still from g flat featuring an elderly man sitting in a hospital chair, holding a spoon and looking down at a bowl of porridge.

Cwrdd â gwneuthurwyr Beacons: Peter Darney

I ddathlu darllediad diweddaraf y BBC o’r ffilmiau byrion cafodd eu gwneud drwy ein cynllun Beacons, mae Ffilm Cymru Wales am rannu cyfweliadau sy’n cyflwyno’r gwneuthurwyr ffilm newydd o Gymru fu’n gyfrifol am wneud y ffilmiau.

Yn nrama Peter Darney G♭ mae Ceri, sy’n 84 oed ac yn chwarae’r soddgrwth, yn dioddef strôc ddifrifol, ac yn bachu ar y cyfle sy’n bodoli, yn sgîl prinder gofalwyr, i ddefnyddio app cariadon, ac mae’n gwahodd Iestyn, sy’n gweithio yn y diwydiant rhyw, i ymweld ag ef. 

Cyn y darllediad bu i ni gwrdd â Peter i drafod ei brofiad o wyliau, yr hyn sy’n ei ysbrydoli, a chynrychiolaeth groestoriadol ar y sgrîn.

Helo Peter, alli di ddweud rhywfaint wrthym amdanat ti dy hun?
Rwy'n awdur/cyfarwyddwr yn wreiddiol o Gastell Nedd, bellach yn byw yng Nghaerdydd. Hyfforddais yn gyntaf fel actor yn CBCDC, ac yna fel cyfarwyddwr theatr, felly fe allech chi ddweud mod i wedi gweithio mewn llawer o swyddi yn y diwydiant cyn bwrw ati i wireddu fy ngwir alwedigaeth!

Beth ysbrydolodd ti i wneud G♭?
Mae G♭ yn sôn am agosatrwydd perthynas cwîar, cydsynio, a chael rheolaeth lwyr dros eich corff eich hun. Mae trafodaethau ynghylch cydsynio wedi datblygu mewn ffyrdd mor anhygoel, yn enwedig yn y gymuned cwîar, ac mae wedi bod yn wych gweld hyn yn digwydd. Ond roedd gen i ddiddordeb mawr yn y ffaith, wrth ichi fynd yn hŷn, eich bod chi, mewn gwirionedd yn colli llawer o'r hawliau hynny.

Gwelais hyn yng nghyswllt fy mam-gu, oedd, tua diwedd ei hoes, â chyfres o ofalwyr dieithr yn darparu gofal personol iddi, mor ofalus a thyner ag yr oedd yn bosib iddynt ei wneud ag ystyried bod eu hamser mor brin. A hefyd - ar y foment rydych yn meddwl nad yw’n bosibl i chi fyw rhagor - rydych yn gweld nad oes gennych chi’r hawl i roi’r gorau iddi, a bod rhaid i chi barhau i fyw,  a hynny heb roi eich caniatad. Roedd gen i ddiddordeb yn y ffaith - er y byddai rhywun yn cymryd yn ganiatol mai’r gwrthwyneb sy’n wir - fod gweithiwr yn y diwydiant rhyw yn deall beth yw cydsynio, a sut mae mynnu rheolaeth dros eich corff yn well nag unrhyw ofalwr.  Bod bosib iddyn nhw gynnig agosatrwydd arbennig (nid o ran y  corfforol yn unig) lle nad yw’n bosib i ofalwr wneud hynny.

Sut wnes di fynd ati’n sensitif i gynrychioli croestoriad o ran rhywioldeb, henaint, anabledd a’r diwydiant rhyw?
Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cynnal sgyrsiau agored gydol y broses gastio i wneud yn siŵr bod pawb yn gyfforddus gyda’r deunydd, ac yn barod i gyfrannu i’r stori yr oeddwn am ei hadrodd. Roedd Richard Wilson yn fy mhen i chwarae Ceri o'r cychwyn cyntaf (dwi ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi'i wneud pe bai wedi dweud ‘na'), a chawsom sawl sgwrs am y cymeriad a'r perthnasoedd yn y ffilm cyn iddo (diolch byth) ddweud ie. 

