collage of four images: still from Chuck Chuck Baby featuring two women hugging in a factory; a photo of two people putting together some equipment on a film set; a photo of an audience enjoying a pop-up cinema screening; a photo of a person on a film set holding a clapperboard in front of the camera with trees in the background.

Cyfle Swydd: Prif Weithredwr

Rydym yn chwilio am Prif Weithredwr newydd gyda egni a gweledigaeth i arwain Ffilm Cymru Wales i gam nesaf ei esblygiad.

Teitl: Prif Weithredwr
Cyfnod: Swydd amser llawn, barhaol. 
Cyflog: £75,600 - £84,000 y flwyddyn, ynghyd â phensiwn. Rydym yn defnyddio system gyflog 5 pwynt a byddwn fel arfer yn penodi ar bwynt 1 o'r radd ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 16:00, Dydd Mercher 16 Awst 2023
Dyddiad Cychwyn: Hydref 2023

Sut i Wneud Cais 

Oni bai ein bod wedi cytuno i chi ddefnyddio fformat gwahanol i gyflwyno cais, dylech anfon CV a llythyr eglurhaol i Hayley Lau - Hayley@ffilmcymruwales.com - yn nodi eich profiad a'ch sgiliau yn erbyn yr hyn sydd wedi’i amlinellu ym manyleb y person isod. 

Cyflwynwch eich cais erbyn 16:00, Dydd Mercher 16 Awst 2023

Nid yw Ffilm Cymru Wales yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs ac felly mae’n rhaid bod eisoes gennych Hawl i Weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y rôl hon. 

Cymorth Mynediad

Byddwn yn cynnig sicrwydd o gyfweliad i bob ymgeisydd sy'n bodloni ein meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl ac sy'n arddel hunaniaeth Pobl y Mwyafrif Byd-eang, Pobl Dduon, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig, neu bobl F/byddar, trwm eu clyw, Anabl neu niwroamrywiol. 

Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl, yn niwroamrywiol, a phobl sydd wedi colli eu golwg, mae cymorth ar gael. Cysylltwch â hayley@ffilmcymruwales.com