still from jackdaw featuring a person walking through a dark tunnel

Cyfarfod  Gwneuthurwyr Beacons: Mac Nixon

I ddathlu darllediad y BBC o ffilmiau byrion a wnaethpwyd trwy’n cynllun Beacons, mae Ffilm Cymru’n rhannu cyfres o gyfweliadau’n cyflwyno'r gwneuthurwyr ffilmiau newydd o Gymru sydd wedi eu cynhyrchu. 

Mae’r ddrama Jackdaw, Mac Nixon, yn dilyn dyn unig ac aflonydd rhyfeddol , sy’n cael ei alw i gynorthwyo pobl gyda salwch terfynol i ddod a’u bywydau i ben. Mae’r baich trwm hwn yn datblygu fel hunllef pan ddaw’n bryd i gadw at addewid nad yw eisiau ei gadw.

Cyn y darlledu, buom yn eistedd gyda Mac i sgwrsio am saethu yn ystod pandemig, castio dilys a beth mae'n bwriadu ei wneud nesaf. 

Hi Mac, allwch chi son ychydig amdanoch eich hunan? 
Wrth gwrs! Rwy’n awdur / cyfarwyddwr o Dde Cymru sydd wedi bod yn gwneud ffilmiau mewn un ffurf neu'i gilydd ers yn bum mlwydd oed. Rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i wneud gyrfa allan o wneud ffilmiau, ai’n rhedeg ar setiau ffilm yn gwneud cwpaneidiau anhygoel (os alla i ddweud) o de a choffi, neu’n fwy diweddar cyfarwyddo hysbysebion Teledu ar gyfer brandiau proffil uchel - rwyf wedi gwneud y cwbl ac wedi bod wrth fy modd gyda phob eiliad ohono. Fodd bynnag, rwyf wastad wedi bod yn angerddol am y sinema ac rwyf ar fy mwyaf bodlon yn adrodd storïau diddorol, rhyfedd a chysylltu gyda chynulleidfaoedd trwy’r gelfyddyd o adrodd storïau.

Beth ysbrydolodd chi i wneud Jackdaw
Mae Jackdaw yn stori rwyf wedi bod yn awyddus dros ben i’w hadrodd ers peth amser. Mae’r testun yn bwnc sensitif a dadleuol ac yn un rwy’n teimlo’n eithriadol o angerddol amdano ond mae hefyd yn un rwy’n dal i deimlo gwrthdaro mawr drosto. Daeth yr ysbrydoliaeth mewn gwirionedd o ddryswch emosiynol ac athronyddol - roeddwn wedi fy nghyfareddu gan y ddau hanner a oedd yn groes ynof a ddaeth yr ysgogiad i adrodd fy hanes wrth geisio canfod ateb i gwestiwn.  Cwestiwn... Rwy’n dal heb ateb iddo. Roedd yn gyffrous archwilio’r daith honno trwy’r cyfrwng cinemateg. Y peth mwyaf diddorol i mi oedd y potensial oedd gan y ffilm hon i sbarduno sgwrs ddiddorol, nid yn unig am y mater o ewthanasia ond y syniad o gariad, colled a chysylltiad fel cyfanwaith. I mi, mae’r ffilm mewn gwirionedd, i gyd am ddealltwriaeth a’n gallu fel bodau dynol i fod yn empathig tuag at y penderfyniadau y mae eraill yn eu cymryd - hyd yn oed os nad ydym yn cytuno’n llwyr â nhw. 

