three young people shooting a film in the street

Cyfle am Swydd: Swyddog Ieuenctid

Rydym yn chwilio am Swyddog Ieuenctid i helpu i greu cyswllt â phobl ifanc drwy ein gwaith mewn addysg ffilm. 

Lleoliad: Mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, gyda llawer o staff yn gweithio’n hybrid gartref ac yn y swyddfa. Efallai y byddwch yn dymuno gwneud yr un peth. Fodd bynnag, gallech fod wedi eich lleoli yn unrhyw le yng Nghymru. Bydd y rôl hon yn cynnwys rhywfaint o deithio ledled Cymru.  
Cyfnod: Amser llawn – sef 35 awr yr wythnos, y gellir eu gweithio dros 4 neu 5 diwrnod.
Penodol: Blwyddyn, gyda'r potensial i ymestyn.
Cyflog: £22,000 - £26,000, yn ddibynnol ar brofiad.
Dechrau: Cyn gynted â phosibl.

Y Rôl

Mae ein tîm Cynulleidfa ac Addysg yn rheoli cronfeydd y Loteri Genedlaethol ac yn darparu cymorth ehangach gyda'r nod o hyrwyddo diwylliant ffilm cyfranogol a chynhwysol sy'n agored i bawb.  Fel rhan o hyn, rydym yn ariannu prosiectau addysg ffilm sy'n ysbrydoli camau cyntaf pobl ifanc i ddeall, archwilio a chreu ffilmiau, gan ddatblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol y cyfranogwyr yn ogystal â'u harfer creadigol. 

Caiff prosiectau a ariennir eu cyflawni gan ymarferwyr addysg ffilm annibynnol ac maent yn aml wedi'u hanelu at y rhai sydd fwyaf ar y cyrion a chan annog yr ymgysylltiad ehangaf posibl yn niwylliant ffilm ffyniannus Cymru. 

Gan weithio i'r Rheolwr Cynulleidfa ac Addysg (rheolwr llinell), bydd y Swyddog Ieuenctid yn ymwneud yn uniongyrchol â phobl ifanc – ochr yn ochr ag ymarferwyr addysg a ariennir i ddechrau ac yna, ar ôl i brosiectau a ariennir gael eu cwblhau, i sefydlu cyswllt uniongyrchol a thymor hwy â phobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau rydym wedi'u hariannu a chael gwell dealltwriaeth o’u diddordeb ehangach mewn ffilmiau a'r ffordd orau i gefnogi hynny drwy ein darpariaeth gyffredinol fel cwmni. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys cyfeirio at sinemâu lleol, addysg, sgiliau, rhwydweithiau, digwyddiadau o ddarpariaeth broffesiynol – fel sy'n briodol o ran oedran, lleoliad a diddordebau.

disability confident employer logo, living wage employer logo, anti-racist logo

Mynediad a Chynrychiolaeth

Rydym wedi ymrwymo i ehangu cynrychiolaeth a phrofiad byw o fewn ein sefydliad. Byddwn yn cynnig cyfweliad yn awtomatig i bob ymgeisydd sy'n bodloni neu'n dangos potensial cryf yn erbyn ein meini prawf gofynnol ac sy'n ystyried eu hunain yn Bobl o'r Mwyafrif Byd-eang, yn Bobl Dduon, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig a/neu’n F/byddar, yn drwm eu clyw, yn anabl neu’n niwroamrywiol.

Gallwn dderbyn a darparu gwybodaeth a chael mynediad at geisiadau mewn fformatau gwahanol, ac fe’ch anogwn i gysylltu â Sion Eirug – sion@ffilmcymruwales.com – i drafod sut y gallwn gefnogi eich anghenion mynediad.

Sut i Wneud Cais

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ddydd Iau 30ain Mehefin 2022.

Cynhelir cyfweliadau ar-lein ar 11eg a 12fed Gorffennaf 2022.

Gallwch wneud cais drwy anfon e-bost yn cynnwys CV ynghyd â llythyr eglurhaol yn nodi pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, sut rydych yn bodloni'r meini prawf sydd wedi’u rhestru fan yma a phryd y byddech yn gallu dechrau gweithio gyda ni. 

Os oes gennych ofynion mynediad, gallwn gytuno gyda chi ynghylch fformatau ymgeisio gwahanol, fel cyflwyno cais byr wedi'i ffilmio. Cysylltwch â sion@ffilmcymruwales.com i drafod.

Anfonwch eich cais drwy e-bost at sion@ffilmcymruwales.com