a still from Jelly featuring two people standing in front of a welsh flag in a cave holding hands

Cyfarfod  Gwneuthurwyr Beacons: Samantha O’Rourke

I ddathlu darllediad y BBC o ffilmiau byrion a wnaethpwyd trwy’n cynllun Beacons, mae Ffilm Cymru’n rhannu cyfres o gyfweliadau’n cyflwyno'r gwneuthurwyr ffilmiau newydd o Gymru sydd wedi eu gwneud. 

Mae comedi anarferol Sam O’Rourke, Jelly,  yn dilyn gwraig wedi diflasu ac wedi blino ar  y byd i lawr llwybr at ddihangfa danddaearol sy'n llawn o jeli, gobaith a merch ei breuddwydion.

Cyn i'r ffilm gael ei darlledu, buom yn siarad â Samantha am saethu mewn ogof yng ngogledd Cymru, cael ei mentora trwy raglen Sefydliad Ffilm Prydain a BAFTA a beth sydd o’i blaen yn y dyfodol.

Hi Samantha, allwch son ychydig amdanoch eich hunan?
Rwy’n dod yn wreiddiol o Ogledd-orllewin Lloegr a symudais i Ogledd Cymru ychydig o flynyddoedd yn ôl erbyn hyn.  Deuthum i wneud ffilmiau trwy lawer o waith mân werthu, dysgu llanw, gwneud brechdanau ac unrhyw neu’r cyfan o swyddi theatr! Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar ganfod ffyrdd at bynciau anodd trwy gomedi tywyll, annisgwyl, twp.

O ble daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer Jelly?
Yn sylfaenol, fy ymateb i yw'r ffilm i deimlo wedi fy llethu gyda sefyllfa popeth. Mae’n adeg wirioneddol giaidd i fod yn ifanc, popeth yn sgrialu i’r dde, eich dewisiadau’n culhau, rydych yn gorffen yn teimlo’n fwyfwy’n ddifreintiedig pob dydd. Ac yn wir, mae hyn yn arbennig i Gymru yn ei chyfanrwydd, byth yn pleidleisio dros y Torïaid ond yn dal i gael ei rheoli ganddynt trwy Lundain. Felly, mae Jelly, mewn gwirionedd yn golygu dilyn trwodd gyda’r syniad o ‘beth pe byddwn yn rhedeg i ffwrdd a gadael hyn i gyd ar ôl?’ i fod yn fympwyol, eithriadol o anymarferol ac eithafol o obeithiol yn y pendraw. 

Rwyf wastad wedi bod yn cael fy swyno gyda phopeth i wneud ag ogofâu a thwneli cyfrin.  Rwy’n meddwl ei fod yn codi o ddarllen llyfrau antur yn blentyn ac mae’n amlwg ei fod wedi aros gyda mi byth oddi ar hynny ac yn dal i godi ei ben o hyd yn fy ngwaith nawr! 

Sut beth oedd saethu’ch ffilm yng ngogledd Cymru?
Roedd yn llawenydd pur. Yn amlwg mae Cymru’n boblogaidd iawn am ffilmio - ond mae llawer o hynny yn Ne Cymru, felly roeddwn wedi fy nghyffroi i allu ffilmio popeth ond ychydig o funudau i lawr y ffordd. Mae’r holl actorion a’r artistiaid cefnogi'n lleol i Ogledd Cymru ac roeddwn yn teimlo ei bod yn wirioneddol braf gwneud rhywbeth yma. Pan fyddwch yn byw yn y wlad (fel rwyf wastad wedi gwneud) mae rhywbeth fel gwneud ffilm yn gallu teimlo’n bell i ffwrdd, felly mae'n gyffrous iawn. 

Pa fath o gefnogaeth roddodd Ffilm Cymru a BFI NETWORK (RHWYDWAITH Sefydliad Ffilm Prydain) i chi?
Cymaint o gefnogaeth! Mae yna dau brif edefyn mewn gwirionedd - y gefnogaeth ymarferol a chael ffilm fer wedi’i gwneud, felly ai’n ariannol, cysylltiadau yn y diwydiant, nodiadau sgript, lleoliadau - mae’r rhestr yn mynd ymlaen. Roedden nhw bob amser yno ar ben arall y ffôn, i saethu e-bost yn ôl ac i helpu datrys unrhyw beth a gododd ei ben. 

Yn ail, yr effaith mwyaf a gafodd Beacons arna i ar lefel bersonol, oedd yr ymddiriedaeth ynof i ddod â’r sgiliau roeddwn wedi’u datblygu mewn gwaith creadigol arall a’u defnyddio ar gyfer gwneud ffilm. Roedd yn drobwynt gwirioneddol i mi. Rwyf wastad wedi bod ag obsesiwn â ffilm a theledu ond heb yr un owns o syniad sut i gael i mewn iddo - yn wir, roedd yn teimlo fel miliwn o filltiroedd i ffwrdd ond roedd Ffilm Cymru mor hygyrch. Roeddwn wedi ymestyn allan yn eithaf lletchwith i ddweud ‘helo, Sam ydw i. Rwy’n hoffi ffilm’ ac ar unwaith cefais ymgysylltiad ac anogaeth. 

Llongyfarchiadau ar gael eich dewis ar gyfer rhaglen BFI Flare x Mentora BAFTA ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau LGBTQIA+ sy’n ymddangos. Sut mae hynny wedi helpu’ch gyrfa i ddatblygu hyd yn hyn?
Diolch i chi! Mae’n beth mor hyfryd bod yn rhan ohono. Mae yna grŵp bychan ohonom, pob un ar adeg debyg yn ein gyrfa, felly mae gallu dysgu o’n gilydd a chefnogi’n gilydd yn wirioneddol wych. Rhan o’r cynllun oedd mynychu Gŵyl BFI Flare, fy ngŵyl ffilm fawr gyntaf gan gwrdd â llawer o arbenigwyr y diwydiant ac artistiaid cwiar eraill. Mi helpodd i mi deimlo fy mod wedi fy nghysylltu ac i fynd a throchi fy hunan yn y gwaith amrywiol, ysbrydoledig roedd pawb yn ei wneud. Dylai’r mentora ddechrau yn y misoedd nesaf; rwy’n gyffrous iawn yn gallu pigo ymennydd rhywun sydd eisoes wedi cyflawni cymaint o’r pethau rwy’n gobeithio eu gwneud, felly, gwyliwch y gofod yma! 

Beth sydd ar y gweill gennych nesaf?
Rhagor o sgrin a rhagor o theatr! Roeddwn yn rhan o 4stories i Sianel 4 y llynedd, yn ysgrifennu pennod o’r enw mincemeat, felly mae hwnnw a Jelly wedi agor llawer o ddrysau i mi. Rwyf newydd gwblhau cyfres cwiar, gogleddol, arswydus ar gyfer Sianel 4 ac rwy’n datblygu fy ffilm ddogfen gyntaf wedi’i chefnogi gan Ffilm Cymru. Rwyf hefyd yn rhan o BBC Welsh Voices, ac mae wedi bod yn wirioneddol ddefnyddiol clywed oddi wrth lawer o ysgrifenwyr sgrin athrylithgar a datblygu syniad gyda chefnogaeth y tîm Voices.

portrait photo of sam o'rourke

Cynhyrchwyd Jelly gan Victoria Fleming, Rachel Wilson ac Alex Ashworth trwy Ffilm Cymru a chynllun Beacons BFI NETWORK ar y cyd â BBC Cymru Wales. Gwyliwch ar BBC Dau ar 23:05, Dydd Gwener 2 Rhagfyr.