a still from an animated film featuring a person sitting on a crowded bus

Cychwyn cynhyrchu ffilmiau byr newydd o Gymru drwy gynllun Beacons

Mae Ffilm Cymru Wales wedi dewis chwe ffilm fer newydd i’w symud ymlaen i gael eu cynhyrchu drwy eu cynllun Beacons, gyda chymorth BBC Cymru Wales a BFI NETWORK gydag arian y Loteri Genedlaethol.

Mae'r chwe ffilm fer yma gan leisiau newydd unigryw ym myd y ffilm yng Nghymru yn adrodd storïau sinematig drwy sawl iaith a ffurf greadigol, gan gynnwys gweithredu byw, animeiddio a dogfen. 
 
"O ddrama am ddod-i-oed i ffilm gyffro am ddial, ac o ffilm arswyd wledig i ffilm anime a ffilm ddogfen stop-symudiad, yr hyn sydd gan ein ffilmiau byr comisiwn newydd yn gyffredin yw dawn adrodd stori ar y sgrîn fawr," meddai Rheolwr Rhwydwaith BFI Cymru, Jude Lister. "Rydyn ni wedi parhau i weld amrywiaeth arbennig o gyffrous o animeiddiadau'n dod drwodd, gan adlewyrchu mor gryf yw’r dalent yng Nghymru. Hoffwn longyfarch y gwneuthurwyr ffilmiau a weithiodd yn galed ar ddatblygu eu prosiectau, ac mae pob un ohonynt yn rhai i'w gwylio wrth iddyn nhw symud ymlaen yn y diwydiant."

Dim Ond Ti a Mi

Awdur-Gyfarwyddwr: Griff Lynch    

Yn y ffilm arswyd Gymraeg hon, mae gwerthoedd a diwylliannau yn gwrthdaro’n raddol mewn ffermdy anghysbell wrth i Mabli fynd ar daith i gwrdd â theulu ei chariad.

Meddai’r Awdur/Cyfarwyddwr Griff Lynch, sydd wedi cyfarwyddo ffilmiau byr, ffilmiau dogfen a fideos cerddoriaeth ar gyfer Channel 4, Amazon Prime, S4C, Nowness, RTE a'r BBC, "Rwy’n teimlo bod arswyd yn genre sydd wedi newid yn fawr iawn dros y degawd diwethaf, gan ddod yn ffordd llawer mwy goddrychol o adrodd stori. Dydw i byth yn hoffi bod yn rhy ddi-flewyn-ar-dafod yn fy ngwaith, a gobeithio y bydd y ffilm hon yn gweddu'n dda i'r arddull 'arswyd ddyrchafedig' hon o wneud ffilmiau. Mae hi mor amlwg y dylai Cymru a'r Gymraeg allu cynhyrchu storïau arswyd da, ac rydw i wir eisiau bod yn rhan o’u hadrodd wrth gynulleidfa ehangach y tu allan i Gymru."

Follow The Dogs    

Awdur-Gyfarwyddwr: Isabel Garrett
Cynhyrchydd: Sue Gainsborough

Mae'r rhaglen ddogfen rannol-animeiddiedig hon yn archwilio perthynas y claf canser Warren Hastings â gofal iechyd a chreadigrwydd wrth iddo wella o’i driniaeth.

Meddai’r Awdur-Gyfarwyddwr Isabel Garrett, sydd â chefndir mewn adrodd straeon animeiddiedig ac sydd wedi cyfarwyddo comisiynau stop-symudiad ar gyfer Channel 4, Alexander McQueen, The Eels ac Amazon:  "Rydw i ar ben fy nigon ein bod ni wedi cael ein dewis i fod yn un o gomisiynau ffilmiau byr Beacons. Mae stori Warren yn un sy'n arbennig o agos at fy nghalon. Mae'n hyfryd cael y gefnogaeth yma i wneud cyfiawnder â hi. Mae'r cyfnod datblygu gyda thîm Beacons a Ffilm Cymru wedi bod mor werthfawr eisoes, ac alla i ddim aros i gychwyn ar y cynhyrchu!"

Mother's Day    

Awdur: Emily Burnett    
Cyfarwyddwr: Darragh Mortell    
Cynhyrchydd: Laura Southgate 

Rhaid i fachgen ifanc sy'n hoff o'r gofod lywio ei ffordd drwy fyd newydd pan mae ei fam yn dioddef yn sydyn o argyfwng iechyd meddwl, ac wrth i’w fam-gu ddychwelyd o'r Caribî i ofalu amdano.

Yn ddiweddar comisiynwyd yr awdur Emily Burnett i ysgrifennu ar gyfer GALWAD, a bu’r cyfarwyddwr Darragh Mortell yn gyfarwyddwr ail uned ar The Phantom of the Open gan Craig Roberts. Meddai Emily: "Rwy'n edrych ymlaen gymaint at ddod â'r stori bersonol iawn hon yn fyw gyda thîm mor rhyfeddol o bobl. Ers i mi ddechrau ysgrifennu rwy wedi bod yn dyheu am gael adrodd y stori yma am wytnwch, cariad, tyfu fyny yn hil gymysg yng Nghaerdydd... a soseri hedegog. Gobeithio y bydd yn cynnig persbectif newydd ar gymhlethdodau profiad plentyn sy’n llywio ei ffordd drwy iechyd meddwl rhiant."

