four people standing in front of a big screen giving a presentation

Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Gweithredol

Rydym yn chwilio am Cynorthwyydd Gweithredol at Cefnogi'r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog Gweithredu yn eu gwaith o ddydd i ddydd, a i sicrhau gweithrediad llyfn ac effeithlon Ffilm Cymru Wales.

Cyfnod: Amser llawn, parhaol 
Cyflog: £28,000 y flwyddyn, ynghyd â phensiwn
Dyddiad cau: Dydd Llun 24ain Hydref, 12 hanner dydd
Cyfweliadau: 28ain a’r 31ain Hydref 2022
Dyddiad cychwyn: cyn gynted ag y bo modd

Prif Ddiben y Rôl

Mae hon yn swydd allweddol i sicrhau gweithrediad llyfn ac effeithlon Ffilm Cymru Wales. Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu rhagorol, diplomyddiaeth a'r gallu i gydbwyso blaenoriaethau mewn rôl heriol. Mae'n rôl ysgogol mewn cwmni sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo'r diwydiannau creadigol a'r rhai sy'n gweithio ynddo.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau  

  • Cefnogi'r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog Gweithredu yn eu gwaith o ddydd i ddydd, gan gynnwys rheoli dyddiaduron a theithio, ynghyd â chysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol mewn modd pwyllog a phroffesiynol;
  • Cynnal ymchwil a datblygu papurau briffio ar gyfer y Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog Gweithredu i'w cynorthwyo yn eu busnes;
  • Cysylltu â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a'r Bwrdd i drefnu teithio a chyfarfodydd a sicrhau bod ganddynt bapurau a deunyddiau perthnasol yn brydlon;
  • Prosesu anfonebau ac archebion prynu sy'n ymwneud â'r Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Gweithredu neu aelodau'r bwrdd;
  • Cynnal cofnodion arian traul;
  • Mireinio a chynnal systemau ffeilio sy'n cydymffurfio â'n polisïau diogelu data;
  • Rheoli ein swyddfa (yng Nghaerdydd, neu fel arall) — gan gynnwys sicrhau cyflenwadau digonol, cynnal a chadw peiriannau, cysylltu â'n gwasanaeth TG, a diogelwch, mewn cyswllt â'n landlordiaid;
  • Cofnodi cyfarfodydd yn gywir (y Bwrdd ac fel arall, yn ôl yr angen);
  • Cydlynu’r gwaith o recriwtio ar gyfer swyddi sy'n adrodd i'r Prif Weithredwr neu'r Prif Swyddog Gweithredu gan gynnwys derbyn a chydgrynhoi ceisiadau, ymateb i anghenion mynediad ac amserlennu cyfweliadau;
  • Cynnal y Llyfr Damweiniau a chofnodion Iechyd a Diogelwch
  • Ymateb i ymholiadau cyffredinol ac ailgyfeirio at aelodau priodol o'r tîm; 
  • Tasgau eraill lle bo hynny'n rhesymol ofynnol.

Manyleb y Person  

  • Gan weithio ar lefel uwch byddwch yn ddymunol, cynhwysol a phwyllog yn eich ymagwedd.
  • Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf 3 blynedd o brofiad cadarn mewn rôl sefydliadol heriol, gan gynorthwyo ar lefel uwch weithredwr, neu lefel gyfatebol.
  • Byddwch yn unigolyn hunangymhellol sydd â sgiliau gweinyddol, cyfathrebu a threfnu cryf.
  • Gan weithio'n annibynnol, byddwch yn fedrus wrth flaenoriaethu ac ailflaenoriaethu yn ôl yr angen, ac yn gweithio gan roi sylw i fanylion.
  • Mae profiad yn y diwydiannau creadigol yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.
  • Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Byddwn yn ystyried dysgwyr y Gymraeg.

Byddwn yn cynnig cyfweliad awtomatig i bob ymgeisydd sy’n bodloni Isafswm ein Gofynion ar gyfer y rôl ac sy’n nodi eu bod yn Bobl o’r Mwyafrif Byd-eang, yn Ddu, Asiaidd neu o Leiafrifoedd Ethnig neu’n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl neu’n niwroamrywiol.

Ar gyfer ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol, a phobl sydd â nam ar eu golwg, mae cymorth ar gael. Cysylltwch â sion@ffilmcymruwales.com

Sut i Ymgeisio  

Oni bai ein bod eisoes wedi cytuno bod modd i chi gyflwyno eich cais mewn fformat arall, dylech e-bostio eich CV a llythyr eglurhaol at Siôn Eirug ar sion@ffilmcymruwales.com gan nodi eich argaeledd, eich profiad a'ch sgiliau yn erbyn y rhai a amlinellir isod.

Gyrrwch eich cais atom erbyn Hanner Dydd, dydd Llun 24 o Hydref 2022.

Nid yw Ffilm Cymru yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs, felly mae’n rhaid bod gennych eisoes Hawl i Weithio yn y DU er mwyn gwneud cais am y swydd hon.

Os ydych yn ymgeisydd mewnol sy’n gweithio yn Ffilm Cymru, trafodwch â’ch rheolwr llinell cyn gwneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 28 a 31 Hydref 2022, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.

disability confident employer logo / living wage employer logo / anti-racism logo