still from staying featuring a person in a thick coat standing outside a farm.

Cyfarfod  Gwneuthurwyr Beacons Zillah Bowes

I ddathlu darllediad y BBC o ffilmiau byrion a wnaethpwyd trwy’n cynllun Beacons, mae Ffilm Cymru’n rhannu cyfres o gyfweliadau’n cyflwyno'r gwneuthurwyr ffilmiau newydd o Gymru sydd wedi eu gwneud. 

Yn Aros Mae mae Zillah Bowes yn portreadu bywyd gwledig yng Nghanolbarth Cymru , ble mae gwraig o’r ddinas yn gwneud cysylltiad byr ond un sy’n newid bywyd, gyda ffermwr mynydd a’r tirwedd. 

Cyn y darllediad cyntaf o Aros Mae, buom yn siarad gyda Zillah am ei huchelgeisiau, ei phrofiadau a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Hi, allwch son ychydig amdanoch eich hunan?
Rwy’n wneuthurwr ffilmiau, arlunydd ac yn ysgrifennwr. Cefais fy magu yng nghefn gwlad a’i hail ddarganfod ychydig o flynyddoedd yn ôl pan symudais i’r mynyddoedd a chafodd hynny effaith drawsffurfiol ar fy ngwaith. Mae llawer o’m gwaith diweddar yn archwilio’r berthynas rhwng yr unigolyn a’r amgylchedd naturiol, ond gallai hynny newid! Mae gan fy ngwaith fel arlunydd gysylltiad ysbrydol o gwmpas newid hinsawdd. Fel gwneuthurwr ffilmiau, mae gen i ddiddordeb hefyd yn y rhaniadau mewn perthynasau a chymdeithas a sut mae’n cael ei ddatrys neu ddim yn cael ei ddatrys. Mae’n ymddangos fy mod yn treulio llawer o’m hamser gyda phobl a lleoedd fel proses ymchwil. Rhan amlaf, rwy’n cael fy ysbrydoli fwyaf wrth fod yn y byd - yn arsylwi, yn hongian o gwmpas - ac wedyn rwy’n cyfuno gyda’r delweddau sy’n tarddu o’m tu mewn, felly mae’r canlyniad efallai'n fwy barddol na realistig.

Beth a’ch ysbrydolodd i wneud Aros Mae?
Ychydig cyn i mi ysgrifennu Aros Mae, roeddwn yn arlunydd preswyl ger Rhaeadr yn y Canolbarth. Roeddwn wedi dechrau dod i adnabod fy nghymdogion, cymuned anghysbell o ffermwyr mynydd o denantiaid - rhai’n dal i hel defaid ar gefn ceffyl - roedd eu bywydau’n newid oherwydd yr argyfwng hinsawdd, Brexit a’r ansicrwydd economaidd. Roedd nifer wedi fy annog i dynnu lluniau ohonynt.  Roeddwn wedi dechrau gwneud hynny ar gyfer prosiect gwahanol Green Dark. Gosodais Aros Mae yn y gymuned hon fel stori ffuglen, yn castio pobl leol yn bennaf, ar wahân i fy actores arweiniol, yr actores a chantores 9Bach, Lisa Jên Brown. Roeddwn wedi byw ymhellach i’r gogledd o’r blaen, ble welais fideo wedi’i bostio ar lein gan ffermwr yn gwerthu ei gi defaid. Roeddwn wedi fy ngludo i’r dynnu. Arhosodd y ddelwedd gyda fi, a daeth hynny’n ddechrau’r stori: mae gwraig yn gweld fideo o gi ar werth ac yn teithio i gael hyd iddo ar fympwy, yn ffoi o’r boen o dorri lan.

Sut brofiad oedd symud o sinematograffi i gyfarwyddo? 
Hyfforddais yn y ddau, sinematograffi a chyfarwyddo rhaglenni dogfen yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Cenedlaethol a gweithiais yn y ddau wedyn.  Doedd symud i mewn i gyfarwyddo ffuglen felly ddim yn naid fawr. Roeddwn wedi gweithio ar ffilmiau ffuglen fel sinematograffydd ac wedi cyfarwyddo prosiectau rhaglenni dogfen.  Aros Mae yw fy ffilm ffuglen gyntaf fel awdur / cyfarwyddwr a fy mhrif gromen dysgu oedd ysgrifennu a datblygu’r sgript a gweithio gydag actorion a rhai nad oeddynt yn actorion. Roedd yn rhaid i mi ddysgu ymddiried mwy yn fy ngreddf, yn enwedig wrth gastio! Roedd yn gyffrous ac yn werth chweil ac wedi cadarnhau i mi fy mod eisiau dal ati i wneud ffilmiau ffuglen.

