A photo of two people working on a film set outside a wood cabin in a wooded area.

Cyfle Swydd: Rheolwr Cynaliadwyedd

Rydym yn chwilio am Rheolwr Cynaliadwyedd at arwain ar raglen 'Cymru Werdd' Ffilm Cymru - cyfle unigryw i gefnogi gweithwyr proffesiynol y sector sgrin i gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.

Teitl: Rheolwr Cynaliadwyedd
Cyfnod: Amser llawn (cefnogir gweithio hyblyg)
Cyflog: £27-£33k y flwyddyn 
Dyddiad cau: 13 Chwefror am hanner dydd
Cyfweliadau: 20 Chwefror 

Cyfrifoldebau Allweddol  

  • O dan ein prosiect Media Cymru, gweithio mewn partneriaeth ag UKRI a Phrifysgol Caerdydd i ddarparu £600,000 o gyllid arloesi gwyrdd dros dair blynedd
  • Goruchwylio cynnydd gwaith ymchwil 'Bargen Sgrin Newydd: Cynllun Trawsnewidiol i Gymru' dan arweiniad Albert 
  • Datblygu perthynas â sefydliadau a chwmnïau eraill sy’n gweithio ym maes cynaliadwyedd a bod yn llysgennad i’r cwmni i’r perwyl hwn
  • Cefnogi tîm ehangach Ffilm Cymru gydag adnoddau a fydd yn helpu’r gwneuthurwyr ffilm, yr arddangoswyr a’r addysgwyr y maent yn gweithio gyda nhw i fod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy
  • Rheoli gwaith monitro amgylcheddol mewnol Ffilm Cymru a darparu argymhellion i gynorthwyo’r sefydliad i gyflawni ei dargedau Sero Net ei hun.
     

Sgiliau a Phrofiad

  • Dealltwriaeth gref o rwymedigaethau di-garbon a pholisi amgylcheddol ehangach.
  • Profiad proffesiynol blaenorol o reoli prosiectau, deall amserlennu, cyllidebu a gwerthuso
  • Profiad o brosesau ymchwil a datblygu
  • Sgiliau ymchwil a threfnu da 
  • Sgiliau cyfathrebu da 

Sut i wneud cais  

Oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat arall o gais gyda chi, dylech anfon CV a llythyr eglurhaol mewn e-bost i Ihsana Feldwick ar ihsana@ffilmcymruwales.com yn amlinellu eich argaeledd ac yn dangos yn glir sut mae eich profiad a'ch sgiliau yn bodloni'r gofynion sylfaenol (gweler tudalen 10) a manyleb y swydd sydd wedi’i nodi yn y pecyn hwn. 

Cyflwynwch eich cais erbyn hanner dydd, 13 Chwefror 2023. 

Caiff y cyfweliadau eu cynnal ar 20 Chwefror 2023, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. 

Nid yw Ffilm Cymru yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs ac felly mae’n rhaid bod eisoes gennych Hawl i Weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y rôl hon. 

Cymorth Mynediad a Chynhwysiant

Credwn mewn sector sy’n gweithio i bawb ac rydym yn angerddol am ehangu mynediad i'r sector sgrin.

Byddwn yn cynnig cyfweliad awtomatig i bob ymgeisydd sy'n bodloni ein Meini Prawf Gofynnol ar gyfer y swydd ac sy'n arddel hunaniaeth Pobl y Mwyafrif Byd-eang, Pobl Dduon, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig neu bobl F/fyddar, trwm eu clyw, Anabl neu niwroamrywiol. 

Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl, yn niwroamrywiol, a phobl sydd wedi colli eu golwg, mae cymorth ar gael i gyflwyno cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut y gallwn helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn gwneud cais, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, neu gytuno ar fformatau gwahanol ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddec sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi. 
  
Cysylltwch ag Ihsana Feldwick ar ihsana@ffilmcymruwales.com i drafod eich gofynion cyn gwneud cais. 

disability confident employer logo / living wage employer logo / anti-racism logo