still from forest coal pit featuring two elderly men sitting in a farmhouse kitchen. One has a sheep on his lap.

Cwrdd â gwneuthurwyr Beacons: Siôn Marshall-Waters

I ddathlu darllediad diweddaraf y BBC o’r ffilmiau byrion cafodd eu gwneud drwy ein cynllun Beacons, mae Ffilm Cymru Wales am rannu cyfweliadau sy’n cyflwyno’r gwneuthurwyr ffilm newydd o Gymru fu’n gyfrifol am wneud y ffilmiau.

Mae rhaglen ddogfen Siôn Marshall-Waters, Forest Coal Pit, sydd wedi ei saethu ar super 8mm, yn bortread clos, agos-atoch, o ddau frawd oedrannus sy’n byw gyda’i gilydd ar fferm fechan yn y Mynyddoedd Duon, De Cymru.

Cyn darlledu’r ffilm, cawsom sgwrs â Siôn am y stori sydd wrth galon ei ffilm, yr hapusrwydd sy’n deillio o ffilmio mewn dull anarferol, a’r hyn mae am ei gyflawni yn y dyfodol.

Helo Siôn, alli di ddweud rhywfaint wrthym amdanat ti dy hun?
‘Rwy’n dod o’r Fenni yn wreiddiol, yn agos i ble mae’r ffilm wedi ei lleoli, ond erbyn hyn ‘rwy’n byw ym Mryste. Dechreuais yn y byd gwneud ffilmiau ar ôl i mi astudio anthropoleg weledol fel MA, ac ers hynny ‘rwyf wedi bod yn creu ffilm ethnograffig - mewn ystyr go eang.

Sut gefais ti wybod am y ddau frawd sydd yn dy ffilm?
Yn ôl yn 2018 roeddwn yn gweithio ar brosiect bach o’r enw Thieves Again oedd yn dogfennu profiadau pobl oedd yn byw ar y Mynyddoedd Duon. Dechreuais dynnu lluniau a ffilmio cynulleidfa eglwysig yr oedd y brodyr yn rhan ohoni, a daethom i adnabod ein gilydd yn eithaf da dros y flwyddyn neu ddwy ganlynol. Esblygodd y ffilm hon yn y pen draw o'n cyfeillgarwch a barhaodd ar ôl i'r prosiect cychwynnol ddod i ben.

Pam oeddet ti am adrodd eu stori?
Cefais fy nenu atynt yn gyntaf oll oherwydd eu bod yn gymeriadau mor lliwgar, a chanddynt hiwmor go finiog. Ond yn bwysicach oll, rwy’n credu mai ein cyfeillgarwch yw'r prif reswm pam fod y ffilm fel ag y mae. Mae’r ddau ohonynt yn bobl agored a chwilfrydig, ac fe wnaethon ni dreulio oriau yn siarad am bob math o bethau o Brexit i UFOs. Roedd y sylwadau yma, oedd yn ymddangos braidd yn ymylol, neu’n amherthnasol, ar adegau, hefyd yn sylwadau go ddwys, yn rhywbeth yr oeddwn am eu harchwilio yn y ffilm.

Pam wnes di benderfynu saethu ar super 8? Beth oedd y manteision a’r heriau?
Roedd adlewyrchu lliw ac egni byd y ddau  frawd yn bwysig, a theimlais fod hyn yn fwy addas ar gyfer ffilm analog. Yr hyn sy'n arbennig am super 8mm hefyd yw ei bod yn ffurf uniongyrchol, agos atoch ac yn gwyro rhywfaint o’r canol rhywsut, yn hytrach na’n ffurf sy’n ein gorfodi i arsylwi ar rhywbeth o bell ac mewn modd mwy goddefol. Mae’r heriau'n ymwneud â sain oherwydd nad yw popeth yn cyd-fynd (in sync) gan nad yw’r cyfan yn digwydd ar yr un pryd, ond teimlais fod hyn hefyd yn gweithio'n dda o ran tôn a ddaeth â chymaint o ryddid creadigol ag o gyfyngiadau yn ei sgîl.

Pa fath o gefnogaeth gefais di gan Ffilm Cymru Wales & RHWYDWAITH y BFI?
Y cyfnod datblygu cynnar oedd fwyaf defnyddiol i mi. Roedd gennyf eisoes syniadau am yr hyn oedd yn ddisgwyliedig, ac wedi addasu'r prosiect yn unol â hynny. Ar ôl cynnal nifer o sgyrsiau gyda chydweithwyr, a gyda Ffilm Cymru, daeth mwy o ffocws i’r prosiect, ac roedd gen i fwy o hyder yn yr hyn ro’n i eisiau ei wneud mewn gwirionedd. Oherwydd hyn, mae Beacons wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy llais sinema fy hun, ac i adeiladu rhwydweithiau cryfach gyda gwneuthurwyr ffilm, cynhyrchwyr ac artistiaid sy’n rhannu’r un feddylfryd.

Beth sydd ar y gweill nesaf?
Mae Forest Coal Pit newydd orffen cael ei dangos mewn nifer o wyliau sydd wedi cadarnhau fy ffydd ynof fi fy hun, ac hefyd wedi fy ysgogi. Yn y cyfamser, rydw i wedi bod yn datblygu syniadau byr a syniadau nodwedd newydd gyda Denzil Monk yn Bosena, a'r awdur o Gernyw, Callum Mitchell. Mae gennyf hefyd brosiectau eraill y byddaf yn dychwelyd atynt yn barhaus gyda'r gobaith o ddod o hyd i lwybr ffilmig ar eu cyfer yn y pen draw.
 

portrait photo of sion marshall waters

Cynhyrchwyd Forest Coal Pit gan Jessica Wheeler, a’i huwch-gynhyrchu gan Alice Lusher (ie ie productions) drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH y BFI NETWORK, mewn cyd-weithrediad â BBC Cymru Wales. Gallwch ei gwylio ar BBC Two ar 19 Hydref.