catrin stewart in dirt ash meat, standing outside in front of an old farm building

Cwrdd â gwneuthurwyr beacons: Sion Thomas

Ag yntau wedi’i ysbrydoli gan y nofel “White Ravens” gan Owen Sheers, mae drama dywyll Sion Thomas, Dirt Ash Meat yn adrodd stori Rhian a’i brawd Dewi wrth iddynt ymdrechu i gadw’r fferm fynydd maen nhw wedi’i hetifeddu gan eu tad yn ystod cyfnod dinistriol clwy’r traed a’r genau yn 2001. Wrth i’r clefyd gyrraedd eu stepen drws, mae Rhian yn trio rheoli ei brawd sydd mewn cyflwr cynyddol ansefydlog.

Cyn i’r ffilm gael ei dangos, dyma ni’n eistedd i lawr gyda Sion i sgwrsio am addasu storïau o’r dudalen i’r sgrin a chysgodi Euros Lyn.

Haia Sion, allwch chi sôn ychydig amdanoch eich hun?
Rwy’n wneuthurwr ffilmiau o dde Cymru. Rwy wedi gweithio ar deledu, ffilmiau nodwedd, fy ffilmiau byr fy hun gan gynnwys Dirt Ash Meat ac yn ddiweddar ar fideo cerdd ar gyfer Private World sydd i’w gweld fan hyn.

Pam wnaethoch chi ddewis y stori hon i’w hadrodd?
Mae gan Dirt Ash Meat gyswllt personol â fy mhlentyndod. Naw oed oeddwn i pan ddaeth clwy’r traed a’r genau yn frith drwy dde Cymru ac rwy’n dal i gofio’n glir mor uffernol oedd y cyfnod yna. O ystyried ei effaith ar fywydau pobl, rwy’n cofio nad oes llawer o ffilmiau, os oes o gwbl, a aeth i’r afael â’r cyfnod. Mewn rhyw ffordd fach, roeddwn i eisiau ceisio cywiro hynny.

Pa mor agos wnaethoch chi gydweithio ag Owen ar yr addasiad?
Fe gysylltais i ag Owen i ofyn a fyddai’n caniatáu i mi addasu ei nofel ‘White Ravens’. Fe wnaeth e fy annog i gymryd y deunydd gwreiddiol a’i ddehongli yn fy ffordd fy hun. Fe wnaeth ei ymddiriedaeth e roi’r rhyddid i mi addasu’r nofel i’r sgrin. Newidiodd llawer o’r elfennau gwreiddiol er mwyn iddi weithio fel ffilm fer, ond fe wnaeth y gosodiad, y cymeriadau ac yn bwysicaf, y teimlad, aros yr un peth. Roeddwn i’n nerfus yn y dangosiad cyntaf gydag Owen yn ei gwylio. Roeddwn i’n meddwl y byddai’n siŵr o ddweud “Beth wyt ti wedi gwneud i fy llyfr i?”, ond roedd yn llawn canmoliaeth.

Pa fath o gymorth roddodd Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI i chi?
Mae Ffilm Cymru a’r BFI wedi bod mor gynorthwyol drwy gydol y broses gyfan. Fe wnaethon nhw helpu i ddatblygu’r sgript, rhoi cyngor ar ddod o hyd i’r cynhyrchydd iawn, rhoi nodiadau ar y golygiad ac ar sut i ledaenu’r ffilm fer unwaith oedd hi’n barod.

Rydych chi wedi bod yn gwneud rhywfaint o gysgodi a gwaith ail uned gyda’r gwneuthurwr ffilmiau o Gymru, Euros Lyn (Dream Horse, His Dark Materials); sut gawsoch chi’r cyfleoedd hynny?
Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnes i ddod o hyd i gyfeiriad e-bost Euros Lyn, ac yn ddirybudd fe wnes i anfon Stiff Punch iddo, sef ffilm fer a wnes ar gyllideb fach am reslwyr yn y cymoedd. I ddweud y gwir, doeddwn i ddim yn disgwyl derbyn dim yn ôl ganddo, ond fe wnaeth ymateb â dwy neu dair tudalen o nodiadau ar fy ffilm fer. O’r fan honno, dechreuais anfon fy ngwaith i Euros i gael nodiadau ac ar ôl tipyn gofynnodd i mi a hoffwn i ei gysgodi ar His Dark Materials. Roeddwn i am fod yn gwneud yr un peth ar Dream Horse ond y diwrnod cyn i mi gychwyn, gofynnodd i mi a hoffwn i saethu’r ail uned. Mae’r cyfan yn deillio o’r ffaith bod Euros yn ddyn rhyfeddol o gefnogol a pharod ei gymorth.

Beth fuoch chi’n gwylio yn ystod cyfnod y cloi?
Rwy wedi bod yn ailwylio llawer o ffilmiau dogfen fel The Act of Killing, When We Were Kings a Slasher. O ran ffilmiau ffuglen, rwy wedi bod yn gwylio llawer o ffilmiau gan Spike Lee a Todd Solondz. Yn ddiweddar fe wnes i hefyd wylio hen ddrama ar gyfer ein cyfnod ni o’r chwedegau o’r enw Robin Redbreast, a wnaeth ysbrydoli The Wicker Man. Roedd honno’n arbennig o cŵl ac iasol.

Beth sydd gennych chi ar y gweill nesaf?
Gyda chymorth Ffilm Cymru, rwy’n gweithio ar hyn o bryd ar y sgript ar gyfer fy ffilm nodwedd gyntaf, Pig Eyes; stori ddod-i-oed am greadur rhyfedd wedi’i gosod mewn tref ddychmygol yn y cymoedd. Rwy hefyd yn gorffen ôl-gynhyrchu ffilm fer arall o’r enw Face Down In The Back Of A Car, ac rwy ar waith â’r broses o sefydlu cwmni cynhyrchu / cydweithfa ffilmiau newydd gyda gwneuthurwyr ffilmiau ifanc eraill o Gymru, ac rwy’n teimlo’n gyffrous iawn am hynny.

portrait of sion thomas

Cynhyrchwyd Dirt Ash Meat gan Catrin Lewis Defis drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI mewn cyswllt â BBC Cymru.