Pa fath o gefnogaeth rhoddodd Ffilm Cymru a BFI NETWORK (RHWYDWAITH Sefydliad Ffilm Prydain) i chi?
Roedd llawer o bethau gwych am fod ar y cynllun Beacons gyda Ffilm Cymru, BFI NETWORK a BBC Cymru Wales. Roedd yn ddefnyddiol cael y broses ddatblygu’n gyntaf cyn symud i gynhyrchu. Roedd wedi fy helpu i wahanu rhwng gwahanol gyfnodau’r prosiect fel awdur / cyfarwyddwr. Roedd yn ymarfer da gorfod ymgeisio am gyllid ar gyfer ein cynhyrchiad hefyd. Roedd llawer o’r prosesau yr aethom drwyddynt yn adlewyrchu’r rhai ar raglen ddogfen ac rwy'n eu cael yn amhrisiadwy nawr. Roedd hefyd yn bwysig fod gennym ni gyllideb a’i fod yn cael ei adlewyrchu yng ngwerthu cynhyrchiad y ffilm. Mae wedi’n galluogi dangos Aros Mae mewn lleoliadau a gwyliau gwych yn rhyngwladol. 

Cafodd y ffilm ei saethu ar 16mm gan y sinematograffydd eiconig Robbie Ryan; sut wnaethoch chi ddenu talent gyda chymaint o broffil uchel i'ch prosiect?
Roeddwn eisiau saethu’n llyfn ac yn ymatebol, i ddilyn fy mhrif gymeriad fel yr oedd hi'n symud i mewn ac allan o bobl, anifeiliaid a natur ac i ddal ei thu mewn. Roeddwn eisiau gael ei dal â llaw ac yn delynegol yn weladwy. Roedd fy nghynhyrchydd, Jack Thomas-O'Brien, a minnau’n teimlo y byddai Robbie'n anhygoel ar gyfer hyn, ac fe wyddom ei fod weithiau'n gweithio ar ffilmiau byrion. Roeddwn yn gobeithio y byddai ganddo ddiddordeb yn y gymuned a sut maen nhw’n gweithio yn y tirwedd gyda cheffylau, gan ei fod mor unigryw. Ac fel Jack, roedd wedi gweithio gyda’n cwmni cynhyrchu Sixteen Films gyda’r cyfarwyddwr Ken Loach, a ganddo brofiad gyda rhai nad ydynt yn actorion. Felly, i ddechrau rhannwyd rhywfaint o’r ffotograffiaeth gynnar o fy nghyfres Green Dark ac amlinelliad o’r stori gydag ef, ac wedyn y sgript. Ac roeddwn yn eithriadol o lwcus fod ganddo ddiddordeb mewn gweithio gyda ni ac ar gael. Roedd yn ffantastig ac mor hael yn ystod y saethu, cydweithredwr gwych!

Ar beth fyddwch yn gweithio nesaf?
Rwy’n datblygu fy ffilm ddogfen gyntaf fel awdur / cyfarwyddwr gyda fy nghynhyrchydd Jack yn Sixteen Films a Ffilm Cymru. Ar hyn o bryd rwy’n gyfranogwr ar y rhaglen datblygu LIM (Less is More) yn Ffrainc, sydd a’i phwyslais ar adrodd stori ar lafar.   Mae’n rhaglen ysbrydoledig gyda mentoriaid bendigedig. Mae fy ffilm yn un eco-brotest dod i oed gyda merch ifanc yn brif gymeriad. Rwy’n mwynhau sut mae’r broses ddatblygu’n ymddangos yn ymestyn i elfen wahanol o'r cymeriadu a'r stori ar yr un pryd.  Rwy’n wirioneddol edrych ymlaen at y cyfnodau nesaf o’i wneud.

portrait photo of zillah bowes

Cafodd Aros Mae ei gynhyrchu gan Jack Thomas-O’Brien yn Sixteen Films trwy Ffilm Cymru a chynllun Beacons RHWYDWAITH Sefydliad Ffilm Prydain ar y cyd â BBC Cymru Wales. Gwyliwch ar BBC Dau ar 23:35, Dydd Iau 8 Rhagfyr.