seven people standing in a line posing for a photo outside a film studio

Cyfle Swydd: Rheolwr Lleoliadau'r Diwydiant (Cyfnod Mamolaeth)

Mae Ffilm Cymru yn chwilio am Reolwr Lleoliadau’r Diwydiant profiadol a chyd-gysylltiedig ar gyfer Cymru, sydd â phrofiad o gefnogi hyfforddeion a chynyrchiadau ym maes Ffilm a Theledu, mewn tîm bach, ac o fewn amserlenni tynn.

Swydd: Rheolwr Lleoliadau'r Diwydiant - Rhan Amser (Cyfnod Mamolaeth)
Adran: Sgiliau a Hyfforddiant  
Yn Atebol i: Pennaeth Sgiliau a Hyfforddiant   
Lleoliad: Cymru. Canolfan y Prosiect: Swyddfa Ffilm Cymru yng Nghaerdydd fel prif ganolfan. Disgwylir gwaith cyfunol o bell ac wyneb yn wyneb, fel y cytunir gyda’r rheolwr llinell
Cyfnod: 9 mis: Hydref 2023 – Mehefin 2024
Cyflog: £40,817 y flwyddyn cyfwerth ag amser llawn, a fydd yn addasu’n pro rata ar gyfer y cyfnod yn y swydd a rhan-amser (0.6 cyfwerth ag amser llawn pro rata) y flwyddyn, ynghyd â phensiwn a 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn, wedi’u haddasu’n pro rata, yn ogystal â Gwyliau Cyhoeddus.

Sut i wneud cais

Oni bai ein bod wedi cytuno i chi ddefnyddio fformat gwahanol i gyflwyno cais, dylech anfon CV a llythyr eglurhaol drwy e-bost i Georgina Morgan – georgina@ffilmcymruwales.com – yn nodi pryd ydych ar gael a'ch profiad a'ch sgiliau yn erbyn y rhai sydd wedi’u hamlinellu yn y fanyleb isod. 

Cyflwynwch eich cais erbyn 23:59, 10 Medi 2023. 

Nid yw Ffilm Cymru yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs ac felly mae’n rhaid bod eisoes gennych Hawl i Weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y rôl hon. 

Os ydych yn ymgeisydd mewnol sy’n gweithio yn Ffilm Cymru, trafodwch gyda’ch rheolwr llinell cyn gwneud cais. 
 

Cymorth Mynediad

Mae cymorth ar gael i ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion b/Byddar, trwm eu clyw, anabl, niwroamrywiol a phobl sydd wedi colli eu golwg. 
 
Cysylltwch â ni i ddweud sut gallwn ni helpu. Er enghraifft, gallwn ni dalu am ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfarfod gyda ni cyn gwneud cais, darparu cymorth ysgrifenedig i ymgeiswyr dyslecsig, neu gytuno ar fformatau eraill ar gyfer gwneud cais. Chi fydd yn ein harwain ni. 
  
Cysylltwch â faye@ffilmcymruwales.com i drafod eich gofynion cyn gwneud cais.