Passenger

Awdur-Gyfarwyddwr: Nia Alavezos    
Cynhyrchydd: Louis Jones 

Yn yr animeiddiad anime hwn, mae ysbryd dialgar yn ceisio meddiannu corff Cora, ond dros amser maen nhw’n meithrin perthynas gamweithredol.

Meddai’r Awdur-Gyfarwyddwr Nia Alavezos, a gyfarwyddodd ffilm fer Nadoligaidd Timeless Gifts gan Sun & Moon Studio:  "Mae'n golygu llawer bod Ffilm Cymru Wales yn rhoi'r cyfle yma i ni ddod â Passenger yn fyw. Mae'r ffilm hon wedi'i hysbrydoli gan gyfnod heriol yn fy mywyd ac o fy nghariad aruthrol at ddiwylliant Japaneaidd ac anime. Mae hefyd yn ymwneud â cheisio canolbwyntio ar y presennol, mynd i'r afael ag un dydd ar y tro, ac, yn achos Passenger, brwydro yn erbyn yr ysbrydion di-groeso hynny. Dwi'n gobeithio mai dyma'r cyntaf o lawer o ffilmiau anime i ddod drwy Gymru, gan arwain at gyweithiau gyda Japan yn y dyfodol. Amdani, dîm!"

Treading Water

Awdur-Gyfarwyddwr: Toby Cameron    
Cynhyrchydd: Simon Pax McDowell 

Caiff Dylan ôl-fflachiadau trawmatig o ymosodiad dieflig a welodd yn blentyn. A’i nerfau ar fin chwalu, mae'n mynd ar daith gathartig i helpu i achub ei swydd, ei briodas a'i feddwl.

Mae Toby Cameron, Awdur-Gyfarwyddwr a enwebwyd am wobr BAFTA Cymru, wedi gwneud ffilmiau ar gyfer y BBC, ITV, Channel 4 ac S4C, ac meddai: "Mae wedi bod yn bleser datblygu'r sgript i'r hyn yw nawr. Rwy’n teimlo ei bod wedi symud yn agosach at yr hyn roeddwn i’n bwriadu ei wneud pan wnes i ei hysgrifennu'n wreiddiol. Mae'n golygu cymaint bod fy ngweledigaeth ar gyfer Treading Water nid yn unig wedi'i dilysu gan BBC Cymru, BFI Network a Ffilm Cymru, ond ei bod hefyd wedi’i hannog a'i chefnogi. Rwy’n gwybod y bydd yn ffilm fer anhygoel a gwefreiddiol, ac allaf i ddim aros i’w gwneud. Bydd hyn nid yn unig yn helpu i ddatblygu fy ngyrfa i ond hefyd tîm ehangach On Par a fydd yn rhan o'r cynhyrchiad."

Crybaby

Awdur-Gyfarwyddwr: Eleri Edwards    
Cynhyrchydd: Tom Stubbs 

Wedi'i chomisiynu'n llawn gan Ffilm Cymru a RHWYDWAITH BFI Cymru, ffilm wedi’i hanimeiddio yw Crybaby, am fenyw sy'n dysgu deall ei hun yn well ar ôl cael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD) yn 25 oed.

Meddai'r Awdur-Gyfarwyddwr Eleri Edwards: "Dechreuodd Crybaby fel ffordd o ddogfennu fy mhrofiad o blentyndod hyd at fy niagnosis swyddogol. Rwy'n llawn cyffro o gael fy nghomisiynu gan Ffilm Cymru i wireddu’r ffilm yma, ac rwy'n gobeithio y gall wneud i bobl chwerthin yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am sut y gall awtistiaeth effeithio ar fenywod a merched."

Meddai Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales, "Mae'n deyrnged i'r bobl greadigol sydd ynghlwm â Beacons Cymru bod amrywiaeth mor wych ar y rhestr fer. Fe gân nhw eu gweld ar draws y DU ar BBC iPlayer ac mae BBC Cymru Wales yn arbennig o falch o gefnogi'r genhedlaeth nesaf yma o dalent."

Mae deg ffilm fer Beacons o Gymru ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer ar hyn o bryd, gan gynnwys y rhai diweddaraf i gael eu hychwanegu sef Jelly, comedi LHDTQ+ o ogledd Cymru gan Samantha O'Rourke; Seats, drama dywyll gan Nan Moore; Jackdaw, ffilm gyffro gan Mac Nixon sydd wedi’i henwebu am Wobr BAFTA Cymru, ac Aros Mae (Staying), portread Zillah Bowes o gymuned wledig.   

Mae disgwyl i gylch nesaf Beacons o gyllid ar gyfer ffilmiau byr agor yng Ngwanwyn 2023.