two young people in an alleyway

Cwrdd â gwneuthurwyr Beacons: Joseph Ollman

Drama ddod-i-oed yw ffilm fer Joseph Ollman, Bitter Sky, wedi’i gosod yn nhirwedd wyllt canolbarth Cymru yn y nawdegau, gyda Darci Shaw yn serennu fel Nia, cymeriad cythryblus, caled a hynod graff, sy’n dechrau datrys dirgelwch ei mam absennol.  

Cyn i Bitter Sky gael ei darlledu am y tro cyntaf, cawsom sgwrs gyda Joseph am ei yrfa hyd yma, sut aeth ati i greu’r ffilm, a beth fydd yn gwneud nesaf.

Haia Joseph, allwch chi sôn ychydig amdanoch eich hun?
Awdur-gyfarwyddwr o ganolbarth Cymru ydw i sydd bellach yn byw yn Llundain, ond rwy hefyd yn actor. Rwy’n dwlu ar sinema, ac wastad wedi bod, a dyma pam y gwnes i benderfynu mynd i ysgol ffilm. Bitter Sky yw fy nhrydedd ffilm fer, a fi wnaeth ei hysgrifennu a’u chyfarwyddo.

Sut brofiad gawsoch chi yn creu Bitter Sky?
Roedd yn brofiad cathartig iawn, mewn gwirionedd. Yn enwedig dychwelyd i Gwm Elan yng nghanolbarth Cymru, ardal fy magwraeth, ac ardal sy’n arunig ond yn brydferth. Dydw i heb fyw yno ers amser maith, ond mae’n dal i deimlo’n rhan ohonof i. Roedd dod â chast a chriw o bob rhan o’r byd i’r pentref bach anghysbell yma yn beth arbennig iawn. Roedd pobl y ddinas yn ei gweld yn heriol iawn ffilmio mewn amgylchedd mor anghysbell, ac roedd hynny’n go ddifyr i mi. Gall cyfarwyddo ffilm fod yn llawer o straen, ond roedd gen i dîm mor hyfryd o fy nghwmpas fel ei fod yn brofiad go ddi-straen yn gyffredinol. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda’r actorion, yn arbennig Darci Shaw, sy’n hynod dalentog ac sydd â dyfodol disglair o’i blaen. Braint oedd cael gweithio gyda hi ar ddechrau ei gyrfa. Gobeithio y bydd hi eisiau gweithio gyda mi eto!

Pam oedd hi mor bwysig i chi osod y ffilm yn y nawdegau yng nghanolbarth Cymru?
Roeddwn i’n awyddus iawn i saethu ffilm yng nghanolbarth Cymru, yn bennaf am mai dyna lle cefais i fy magu ac roeddwn i eisiau cynrychioli’r rhan honno o’r byd. Rwy hefyd wastad wedi meddwl y byddai’n lle gwych i saethu – mae mor iasol a sinematig. Rwy’n dwlu ar y nawdegau, am mai dyna gyfnod fy magwraeth ac rwy wastad wedi meddwl bod iddo esthetig deniadol iawn. Roedd yn helpu’r stori hefyd am ei fod yn gyfnod cyn unrhyw ffonau symudol neu unrhyw beth fel yna – felly mae mwy o synnwyr o arwahanrwydd i’r cymeriadau.

Pa fath o gymorth roddodd Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI i chi?
Fe wnaethon nhw ein cefnogi’n ariannol wrth gwrs, ond roedden nhw hefyd yn wych ar gam datblygu’r sgript – yn gwneud yn siŵr bod y sgript a’r bwriadau y tu ôl i’r ffilm yn cydweddu. Fe wnaethon nhw gynnig sesiynau adborth grŵp lle roedden ni’n trafod sgriptiau ein gilydd, ac roedd hynny’n help mawr. Wrth olygu’r ffilm, fe wnaethon nhw ddarparu adborth defnyddiol iawn, ond roedden nhw hefyd yn rhyfeddol o gefnogol i fy ngweledigaeth bersonol ar gyfer y ffilm.

Pa fathau o storïau ydych chi’n cael eich denu at eu hadrodd?
Rwy’n aml yn cael fy nenu at storïau sydd wedi’u gosod yn gadarn mewn realiti – am bobl arferol a’u hymdrechion. Rwy wrth fy modd yn gweithio gyda phobl ifanc yn arbennig, am fod elfen amrwd i’w perfformiadau yn aml – felly storïau’n seiliedig o amgylch ieuenctid a diniweidrwydd, sy’n aml yn cael ei herio neu’i ddinistrio yng nghwrs y ffilm. Rwy eisiau adrodd storïau am bobl o Gymru yn arbennig, ac mae cynrychioli’r wlad rwy’n dod ohoni yn eithriadol o bwysig i mi. Ar wahân i hyn, rwy’n aml yn cael fy nenu i adrodd storïau sydd â llawer o droeon, gan gadw’r gynulleidfa ar bigau’r drain ac yn disgwyl am i rywbeth gwael ddigwydd.

Beth fuoch chi’n gwylio yn ystod cyfnod y cloi?
Cwestiwn da. Wnes i ddim gwylio llawer, â dweud y gwir. Fe wnes i ysgrifennu a ddarllen llawer. Ond fe wnes i chwalu fy ffordd drwy gyfres gyfan Normal People, ac roeddwn i’n dwlu arni. Mae’r ddau actor ifanc yna’n rhagorol.

Ar beth fyddwch chi’n gweithio nesaf?
Rwy yn Rhufain ar hyn o bryd, yn actio mewn cyfres i Sky Atlantic o’r enw Domina, sydd i fod i gael ei rhyddhau yn gynnar y flwyddyn nesaf. Rwy hefyd wedi ysgrifennu ffilm nodwedd yn ystod cyfnod y cloi, ac rwy’n gobeithio cael gwynt dan ei hadain yn 2021. Ar wahân i hynny, rwy ar gam datblygu cynnar a thrafodaethau gyda Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI ynglŷn ag ysgrifennu ffilm gyda fy chwaer, Ruth Ollman, sydd hefyd wedi’i gosod yng nghanolbarth Cymru.

portrait of joseph ollman

Cynhyrchwyd Bitter Sky gan Peter Lee Scott a Jennifer Gelin drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI mewn cyswllt â BBC Cymru.