people sitting in rows at a conference event

Cyfle Swydd: Cynorthwy-ydd Llawrydd Digwyddiad (Troed yn y Drws)

Rydym yn chwilio am Cynorthwy-ydd Llawrydd Digwyddiad am Troed yn y Drws.

Teitl: Cynorthwy-ydd Digwyddiad Troed yn y Drws.
Telerau: Llawrydd (Tua 80 awr rhwng 31ain Hydref a Rhagfyr 2ail 2022.
Cyflog: £12.50 yr awr gyda chostau teithio a chostau cyffredinol wedi eu cyflenwi.
Dyddiad cau: Dydd Iau 20fed Hydref am hanner dydd.
Cyfweliadau: Dydd Gwener 26ain Hydref 2022

Cyfrifoldebau Allweddol 

  • Cefnogi'r tîm rheoli digwyddiadau gyda'r system archebu digwyddiadau, y rhestrau gwesteion a’r gwasanaethau ar gyfer gwesteion cyn pob digwyddiad; ateb ymholiadau am y digwyddiad yn enwedig yn yr wythnosau cyn y digwyddiad.
  • Trefnu cludiant i gynrychiolwyr cyn y digwyddiad.
  • Paratoi pecynnau ar gyfer cynrychiolwyr.
  • Ar ddiwrnod y digwyddiad byddwch yn gyfrifol am ddilysu tocynnau parcio’r cynrychiolwyr.
  • Ar ddiwrnod y digwyddiad byddwch yn cefnogi’r tîm rheoli wrth iddynt stiwardio’r digwyddiad, a gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer staff lleoliad y digwyddiad a’r technegwyr AV allanol.
  • Ymwneud ag nrhyw dasgau cysylltiedig rhesymol eraill a all fod yn ofynnol, megis cymorth i baratoi asesiadau risg, ac ati.

Sgiliau a Phrofiad

  • Sgiliau cyfathrebu da gan gynnwys defnyddio'r ffôn ac ymateb i e-byst.
  • Sgiliau trefnu da a’r gallu i dalu sylw arbennig i fanylion.
  • Profiad o gadw cofnodion gan ddenfyddio MS Word & Excel.
ffilm cymru wales and foot in the door logo

Byddwn yn cynnig cyfweliad awtomatig i bob ymgeisydd sy’n bodloni Isafswm ein Gofynion ar gyfer y rôl ac sy’n nodi eu bod yn Bobl o’r Mwyafrif Byd-eang, yn Ddu, Asiaidd neu o Leiafrifoedd Ethnig neu’n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl neu’n niwroamrywiol.

Ar gyfer ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn anabl, yn niwroamrywiol, a phobl sydd â nam ar eu golwg, mae cymorth ar gael. Cysylltwch â karina@ffilmcymruwales.com

Sut i Ymgeisio 

Oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat cais gwahanol gyda chi, dylech e-bostio CV a llythyr eglurhaol at Gydlynydd y Prosiect, Karina Kiki, ar karina@ffilmcymruwales.com gan amlinellu eich argaeledd, a dangos yn glir sut mae eich profiad a'ch sgiliau yn bodloni'r gofynion sylfaenol a'r manylion swydd sydd i’w gweld yn y pecyn hwn.

Byddwch mor garedig â chyflwyno’ch cais erbyn Canol dydd, Dydd Iau 20fed Hydref 2022. 

Nid yw Ffilm Cymru yn noddwr trwyddedig ar gyfer VISAs ac felly mae’n rhaid bod gennych eisoes Hawl i Weithio yn y DU er mwyn ymgeisio am y rôl hon.

Cynhelir y cyfweliadau ar ddydd Gwener 26ain Hydref 2022, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. 

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Rhaglen gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2021/22 yw Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, a’i nod yw cefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd o baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lle, ac mewn busnesau lleol, ac hefyd yn paratoi pobl ar gyfer y byd gwaith. Am ragor o wybodaeth ewch i.

uk government logo
newport city council logo