gallu gweithio ar draws y cwmni i gefnogi rheolwyr arbenigol yn ein hymgyrch i gefnogi’r sector ffilm.

Teitl: Rheolwr Materion Cyfreithiol a Busnes 
Cyfnod: Swydd lawn-amser, barhaol
Cyflog: £48,600 - £54,000 y flwyddyn, ynghyd â phensiwn

Rydyn ni’n gweithredu system gyflog 5 pwynt, a byddwn fel arfer yn penodi ar bwynt 1 y raddfa ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

Crynodeb o’r Swyddmary

Darparu cyngor arbenigol ar faterion cyfreithiol a busnes i’r Prif Swyddog Gweithredu a’r Uwch Dîm Rheoli wrth gyflawni ein rôl fel noddwr ffilmiau byrion a ffilmiau nodwedd, arddangosfeydd ffilmiau, sgiliau a hyfforddiant a gweithgareddau amgylcheddol, yn unol â’n blaenoriaethau strategol. 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 16:00 ar 2 Tachwedd 2023

Dyddiad Cychwyn: Hydref 2023/gaeaf 2024

Sut Mae Gwneud Cais 

Oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat cais arall gyda chi, dylech anfon CV a llythyr eglurhaol dros e-bost at Hayley Lau yn Hayley@ffilmcymruwales.com gan amlinellu pryd rydych chi ar gael, yn ogystal â’ch profiad a’ch sgiliau yn erbyn y rhai a amlinellir yn y fanyleb isod. 

Cyflwynwch eich cais erbyn 16:00 ar 2 Tachwedd 2023. 

Fel rhan o’ch cais, nodwch unrhyw ddyddiadau na fyddwch chi ar gael ar gyfer cyfweliad.

Nid yw Ffilm Cymru Wales wedi’i drwyddedu i noddi dogfennau VISA ac o’r herwydd, rhaid i chi fod â hawl barod i weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y swydd hon. 

Cael gafael ar gefnogaeth

Rydyn ni’n credu mewn sector sy’n gweithio i bawb ac rydyn ni’n frwd dros ehangu mynediad at y sector sgrin.

Byddwn yn cynnig cyfweliad yn awtomatig i bob ymgeisydd sy’n bodloni ein Meini Prawf Sylfaenol ar gyfer y rôl ac sy’n nodi eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl, yn Bobl o’r Mwyafrif Byd-eang, yn Ddu, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig, neu’ B/byddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl, neu’n niwroamrywiol. 

Mae cymorth ar gael i ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion B/byddar, trwm eu clyw, anabl, niwroamrywiol a phobl sydd wedi colli eu golwg. Cysylltwch â ni i ddweud sut gallwn ni helpu. Er enghraifft, gallwn ni dalu am ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfarfod gyda ni cyn gwneud cais, darparu cymorth ysgrifenedig i ymgeiswyr dyslecsig, neu gytuno ar fformatau eraill ar gyfer gwneud cais, fel ceisiadau ar fideo neu ddec sleidiau. Chi fydd yn ein harwain ni.

Cysylltwch â Hayley Lau ar hayley@ffilmcymruwales.com i drafod eich gofynion cyn gwneud cais.