Sut beth oedd saethu ffilm yn ystod y pandemig? 
Roedd yn eithriadol o heriol ac ar sawl tro gydol y cyn-gynhyrchu, yn teimlo’n ynysig iawn. Y peth rwy’n caru fwyaf am wneud ffilmiau yw natur gydweithredol y cyfrwng ac roedd pandemig byd eang yn gwneud cydweithio’n anodd iawn. Fodd bynnag, yn gyflym iawn fe wnaethon addasu fel tîm a goresgyn y rhwystr hwnnw ac roedd yn brofiad gwerth chweil. Cafodd popeth ei wneud yn rhithiol - castio, dylunio a datblygu sgript.  Gwnaethpwyd y cyfan dros Zoom a chymerodd pum mis i mi hyd yn oed gyfarfod un o’m cynhyrchwyr wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, rwy’n teimlo fod yr heriau a wynebwyd ond wedi annog ein cariad at wneud ffilmiau ac adrodd stori ar y cyfan. Rhoddodd pawb eu doniau a’u hymrwymiad tuag at y stori hon ac wedi cymryd diogelwch yn gwbl o ddifrif. Yn y pendraw, roeddwn yn gallu ysgrifennu, datblygu, saethu a gorffen ffilm yn ystod cyfyngiadau pandemig yn brofiad gwerth chweil. 

Gweithiodd y tîm cynhyrchu a chi eich hunan yn galed i sicrhau ysgrifennu a chastio dilys; allwch chi sôn am eich profiad gyda hynny? 
Yn y pendraw mae Jackdaw yn stori byd eang ac roedd yn eithriadol o bwysig i mi fod cast a chriw'r ffilm hon yn adlewyrchu hynny. Cymerais destun y pwnc yn gwbl o ddifrif ac ymchwiliais y pwnc yn drwyadl - darllen hanesion go iawn, siarad gyda phobl a oedd wedi cael profiad gydag ewthanasia a hyd yn oed gyfarfod â phobl a oedd wedi colli anwyliaid mewn un ffurf na’r llall. Mae’r ffilm fer hon yn cynnwys nifer o bobl ac roedd yn rhaid sicrhau amrywiaeth o actorion dawnus, talentog  yn rhywbeth y gwnes i, a fy nghyfarwyddwr castio, gweithio'n eithriadol o galed arno. Roedd fel ffitio jig-so gyda'i gilydd gyda darnau perffaith. Roedd yn ffilm hynod anodd am ei chastio ond rwy’n credu’n wirioneddol fod y ffilm orffenedig yn siarad dros ei hunan ac rwy’n mor ddiolchgar i’r actorion a roddodd gymaint i mi. Mae’r ffilm yn ymfalchïo mewn rhestr drawiadol o dalent brofiadol yn ogystal â newydd - gan gynnwys byw gydag anableddau - pob un yn helpu i roi gwybodaeth ac ail ffurfio'r stori sydd ar y sgrin.

Pa fath o gefnogaeth roddodd Ffilm Cymru a BFI NETWORK (RHWYDWAITH Sefydliad Ffilm Prydain) i chi? 
Roedd Ffilm Cymru a BFI NETWORK yn eithriadol o gefnogol yn ystod pob cyfnod o’r cynhyrchiad, yn enwedig wrth ddatblygu’r sgript.  Ond, y peth a greodd yr argraff fwyaf arnaf oedd faint o hyder yr oedd yn cael ei feithrin ynof i ac yn fy nhîm i barhau a dilyn ein gweledigaeth.

Beth sydd ar y gweill gennych nesaf? 
Yn ddiweddar rwyf wedi cynhyrchu a chyfarwyddo cwpl o ffilmiau byrion a fideos cerddoriaeth yn ogystal â gweithio ar nifer o brosiectau masnachol, ond fy mhrif nod creadigol, erbyn hyn, yw ystyried datblygu ffilm ddogfen. Mae gen i nifer o syniadau ond rwy’n archwilio un stori yn benodol a gafodd ei hysbrydoli’n uniongyrchol gan fy mhrofiad o wneud Jackdaw. 

portrait photo of mac nixon

Cafodd Jackdaw ei  gynhyrchu gan Ed Casey a Dan Bailey trwy Ffilm Cymru a chynllun Beacons BFI NETWORK ar y cyd â BBC Cymru Wales. Gwyliwch ar BBC Dau ar 23:15, Dydd Iau 8 Rhagfyr.