Fel Gwneuthurwr Ffilmiau Cwîar, roedd yn bwysig i mi gastio actorion LGBTQ+ yn y rhannau cwîar, ac roedd Nina (ein cyfarwyddwr castio) yn deall hynny’n iawn. Mae’r cymeriadau yn fy ffilm yn gwneud eu penderfyniadau o le ystyriol a gwybodus. Doedd dim angen trafodaethau ar foesoldeb eu penderfyniadau y tu hwnt i sicrhau ein bod yn cytuno eu bod i gyd yn gwbl ymwybodol o’r penderfyniadau roeddent yn eu gwneud, a hynny o’u gwirfodd. Sut mae’r penderfyniadau hynny’n effeithio ar ei gilydd, a’r ffaith bod normau cymdeithasol yn gwneud y penderfyniadau hynny’n anghyfreithlon, yw’r materion rwy’n gobeithio sbarduno sgwrs yn eu cylch. O ran oedran a rhywioldeb - rwy'n meddwl ei fod yn ddiddorol. Gyda materion fel diddymu cenedlaethau cyfan yn sgîl HIV; cymdeithas sy'n llai goddefol; materion iechyd meddwl, i enwi rhai yn unig. Nid oes cymaint o bobl LGBTQ hŷn o gwmpas, neu nid ydynt mor weladwy, ag y dylent fod. Mae’r ffactorau hyn yn sicr wedi cyfrannu at gyfyngu dewisiadau Iestyn. Yn y pen draw, roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y thema o agosatrwydd cwîar rhwng cenedlaethau yn gyffredinol.

Pa fath o gefnogaeth ges di gan Ffilm Cymru Wales & RHWYDWAITH y BFI?
Mae Ffilm Cymru Wales wedi bod yn hynod gefnogol i mi ar hyd fy nhaith o fod yn wneuthurwr theatr i fod yn wneuthurwr ffilmiau. Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi derbyn cyllid, amser ac adborth manwl ar fy mhrosiectau, ac mae Beacons yn sicr wedi bod yn gam hollbwysig i mi wrth i mi baratoi ar gyfer fy ffilm nodwedd gyntaf. Gall cyfarwyddo fod yn waith unig iawn, ond yn ogystal ag adborth a chyllid, bu i Ffilm Cymru fy nghyflwyno i gymheiriaid er mwyn i mi siarad â nhw drwy’r broses, oedd mor ddefnyddiol.

G♭ oedd y ffilm gyntaf i’w dangos yng Ngŵyl Ffilm LGBTQ+  Gwobr Iris llynedd, ac fe’i dangoswyd yn Flare y BFI ym Mawrth 2023; beth gefais di a’r ffilm allan o fynd i’r gwyliau hynny?  
Mae wedi bod yn rhyfeddol mewn gwirionedd. Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn hon yn gweithio ar Lost Boys and Fairies yn cysgodi’r cyfarwyddwr James Kent, ac yn cyfarwyddo’r 2il uned. Cefais wneud rhai pethau anhygoel, gan gynnwys cyfarwyddo golygfa gwffio ‘slow-motion’! Daeth y cyfle i wneud cais wedi i’r cynhyrchydd weld fy ffilm yn Iris. Arweiniodd hynny at gynnig i mi gyfarwyddo’r 2il Uned ar ffilm nodwedd newydd Euros Lyn The Radley’s, felly mae wedi rhoi lansiad gwych i mi yn bersonol i’r diwydiant. Mae hefyd yn wych fod gen i, erbyn hyn, ‘gerdyn ymweld’ sy'n rhoi syniad i bawb o bwy ydw i fel gwneuthurwr ffilmiau.

Rhywbeth fydd yn aros yn y cof am byth - pan oedden ni ar y llwyfan yn Flare yn cyflwyno'r ffilm - soniodd Richard am sut y bu iddo brynu aelodaeth i'r BFI pan symudodd i Lundain yn 1953, a'i fod wedi bod yn aros i fod ar y llwyfan yna ers hynny!

Mae’r ffilm wedi cael ymateb mor wych ble bynnag yr ydym wedi ei dangos, a’r cam nesaf i mi yw Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cwîar Taiwan, sydd wedi fy ngwahodd draw ar gyfer y dangosiad, ac rwy’n hynod gyffrous fy mod yn cael mynd â gwaith Cymreig cwîar at gynulleidfa hollol newydd!
 
Beth sydd ar y gweill nesaf?      
Fy nod yw parhau i weithio tuag at fy ffilm gyntaf fel awdur a chyfarwyddwr - Clapham Trashbag, sy’n seiliedig ar fy nrama 5 Guys Chillin’. Dysgais gymaint wrth wneud G♭, ac yn y gwaith rydw i wedi'i wneud ers hynny, ac rwy'n awyddus iawn i ddefnyddio’r wybodaeth newydd mewn prosiect ffurf hirach. Mae gen i hefyd ffilm fer gysyniadol sy’n barod i'w saethu, felly'r cyfan sydd ei angen arnom nawr yw'r cyllid!

portrait photo of peter darney

Cynhyrchwyd G♭ gan Brett Webb drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH y BFI, mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales. Gallwch ei gwylio ar BBC Two Wales 24 Hydref.